Croeso i ochr bariau a Digyddiadau yr Undeb.  Dyma gartref y nosweithau myfyrwyr mwyaf a gorau yn Aber heb son am yr hyrwyddiadau bar mwyaf yn y dref!

Yr Undeb yw'r PRIF leoliad i fyfyrwyr yn Aberystwyth.  Mae yma le i fwy na 1000 o bobl yn y ddwy ystafell, ac rydym yn cynnal cymysgedd gwych o ddigwyddiadau amrywiol - o nosweithiau clwb i gomedi, cerddoriaeth fyw i DJs gwadd, digwyddiadau thema i nosweithiau ffilm a llawer mwy.  Rydym yn sicrhau'r amywiaeth fwyaf i chi am y gwrth gorau.

 

 

Mae'r Undeb wedi ei weddnewid ychydig dros yr haf gyda lloriau newydd sgleiniog, waliau lliwgar a dodrefn newydd.  felly, os wyt ti'n cwrdd  a ffindiau rhwng darlithoedd, awydd cinio neu ddiod  bach neu eisiau chwarae gem o pwl, yr Undeb yw'r lle perffaith i loetran ynddo ac ymlacio.  Mae gennym ddewis helaeth o ddiodydd poeth a gwasanaeth bar llawn  sydd ar agor o 10 y bore bod yn ystod yr wythnos ac amser cau hwyr i'r  bar gyda'r nos!