Ffair Reffreshars (Diwrnod 2)
Ydych chi am ddechrau'r flwyddyn newydd gyda chyffro ac egni?
Ein Ffair Reffreshars ni yw eich drws i lond tymor o atgofion byth gofiadwy ac yn rhoi i chi’r cyfle i ddysgu mwy am beth sydd gan Undeb Aber a sefydliadau eraill i’w gynnig!
Beth i’w ddisgwyl:
Yr Awr Dawel: Dechreuwch y Ffair Reffreshars gyda munud fach dawel! Dewch i fanteisio ar yr Awr Dawel, ni fydd dim cerddoriaeth sy’n helpu creu man tawel a chynhwysol. Cofiwch nôl bathodyn anabledd oddi wrth stondin yr Undeb i chi fynd o gwmpas y digwyddiad wrth eich pwys a heb straen.
Cyfleoedd Diderfyn: Mae dros 120 o glybiau, cymdeithasau, a phrosiectau gwirfoddoli i’w darganfod! Mae gan Tîm Aber rywbeth at ddant pawb, boed yn chwaraeon, diddordebau, neu ddechrau eich grŵp eich hun.
Stondinau Rhyngweithiol: Tarwch sgwrs gyda chynrychiolwyr angerddol o fusnesau a sefydliadau lleol ac adrannau’r Undeb. Dysgu am eu gwasanaethau, eu nwyddau, a’u hymgyrchoedd – mae yna gymaint i’w weld!
Pethau Am Ddim: Peidiwch â cholli’r pethau, danteithion, gwobrau hwyliog unigryw fydd i’w cael am ddim! Dewch â bag a rhowch dro ar yr olwyn wrth stondin yr Undeb i gael y cyfle i ennill rhywbeth cyffrous.
Perfformiadau Arbennig: Dewch i brofi harmonïau hardd y cantorion madrigalau Elisabethaidd, cymdeithas hynaf Aberystwyth!
Clubs/Socs
| Aber Archers |
| ACV |
| Airsoft |
| American Society |
| Amnesty |
| Book Club |
| Boxing club |
| Canoe club |
| Cartoon and comics society |
| Dancesport |
| Disability and Neurodiversity Society |
| Doctor Who Society |
| |
| Elizabethan Madrigal Singers |
| ESN Aberystwyth |
| FightSoc |
| Hiking |
| House society |
| Interpol Society |
| Karaoke Society |
| Kickboxing Society |
| Labour Students |
| Lacrosse |
| Little Free Library Project |
| Living History |
| Medieval Reenactment Society |
| Nintendo Society |
| Ornithological Society |
| Pirate Society |
| Pride |
| Scriptwriting Society |
| Snowsports |
| Sound System Society |
| Surf |
| Theatre Society |
| Tidal Waves Student Radio |
| Ultimate Frisbee |
| Green Party |
| Women Fitness |
Stondinau Prifysgol
- Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg
- Careers & Employability Service
- NSS
- Undeb Aber
- UMCA
- Arts Centre
Stondinau Elusennau