Gwaredu Straen Arholiadau Aber

Yn aml gall cyfnodau arholiadau ac asesu fod yn gyfnod prysur iawn i lawer o fyfyrwyr gyda amser arholiadau ac therfynau asesu yn rysáit ar gyfer gorlwytho posibl.

Eleni mae Undeb Aber yn gweithio gyda myfyrwyr a rhai sefydliadau allanol i ddarparu digwyddiadau a gweithgareddau i'ch cefnogi yn ystod cyfnodau arholiadau ac asesu.

Rydym hefyd am sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch yn ystod y cyfnod, felly peidiwch â bod ofn edrych ar y wybodaeth ar ddiwedd y dudalen hon i gael gwasanaethau cymorth ac awgrymiadau defnyddiol.

Mae’r rhestr isod yn dwyn sylw at amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Dyddiadau i'w cadarnhau


  • Galw Heibio Cyngor Academaidd - Dydd Mercher 21ain o Ionawr 10yb-12:30yp & 1yp-3yp, Swyddfa Gynghori Hwb Tanddaearol Undeb - Gallwch hefyd gysylltu â'n cynghorydd i drefnu apwyntiad. https://www.umaber.co.uk/cyngor/cysylltuachynghorydd/
  • Lleddfu straen wrth gael dêt ‘da ci! - Dydd Mercher 7fed o Fai 1:30-3yp, Picturehouse - Bydd Cariad Pet Therapy yn dod â chŵn hyfryd i chi ddod i gael cwtch gyda nhw! 
  • Ystafell Lles - Ar gael pan fydd yr adeilad ar agor - Beth am ddefnyddio'r ystafell hyfryd hon i ymlacio. Gellir dod o hyd i'r ystafell hon i lawr y coridor cefn o danddaear yr Undeb.
  • Ioga dad-straen gyda Cat - Dydd Gwener 23ain o Ioanwr 11yb, Ystafell 5 yn yr Undeb - Croeso i bawb o bob gallu, bydd hon yn sesiwn hamddenol i'ch helpu i ymestyn allan ac adnewyddu yn ystod eich arholiadau. 
  • Gorsaf lliwio - Ar gael pan fydd yr adeilad ar agor - A yw lluniadu yn eich helpu i ganolbwyntio neu ymlacio, rydym wedi darparu rhai adnoddau i'ch helpu. Mae taflenni lliwio a phensiliau lliw ar gael yn rhan danddaearol yr Undeb gyferbyn â hwb y swyddogion.
  • Brecwastau, diodydd poeth, diodydd oer, byrbrydau a ffrwythau am ddim​ - Ar gael nes i ni redeg allan, drwy’r mis yn ein Cegin Gymunedol. Dewch i gael brecwast neu fyrbryd cyflym i danio'ch ymennydd yn ystod tymor arholiadau!
  • Pêli straen am ddim​ - Ar gael pan fydd yr adeilad ar agor nes i ni redeg allan - Eisiau gwasgu rhywbeth i ddad-straenio, dewch i gael pêl straen am ddim. Bydd y rhain ar gael yn rhan danddaearol Undeb gyferbyn â hwb y swyddogion.
  • Rol selsig am ddim​ - Byddwn yn hyrwyddo'r rhain ar ein cyfryngau cymdeithasol a byddant ar gael gyda thaleb ar ddiwrnodau penodol. Tanwydd cyflym cyn arholiad prynhawn! Bydd y rhain ar gael o dderbynfa Undeb pan gânt eu hysbysebu ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Pob lwc gan bawb yn Undeb Aber!


Edrychwch ar ein Canllaw ar Les a Lleddfu Straen gan eich Swyddogion Llesiant a Materion Academaidd, wedi’u hysgrifennu i’ch helpu yn trwy gyfnod yr arholiadau!

 

          


Eisiau ychydig o gyngor gan Dîm y Swyddogion?

Ewch i weld eu herthygl, “Cyngor Gorau ar Waredu Straen” i gael cyngor ymarferol i’ch helpu i lywio cyfnod yr arholiadau.


Gwasanaethau Cymorth

Yn ogystal â digwyddiadau a gweithgareddau, rydym am eich atgoffa o rai o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael pe baech chi eu hangen yn ystod cyfnod a all beri cryn straen.

Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber

Cysylltu  Chynghorydd

Gwasanaethau Myfyrwyr - Gwasanaeth Cyngor ac Arian

Ffôn: 01970 621761/622087

E-bost: cynghorydd-myfyrwyr@aber.ac.uk

Gwasanaethau Myfyrwyr - Gwasanaeth Lles

Ffôn: 01970 621761/622087

E-bost: lles@aber.ac.uk

Gwasanaethau Myfyrwyr - Hygyrchedd

Ffôn: 01970 621761/622087

E-bost: hygyrchedd@aber.ac.uk

Gwasanaethau Myfyrwyr - Gyrfaoedd

Ffôn: 01970 622378

E-bost: gyrfaoedd@aber.ac.uk

 

Peidiwch ag anghofio bod amrywiaeth o bobl ar draws y campws a all gynnig gair o gyngor a chefnogaeth, gan gynnwys mentoriaid myfyrwyr, tiwtoriaid personol a staff yn eich adran.


 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576