Angen cymorth?
Mae Gwasanaeth Cynghori Undeb Aber wedi'i leoli yn adeilad yr Undeb ar gampws Penglais a gall roi cymorth i chi ynghylch amryw o faterion. Rydym yn darparu cyngor am ddim mewn amgylchedd proffesiynol ond cyfeillgar ac mae gan ein cynghorwyr brofiad o ddelio â gweithdrefnau a phrosesau'r Brifysgol. Ni fyddwn yn eich beirniadu; rydym yma i'ch helpu gymaint â phosib beth bynnag fo'ch problemau.
Gan ein bod yn annibynnol o'r Brifysgol, gallwn eich cynrychioli heb unrhyw wrthdaro o ran buddiannau. Ymdrinnir â phob ymholiad yn gwbl gyfrinachol, sy'n golygu na fyddwn yn datgelu unrhyw beth rydych wedi ei ddweud wrthym oni fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori’n gweithredu fel arfer drwy ddulliau mewn person ac ar lein; gallwch gysylltu â’r gwasanaeth gan ddefnyddio’r manylion isod. Fel arall - anfonwch e-bost i drefnu apwyntiad MS Teams.
Ar-lein: Defnyddio ein ffurflen ymholi
E-bost: undeb.cyngor@aber.ac.uk
Ffôn: 01970 621712
Gyda beth allwn ni eich helpu?
** Tynnwyd rhai o’r lluniau hyn gan ein ffotograffwyr myfyrwyr!
Yr hyn mae ein myfyrwyr yn ei ddweud am y gwasanaeth…
“Roedd y gwasanaeth a gefais y tu hwnt i'r disgwyl. Aeth y Cynghorwr Myfyrwyr y filltir ychwanegol i fy helpu â fy mhroblem. Buon nhw'n hyfryd a gwnaethon nhw fy helpu i ddeall beth oedd yn digwydd mewn gwirionedd a sut y byddai modd i ni ddelio â fe”.
Dienw
Noder pan fyddwch yn cysylltu â ni ynglŷn â chyngor y byddwn ni’n agor ffeil achos cyfrinachol i chi a chofnodi eich gwybodaeth bersonol, manylion eich ymholiad ac unrhyw gyngor a roddir.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio at ddibenion ystadegol yn unig a ni fyddwn yn eich adnabod pan yn rhoi adroddiadau at ei gilydd. Caiff eich manylion eu cofnodi a’u cadw yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Ni fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu gydag unrhyw un y tu allan i’r gwasanaeth heb eich caniatâd oni bai bod pryder ynglŷn â diogelwch.
Rhowch wybod i ni os nad ydych chi’n caniatáu i fanylion eich achos gael eu cofnodi a’u cadw gan y Gwasanaeth Cynghori.
Mae Datganiad a Pholisi Diogelu Data yr Undeb yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau cydymffurfio ac mae i’w gael ar gais neu drwy ymweld â: umaber.co.uk/ynglynagaber/diogeludata/