Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, sy'n cael ei ddathlu'n flynyddol ar 8 Mawrth, yn ddigwyddiad byd-eang sy'n anrhydeddu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o anghydraddoldeb rhywiol a dadlau dros hawliau menywod a chydraddoldeb rhywiol. Mae'r diwrnod yn cael ei nodi gan ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a gweithgareddau ledled y byd, gyda'r nod o ysbrydoli a grymuso menywod, cydnabod eu cyfraniadau, a hyrwyddo ymdrechion tuag at sicrhau cydraddoldeb rhywiol.
 |
2025
Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, cynhaliwyd gan yr Undeb parti te arbennig i ddathlu menywod yn dod ynghyd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys barddoniaeth gan ein Swyddog y Menywod, Livvy.
Mynychodd y Swyddog Lles, Mo, a’r Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth, Ash, y Gwobrau Amlygu a drefnir gan Brifysgol Aberystwyth i ddathlu cyfranogiad menywod at ymchwil a rhagoriaeth ar draws y Brifysgol.
|
“Hyfryd oedd cael mynychu’r Gwobrau Amlygu a chlywed am yr holl waith sydd wedi bod yn digwydd. Roedd y digwyddiad hwn yn gynhwysol ac iddo naws cadarnhaol iawn. Roedd clywed gan bobl ysbrydoledig iawn, darllen amdanynt a chael sgwrsio gyda nhw yn galondid mawr!” - Mo (Llywydd Lles a Rhyddid 2024-2025)
“Mae Parti Te Diwrnod Rhyngwladol y menywod yn lle arbennig iawn â’r nod o ddod â menywod at ei gilydd ar ddiwrnod sy’n dathlu menywod heb wahaniaeth. Byddaf bob tro yn mwynhau eistedd a sgwrsio â menywod eraill, ac mae cael y lle hwn i ni ddod ynghyd ac i ni fod yn ni ein hunain heb ofn yn wirioneddol wych. Eleni, cawsom rai o’n Tîm Arweinyddiaeth yr Undeb yn siarad, a siaradais i am fy hanes yn ymladd dros dâl cyfartal mewn gweithle arall. Mi oedd yn hyfryd iawn yn gyffredinol.” - Tiff (llywydd Cyfeoedd 2023-2025)
 |
2024
Wnaethom ni fanteisio ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024i dynnu sylw at nerth Menywod Cymru gan gynnal trafodaeth gyda Siân Howys a Mererid Hopwood lle cawsant y cyfle i sôn am Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru! Dylem ni ymfalchïo’n fawr yn yr hanes rhyngwladol yma pan ddangosodd 390,000 o fenywod eu hewyllys am heddwch a’i rannu ar draws yr UDA er mwyn ymgyrchu dros fyd heb ryfel.
2023
Cynhaliodd Undeb Aber stondin yn y Bandstand ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023. Roedd gan y stondin wybodaeth am ein hymgyrchoedd ar y pryd yn ogystal â thynnu sylw at y menywod anhygoel sy’n gweithio yn Undeb Aber. Daethom ni hefyd â rhai o’r baneri a wnaed gan fyfyrwyr ar gyfer gorymdeithiau Adennill y Nos o’r blynyddoedd diwethaf.
Yn ystod y diwrnod hwnnw, cawsom ni barti te Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Roedd yn gyfle i ni ddathlu llwyddiannau menywod gyda chacenni a the a gwrando ar gerdd ffeministaidd gan Clare Foley a thaith arbennig ein Prif Weithredwraig anhygoel Trish McGrath.
|