10 peth i’w wneud yn eich wythnos gyntaf:
- Y peth pwysicaf i’w wneud yn ystod yr Wythnos Groeso yw rhoi tro i Ffair y Glas!!
- Dyma lle cewch chi weld ein holl glybiau a chymdeithasau. Cewch holi aelodau’r pwyllgor ynghylch y fath o sesiynau y maen nhw’n eu cynnal, pryd mae eu digwyddiadau, a chael gwybod mwy amdanynt yn gyffredinol. Cewch hefyd yn Ffair y Glas lawer o bethau am ddim ee pizza neu sushi!
- Beth am fynychu digwyddiadau cymdeithasol clwb neu gymdeithas sy’n denu eich diddordeb. Cysylltu â phobl sy’n rhannu yr un diddordebau â chi yw mynychu digwyddiadau cymdeithasol yn eu hanfod, hynny yw ffordd dda o gwrdd â phobl! Peidiwch ag anghofio mai pwyll piau hi ar noson allan, ta waeth.
- Ewch am dro i’r dref. Lle pert iawn yw Aberystwyth, gyda llawer o gaffis a siopau. Ewch i ymweld â’r castell, cymerwch olwg ar y traeth a dewch i nabod Aber!
- Ewch i nofio yn y môr! Bydd tymheredd y dŵr fel arfer yn o lew erbyn diwedd yr haf, felly manteisiwch i’r eithaf ar hynny cyn y gaeaf!
- Os ydych chi wedi anghofio pacio rywbeth, ewch i SÊL FAWR yr Undeb. Dyma lle cewch chi gael gafael ar nwyddau cegin fel platiau, potiau a phadelli am ddim! Os collwch chi hi, mae hefyd modd i chi gael hyd i lawer o bethau yn siopau elusen y dref.
- Ewch am dro!! Mae’r byd natur o amgylch Aber yn rhagorol, rydyn ni mor ffodus o gael byw mewn amgylchedd felly. Ceir ddigonedd o gyfleoedd: cerdded ar hyd y prom, mynd i Dan y Bwlch, mynd i ben Consti, dringo Pen Dinas, crwydro yng nghoedwig Penglais… fe allwch hefyd gerdded o Consti i Borth, sef darn 6 milltir o lwybr arfordir Cymru gyda golygfeydd heb eu hail! Mae modd i chi ddychwelwyd i Aberystwyth ar y trên o orsaf drenau Borth.
- Ewch am baned yng Nghanolfan y Celfyddydau. Lle hyfryd a allai ddod yn brif lecyn astudio i chi!
- Gwyliwch y machlud o’r olygfan yng nghoedwig Penglais. Mae’r golygfeydd o’r dref a’r môr yn anhygoel, a gwnaiff yr atgofion o wylio’r machlud oddi yno barhau am oes.
- Mynychwch ddigwyddiadau eich adran. Hyn fydd y ffordd orau i chi ddod i nabod pobl o’ch cwrs y byddwch chi’n treulio amser gyda nhw am weddill eich gradd! Bydd adrannau fel arfer yn ceisio trefnu rhywbeth hwyliog lle gall myfyrwyr gysylltu â’u gilydd, a dylech chi fanteisio arni.
- Ewch i chwilio o gwmpas am addurniadau braf i’ch ystafell fel bod eich amgylchedd yn y Brifysgol yn glyd a hyfryd!