UMCA

 

 

Ymuno

Mewngofnodwch i ymuno â'r sefydliad hwn ..

 

 

 

 

Mae UMCA yn darparu llais a cymuned i fyfrywr Cymraeg eu hiaith, dysgwyr a'r chwilfrydig!
 

 

 

Haia, Nanw dw i a fi ydi Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ar gyfer 2025/26.

Gyda dros i 150 o aelodau, UMCA yw sail y gymuned Gymraeg ar hyd y brifysgol a’m swydd i ydy bod yn lais i fyfyrwyr Cymraeg – boed hynny’n lais ar gyfer eich profiad academaidd, eich lles neu wrth ymgyrchu. 

Mae ein calendr ni yn llawn amrywiaeth o ddigwyddiadau – tripiau gwahanol, cyfleoedd i chwarae yn y timau rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd, nosweithiau gwisg ffansi Cymraeg o’r enw Sŵn a digwyddiadau Rhyng-golegol lle bydd myfyrwyr holl brifysgolion Cymru yn dod at ei gilydd.  

UMCA a’r Undeb ehangach yma i’ch cefnogi ar hyd eich cyfnod yn y Coleg ger y Lli. Mae gen i swyddfeydd hefyd yn adeilad Undeb Aber ac yn Neuadd Pantycelyn, felly cofiwch alw heibio!  

 

 

 

 

Swyddogion UMCA

Cadeirydd - Tomos Parry

Is-Lywydd - Gwenno Roberts

Ysgrifennydd - Elliw Mair

Trysorydd - Gwenno Jones

Prif Swyddog Ail Iaith - Indeg James

Swyddog Ail Iaith - Mirain Francis

Swyddog Ail Iaith - Megan Thomas

Prif Swyddog RAG - Gwenno Evans

Swyddog RAG - Ioan Richards

Swyddog RAG - Catrin Hughes 

Swyddog Cyhoeddiadau - Hannah Boore

Swyddog Gweithgareddau - Betsan Bryon

 

 

 

 

 

Llun 26th Ionawr

CyfCyff
6yh - 6:30yh
Lolfa Fach, Pantycelyn

Iau 29th Ionawr

Sŵn - Degawdau
10yh - 12:30yb
Adeilad Undeb Aberystwyth

Gwen 27th Chwefror

Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2026
27th Chwefror hanner nos - 1st Mawrth hanner nos
Undeb Myfyrwyr, Caerdydd
Penwythnos o gystadlu - chwaraeon, gwaith cartref, perfformio a mwy!

Llun 16th Mawrth

CyfCyff
6yh - 6:30yh
Lolfa Fach, Pantycelyn

Llun 20th Ebrill

Wythnos RAG
20th Ebrill hanner nos - 24th Ebrill hanner nos
Wythnos Codi Arian UMCA ar gyfer Diabetes UK.

Iau 23rd Ebrill

Sŵn RAG
10yh - 1yb
(i'w gadarnhau)

Llun 1st Mehefin

Wythnos Nefi Blw
1st Mehefin hanner nos - 5th Mehefin hanner nos
Wythos i ddathlu diwedd y flwyddyn academaidd!

Iau 4th Mehefin

Y Swper Olaf
6yh - 9yh
(lleoliadau i'w gadarnhau)
Swper Olaf ar gyfer y flwyddyn gyntaf, yr ail flwyddyn a'r drydedd flwyddyn.
Sŵn Olaf 2025-26
4th Mehefin 10yh - 6th Mehefin 1yb
Sŵn i ddathlu diwrnod y flwyddyn academaidd a ffarwelio â'r drydedd flwyddyn!

Gwen 5th Mehefin

Sŵn Olaf 2025-26
4th Mehefin 10yh - 6th Mehefin 1yb
Sŵn i ddathlu diwrnod y flwyddyn academaidd a ffarwelio â'r drydedd flwyddyn!
RSS Feed
Dim erthyglau newyddion cyfredol.
 

Cyflwynwch gwyn

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576