Cantorion Madrigalau Elisabethaidd - Ymarfer Agored
Diddordeb mewn ymuno â chôr eleni? Dewch i’n Ymarfer Agored ‘Rho Gynnig Arni’ ar ddydd Iau Ionawr 29ain 2026 a chewch brofi pwy ydyn ni mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar.
Byddwn yn dechrau digwyddiad i ddod i nabod ein gilydd ym mar yr Undeb, y cyfle perffaith i ddweud helo, cwrdd ag aelodau presennol, ac ymgartrefu. Wedi hynny, cerddwn gyda’n gilydd i Bantycelyn am ymarfer croesawus a hwyliog o 7-9yh. Does dim rhaid paratoi dim - darperir yr holl gerddoriaeth, ac mae croeso cynnes i gantorion o bob gallu.
Unwaith i ni ddod â’r canu i ben, awn i’r dref am ddiod a sgwrs. Mae’n ffordd hyfryd o ddod i nabod y grŵp ac i weld a ydy bywyd côr yn apelio.
Boed yn hen law ar ganu neu’n gwbl newydd i gerddoriaeth gorawl, byddai’n bleser gennym eich cael chi gyda ni. Dewch i roi gynnig arni!