Rydym yn galw am bleidlais yr holl fyfyrwyr ar ôl i ni dderbyn deiseb gan fyfyrwyr. Cwestiwn y bleidlais i'r holl fyfyrwyr fydd:
“A ddylai Undeb Aber weithio gyda’r Brifysgol i beidio â gwerthu cynnyrch Costa Coffee yn y ‘Cwtsh Coffi’ sy’n eiddo i’r Brifysgol yn adeilad Undeb y Myfyrwyr a throi at gyflenwr coffi o Gymru yn lle?”
Dyddiadau Allweddo
- Dyddiadau Allweddo Cyhoeddi Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr: 13.02.2026
- Cyfarfod Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr: Picturehouse UM: 19.02.2026 5pm
- Pleidleisio'n Agor: 2.03.2026 11am Pleidleisio yn cau: 06.03.2026
- Dyddiad cau ar gyfer cwynion: 06.03.2026 1pm
- Canlyniadau (ar-lein): 06.03.2026 3pm
Beth yw Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr?
Balot y mae holl aelodau Undeb Aberystwyth yn cael bwrw pleidlais ynddo yw ‘Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr’.
ni ellir ond pasio cynnig gan Bleidlais mewn Refferendwm o’r Holl Fyfyrwyr pe bai 500 o Aelodau yn bwrw pleidlais yn y Bleidlais o’r Holl Fyfyrwyr a bod mwyafrif o’r pleidleisiau o blaid y cynnig.
Timau Ymgyrchu
Mae modd sefydlu tîm ymgyrchu o blaid opsiynau penodol yn ystod Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr. Os hoffech ymgyrchu dros opsiwn penodol, yna bydd cyfle i chi drefnu ar ddiwedd y cyfarfod
Dyddiadau Allweddol Tîm Ymgyrchu
- Cyfnod ymgyrchu: 23.02.2026 - 06.03.2026
- Dyddiad cau ar gyfer anfon datganiadau ie neu na ar y llwyfan pleidleisio (150 gair) ar gyfer y papur pleidleisio i'r Adran Llais Myfyrwyr: 23.02.2026 12pm
Rules and Briefing
Key Contacts:
If you have any questions, feel free to contact: suvoice@aber.ac.uk