Astrid Investigates - A Flying Bridge Theatre audio drama

Yn gyfuniad o Bond a Marple, gyda mymryn o Poirot a Spade ar ei ben, mae'r Ditectif Preifat Astrid Price ar ymgyrch i ddal ei gelynion o'i fflat ar ben y siop sglods yng Nghasnewydd.
 
Gan lercian ar hyd strydoedd mileinig Gweriniaeth Annibynnol Cymru yn y dyfodol gweddol agos, mae celfyddyd ysbïwriaeth rhwng yr Hen Loegr a'r Weriniaeth Annibynnol newydd yn fyw ac yn feiddgar – mae cyn-gapten rygbi Cymru'n barod i daclo pob dirgelwch a ddaw i'w rhan, a does neb yn fwy sicr o dywys pob drwgweithredwr i'r llys.
 
Ond a all hi ddod o hyd i Goron Brenin Arthur er mwyn atal rhyfel diplomyddol enfawr? A yw Mona Gladys, y seren Hollywood o Gymru, wir mor annwyl ag yr ydyn ni'n meddwl? A fydd cynhyrchiad Cwmni Theatr y Bradwyr yn gorffen yn fêl i gyd, neu a yw celfyddyd yn dynwared bywyd? A beth ddigwyddodd i gath Stella?
 
Bydd y gyfres yma i'r llais yn cael ei ffrydio ar-lein yn wythnosol gan Gwmni Sefydlog Ar-lein Flying Bridge, a bydd yn cael ei pherfformio o bell gan gwmni o actorion ledled Cymru. Bydd Anturiaethau Astrid yn cynnwys 7 drama, yn dechrau gyda King Arthur's Crown ddydd Iau 17 Medi, ac yn cloi gyda The Last Pint ddydd Iau 29 Hydref.

Mwy i ddod

Digwyddiad Dod i Nabod Dyfodiaid Cynnar
16th Medi
Picturehouse UM
Sêl Fawr - Diwrond 1
18th Medi
Undeb Aber (Dan Ddaear/Underground), Campus
Cwis Mawr yr Undeb - 'The Big SU Quiz' 2026
18th Medi
Undeb Aber (Prif Ystafell/Main Room), Campus
Sêl Fawr - Diwrond 2
19th Medi
Undeb Aber (Dan Ddaear/Underground), Campus
"The Big Freshers Icebreaker"
19th Medi
Aberystwyth Students Union, Penglais Campus, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DX
'Bingo Lingo'
20th Medi
Aberystwyth Students Union, Penglais Campus, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DX
Gig Sŵn y Glas.
20th Medi
Y Cŵps , Aberystwyth
Gig Sŵn Wythnos y Glas 2026
Etholiadau: Sefyll
21st Medi - 12th Hydref
Sêl Posteri Pop-Up
21st Medi
Undeb Aber (Prif Ystafell/Main Room), Campus

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576