Cymorth LHDTC +

Mae’r canllaw hwn wedi cael ei gynhyrchu ar y cyd ag Aber Pride.

Mae rhai ohonom yn hunan-ddiffinio fel LHDTC+. Mae hyn yn golygu y gallem fod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, rhyngrywiol, anneuaidd, cwïar, neu’n cwestiynu. Neu efallai y byddwn yn diffinio ein rhywedd a'n rhywioldeb mewn ffyrdd eraill. Mae Geirfa Stonewall yn rhestru llawer mwy o dermau.

Cydnabyddir bod y rhai sy'n uniaethu fel LHDTC+ yn aml yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl, gan gynnwys hunan-barch isel, iselder ysbryd, pryder, problemau bwyta, hunan-niweidio a theimladau hunanladdol.

Nid bod yn LHDTC+ sy’n achosi'r problemau hyn, ac mae'r rhesymau pam bod hyn yn digwydd yn aml yn gymhleth iawn ond gallant gynnwys yr angen i wynebu pethau fel homoffobia, deuffobia a thrawsffobia, stigma a chamwahaniaethu; hefyd profiadau anodd o ddod allan yn ogystal ag arwahanrwydd cymdeithasol, allgáu a chael eich gwrthod.

I lawer, gall parodrwydd i dderbyn eu hunaniaeth LHDTC+ gael effaith gadarnhaol ar eu llesiant gan arwain at fwy o hyder, gwell perthnasoedd ag eraill, ymdeimlad o gymuned a pherthyn, rhyddid o ran hunanfynegiant a lefel uwch o ran gwytnwch.

Er bod y canllaw hwn yn canolbwyntio ar adnoddau penodol ar gyfer y rhai sy'n hunan-ddiffinio fel LHDTC+ gallwch ddod o hyd i gymorth mwy cyffredinol ar gyfer delio â phroblemau iechyd meddwl yn ein canllaw Iechyd Meddwl.


Dod allan fel LHDTC+ yn y brifysgol

Os ydych chi'n ei chael yn anodd yn y brifysgol ynglyn â'ch hunaniaeth, rydym yn sylweddoli y gall cychwyn sgwrs fod yn anhygoel o bwerus. Mae'n bwysig cydnabod nad oes y fath beth â ffordd gywir nac anghywir o ddod allan. Y peth pwysig yw gwneud hyn yn y ffordd sy’n iawn i chi ac mewn ffordd sy’n ei gwneud yn bosib i chi deimlo'n gyfforddus.

Ystyriwch a fyddai gwneud hynny gydag un person a allai wrando yn well na gyda grwp o bobl; efallai y byddwch chi'n penderfynu yr hoffech chi ddod allan i bobl un ar y tro ac yn rhywle preifat. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer cychwyn sgwrs:

  • Gwnewch hynny mewn man lle rydych chi'n gallu ymlacio, a theimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel.
  • Gwnewch yn siwr bod gennych chi ddigon o amser i siarad â'r rhai rydych chi am ddod allan iddyn nhw.
  • Meddyliwch yn ofalus ynglyn â phwy rydych chi am siarad â nhw’n gyntaf. Mae’n sicr y bydd gennych chi syniad go dda ynghylch pwy allan o'ch ffrindiau a'ch teulu fydd yn deall eich sefyllfa orau ac yn gallu bod yn gefnogol i chi.
  • Gall siarad ag eraill eich helpu chi i brosesu anawsterau y gallech chi fod yn eu hwynebu yn y brifysgol. AberPride yw Cymdeithas LHDTC+ Prifysgol Aberystwyth, ac mae’n darparu lleoedd diogel i chi gwrdd ag eraill, gwrando ar eu straeon a rhannu eich profiadau eich hun.

I gael mwy o gyngor ar ddod allan, mae llawer o'r mudiadau a restrir yn yr adran Cymorth Cyffredinol yn nes ymlaen yn y ddogfen hon yn cynnwys tudalennau ar eu gwefan sy'n ymwneud yn benodol â dod allan i eraill.


Cynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n nodi eu bod yn LHDTC+

Mae ymchwil i brofiadau'r rhai sy'n nodi eu bod yn LHDTC+ wedi dangos y gall cefnogaeth a dealltwriaeth gan deulu a ffrindiau gael effaith sylweddol ar eu teimladau o hunan-werth, iechyd meddwl a gwytnwch.

Fel llawer o rai eraill sy'n perthyn i wahanol grwpiau rhyddhad, mae hunaniaethau unigol yn gymysgedd gymhleth o nifer o ffactorau gan gynnwys ethnigrwydd, crefydd, cefndir diwylliannol, rhywioldeb, hunaniaeth ryweddol a gallu corfforol.

O ganlyniad, efallai y byddwch chi / nhw yn wynebu heriau nad yw eraill yn eu hwynebu neu hyd yn oed yn eu deall, ac eto oherwydd hyn byddwch yn fwy tebygol o ddatblygu'r problemau a nodwyd yn y cyflwyniad i'r ddogfen arweiniad hon. Felly mae'n bwysig peidio â gwneud unrhyw ragdybiaeth yn seiliedig ar wybodaeth flaenorol ynghylch materion LHDTC+; enghraifft dda o hyn yw os ydych chi'n ansicr ynghylch pa ragenw i'w ddefnyddio - does ond angen i chi ofyn. Y peth pwysicaf yw gwrando a chynnig cefnogaeth.

Isod mae chwe awgrym ar gyfer siarad ag eraill:

  • Neilltuwch amser heb unrhyw beth i dynnu’ch sylw - Mae'n bwysig darparu gofod agored ac anfeirniadol heb unrhyw wrthdyniadau.
  • Gadewch iddyn nhw rannu cymaint neu gyn lleied ag y maen nhw eisiau - Gadewch iddyn nhw arwain y drafodaeth ar eu cyflymder eu hunain, heb bwysau arnyn nhw i ddweud unrhyw beth nad ydyn nhw'n barod i siarad amdano.
  • Peidiwch â cheisio cynnig diagnosis na dyfalu ynglyn â’u teimladau - Cofiwch nad ydych chi'n gwnselydd yn ôl pob tebyg, ceisiwch beidio â gwneud rhagdybiaethau am yr hyn sydd o’i le neu neidio i mewn yn rhy gyflym.
  • Cadwch gwestiynau yn benagored - Ystyriwch sut rydych chi'n geirio cwestiynau a cheisiwch gadw'ch iaith yn niwtral, gan gofio rhoi amser i'r unigolyn ateb.
  • Gwrandewch yn ofalus ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud wrthych chi - Ailadroddwch yr hyn maen nhw wedi'i ddweud yn ôl wrthyn nhw i sicrhau eich bod chi wedi'i ddeall, dangoswch ddealltwriaeth, a pharchwch eu teimladau.
  • Cyfeiriwch nhw at gymorth a rhowch wybod iddyn nhw sut i gael mynediad at hyn - Efallai yr hoffech chi gynnig mynd gyda nhw neu eu helpu i gael gafael ar gymorth. Dylech osgoi ceisio cymryd rheolaeth o’r sefyllfa a chaniatáu iddyn nhw wneud penderfyniadau.

I gael mwy o gyngor ar fod yn gefnogol, mae llawer o'r mudiadau a restrir yn yr adran Cymorth Cyffredinol yn nes ymlaen yn y ddogfen hon yn cynnwys tudalennau ar eu gwefan sy'n ymwneud yn benodol â bod yn gefnogol.


Camwahaniaethu a bwlio

Mae profiadau o gamwahaniaethu a bwlio yn creu arwahanrwydd dwys, yn enwedig ar y campws. Mae'n bwysig cofio bod cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth ryweddol ac ailbennu rhywedd yn nodweddion gwarchodedig fel rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, deddf y mae'r brifysgol yn glynnu ati i atal camwahaniaethu.

 

Mae'r Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn bodoli i ddarparu cyngor a chefnogaeth gyfrinachol a diduedd am ddim i fyfyrwyr sydd angen defnyddio gwahanol brosesau’r brifysgol, gan gynnwys y Polisi Urddas a Pharch Myfyrwyr a Gweithdrefn Cwynion (mae dolenni ar gyfer y naill a’r llall ar ddiwedd y ddogfen hon).

 

Mae'r Swyddog Llesiant a’r Swyddogion Gwirfoddol (mae un ohonynt yn cynrychioli myfyrwyr LHDTC+) yn y cyfamser yn gweithio i wella profiadau pob myfyriwr, felly mae croeso i chi gael sgwrs gyda nhw am unrhyw syniadau sydd gennych chi ar gyfer gwneud y campws yn fwy diogel.

 

Enghraifft o'r gwaith hwn yw'r Ymgyrch Dim Esgusodion sy'n ceisio addysgu myfyrwyr ynghylch Bwlio ac Aflonyddu wrth helpu'r rhai sy'n dyst neu'n sy’n cael profiadau o hyn i adrodd yn ôl, gan ddefnyddio'r Polisi Urddas a Pharch Myfyrwyr a derbyn y gefnogaeth briodol.


Profiad o gael eich allgau

Rydym yn gobeithio pan fyddwch chi’n dod allan i ffrind neu aelod o'r teulu am y tro cyntaf, y byddant yn agored ac yn gallu gwrando arnoch chi. Rydym yn gwybod, yn anffodus, nad dyma yw’r achos bob tro, ond mae yna lefydd y gallwch chi fynd bob amser os yw hyn yn rhywbeth rydych chi'n ei brofi.

Yn ogystal â'r effaith ar eich iechyd meddwl gall profiadau o'r fath hefyd effeithio ar feysydd mwy ymarferol fel cynhaliaeth ariannol a threfniadau byw. Dylech gysylltu â Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber i drafod eich opsiynau yn y sefyllfaoedd hyn. Un o fanteision bod yn wasanaeth cyffredinol yw y gallwn yn aml siarad am eich anghenion yn gyfannol heb fod yn gyfyngedig i un pwnc.

Mae mudiad Stand Alone yn cynnig cefnogaeth ac yn codi ymwybyddiaeth ynghylch oedolion sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu. Mae ganddyn nhw adran o'u gwefan sy'n benodol ar gyfer myfyrwyr, sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am sut i gael y gorau allan o Gyllid Myfyrwyr fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio.

Yn ogystal, maent yn cynnal ymchwil yn rheolaidd ar brofiadau myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio, maent wedi sefydlu grwpiau cymorth lleol mewn nifer o brifysgolion ac mae ganddynt Adduned Prifysgol, sydd â’r nod o geisio gwella cymorth wedi'i dargedu mewn sefydliadau (y mae Aberystwyth yn y broses o ymrwymo i’r adduned hon!).


Cymorth Cyffredinol

Mae'n bwysig, beth bynnag fo'ch sefyllfa, i gofio nad ydych chi ar eich pen eich hun, a bod yna lawer o gefnogaeth ac adnoddau ar gael a all eich helpu i ddeall yr hyn rydych chi'n ei deimlo - ac sy'n cynnig cyngor i chi a'r bobl sy’n bwysig yn eich bywyd.

 

Llinell Gymorth Switchboard LGBT+

Mae Switchboard yn llinell gymorth genedlaethol ar gyfer gwybodaeth a chymorth cyfrinachol sy'n gweithredu bob dydd rhwng 10:00am a 10:00pm. Yn ogystal â llinell gymorth ar 0300 330 0630 maent hefyd yn gweithredu gwasanaeth sgwrsio ar-lein ac e-bost sydd ar gael trwy eu gwefan. Mae eu holl wirfoddolwyr hefyd yn hunan-ddiffinio fel LHDT+.

 

Llinell-gymorth LGBT Cymru

Mae LGBT Cymru yn llinell gymorth sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol ar amrywiaeth o faterion y gallai pobl LHDT, eu teulu a'u ffrindiau fod yn eu hwynebu, gyda dolenni at adnoddau a gwasanaethau cwnsela pellach ar eu gwefan. Gellir cysylltu â'r llinell gymorth ar 0800 917 9996 bob dydd Llun rhwng 7:00pm - 9:00pm gyda'r nod o ymateb i negeseuon llais a adewir y tu allan i'r amseroedd hyn o fewn 48 awr.

 

Stonewall / Stonewall Cymru

Mae Stonewall yn elusen hawliau LHDT genedlaethol sy'n cwmpasu'r DU. Maent yn bodoli i rymuso a chynnig cymorth i bobl LHDT i fod yn nhw eu hunain a chyflawni eu potensial, ac maen nhw’n gwneud hyn trwy ddarparu cyngor, gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth a lobïo i newid deddfwriaeth.

Yn ogystal â'u gwefan sy'n cynnwys ystod o wybodaeth, adnoddau ac ymgyrchoedd, maent yn gweithredu llinell gyngor Rhadffôn ar 0800 0502020 (er mai neges llais yn unig sydd ar gael ar hyn o bryd oherwydd Covid-19) ar agor 9:30am - 4:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 

LGBT Foundation

Mae'r LGBT Foundation yn elusen genedlaethol sy'n rhoi cymorth i'r gymuned LHDT yn y DU; yn aml mae’n gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o fudiadau i gynyddu sgiliau, gwybodaeth, hunanhyder yn ogystal ag iechyd a llesiant pobl LHDT.

Yn ogystal â'u gwefan sy'n cynnwys ystod o wybodaeth, adnoddau ac ymgyrchoedd, maent yn gweithredu llinell gymorth ar 0345 3 30 30 30 (ac eithrio gwyliau banc a gwyliau crefyddol) ar agor 10:00am - 6:00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 

Ymddiriedolaeth Terrence Higgins

Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn elusen HIV ac iechyd rhywiol genedlaethol ac yn un o'r darparwyr gwirfoddol mwyaf o wasanaethau HIV ac iechyd rhywiol yn y DU.

Yn ogystal â'u gwefan sy'n cynnwys ystod o wybodaeth, adnoddau ac ymgyrchoedd, maent yn gweithredu llinell gynghori Rhadffôn ar 0808 802 1221 ar agor 10:00am - 6:00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 10:00 - 1pm ar ddydd Sadwrn.

 

Galop

Mae Galop yn elusen LHDT a gwrth-drais genedlaethol sy'n rhoi cymorth i'r rhai sydd wedi profi troseddau casineb, cam-drin domestig neu drais rhywiol. Maent yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan ddarparu cyngor a chefnogaeth i'r rhai sydd ei angen neu sydd wedi cael eu hatgyfeirio gan eraill.

Maent yn gweithredu dwy linell gymorth, un ar gyfer dioddefwyr troseddau casineb ac un arall ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig, yn ogystal â chymorth e-bost, ffurflen atgyfeirio ar-lein a ffurflen cam-drin domestig rhwng cymheiriaid. Mae’r holl fanylion i’w gweld ar eu gwefan uchod.

 

The Proud Trust

Mae'r Proud Trust yn helpu i rymuso pobl ifanc LHDT+ (fel arfer 24 oed ac iau) trwy rwydweithiau, hyfforddiant, digwyddiadau ac ymgyrchoedd cenedlaethol a rhanbarthol. Er bod y rhan fwyaf o’u grwpiau rhwydweithio wedi'u lleoli yn Lloegr, mae eu gwefan yn cynnwys adnoddau defnyddiol yn ogystal â thudalennau cynghori a gwybodaeth.

 

Ymddiriedolaeth Albert Kennedy

Mae Ymddiriedolaeth Albert Kennedy yn cynnig cymorth i bobl ifanc LHDTC+ 16-25 oed yn y DU sy'n ddigartref, ar fin bod yn ddigartref neu'n byw mewn amgylchedd gelyniaethus. Maent yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc mewn argyfwng yn cadw'n ddiogel a lle bo angen hynny, yn gallu cael llety ar frys. Mae eu gwefan yn cynnwys hyb ar-lein a chyfleuster sgwrsio byw.


Cymorth Trawsryweddol

Yn ogystal â'r cymorth cyffredinol sydd wedi’i hamlinellu uchod, mae yna hefyd lawer o ffynonellau cymorth penodol ar gyfer y rheiny sy'n hunan-ddiffinio fel Trawsryweddol. Rhannwyd y rhain yn adnoddau ar-lein a’r rhai sydd wedi'u cyhoeddi.

 

Adnoddau ar-lein

Umbrella Cymru

Mae Umbrella Cymru yn sefydliad Cymreig annibynnol sy'n helpu gydag anawsterau rhywedd a rhywioldeb. Maent yn darparu cymorth gan gynnwys helpu'r rhai sydd ei angen â gweithred newid enw, ôl-ddyddio atgyfeiriadau Clinig Hunaniaeth Rhywedd (GIC), adrodd am droseddau a chwnsela.

 

LGBT Foundation (Adnoddau Traws)

Fel y nodwyd uchod, mae'r LGBT Foundation yn elusen genedlaethol sy'n bodoli i gynorthwyo ag anghenion y rhai sy'n nodi eu bod yn LHDT. Mae’n darparu un o'r gwefannau adnoddau helaethaf sydd ar gael; mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys cymorth i bobl ifanc draws, unigolion nad ydynt yn ddeuaidd, ceisiadau am weithred newid enw, dod allan a chyrchu gofal iechyd.

 

Iechyd a Llesiant LHDT

Mae LGBT Health and Wellbeing yn elusen sy'n gweithio i wella iechyd, llesiant a chydraddoldeb y rhai sy'n hunan-ddiffinio fel LHDT yn yr Alban. Yn ogystal â darparu ystod o wasanaethau cymorth ac adnoddau maent yn hysbysebu digwyddiadau amrywiol a gynhelir gan grwpiau a mudiadau ledled yr Alban. Mae'n bwysig nodi mai Elusen Albanaidd yw hon, ac o’r herwydd ni fydd pob darn o wybodaeth a chymorth yn berthnasol / defnyddiol o gofio gwahaniaethau mewn deddfwriaeth.

 

Cyfeiriadur Cwnsela

Mae Councelling Directory yn un o nifer o wefannau tebyg sydd â'r nod o roi mynediad i unigolion i gronfa ddata ledled y wlad o gynifer â phosibl o gwnselwyr a seicotherapyddion cymwys. Mae'n ofynnol i’r rhai a restrir ddarparu tystiolaeth o aelodaeth eu corff proffesiynol cyn cael eu rhestru.

Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys rhestrau ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n ymdrin ag amrywiaeth o faterion, ac felly nid o reidrwydd ar gyfer Dysfforia Rhywedd yn unig. Mae'r holl wasanaethau'n broffesiynwyr preifat, ac felly byddant yn codi ffi am fynediad, er bod nifer yn cynnig gostyngiadau i fyfyrwyr.

 

A-Sexual Visibility and Education Network

Mae'r Asexual Visibility and Education Network (AVEN) yn fforwm ar-lein yn bennaf sy'n darparu ystod o adnoddau gwybodaeth, gan gynnwys llyfrau a phodlediadau i'r rheini sy'n anrhywiol ac yn cwestiynu.

 

Ymddiriedolaeth Rhywedd

Mae'r Gender Trust yn elusen sy'n hyrwyddo addysg gyhoeddus ynghylch materion trawsryweddol a hunaniaeth ryweddol, ynghyd â darparu gwybodaeth i'r rhai sy’n cael eu heffeithio. Mae'r wefan yn cynnwys ystod o erthyglau addysgiadol ar ddysfforia rhywedd, deddfwriaeth drawsryweddol a chamwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd; mae hefyd yn cynnwys geirfa ddefnyddiol o derminoleg amrywiol.

 

Adnoddau Cyhoeddedig

Llawlyfr Cymheiriaid Traws: Canllaw ar gyfer Pan Fydd Eich Cymar yn Trawsnewid

Er bod mwy o adnoddau'n dod i'r amlwg ar gyfer pobl draws eu hunain, ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael i'w partneriaid. Trwy straeon uniongyrchol ac ambell gipolwg ar bartneriaethau llwyddiannus, mae'r llyfr hwn yn cyflwyno disgrifiadau manwl o bopeth sy'n rhan o'r broses drawsnewid, gyda chanllawiau penodol ar gyfer y rhai sy'n cynnig cefnogaeth i gymar wrth drawsnewid. Ymhlith y pynciau mae datgelu, iechyd meddwl, dod allan, colled a galar, rhyw a rhywioldeb ac agweddau ymarferol, cyfreithiol, meddygol a chymdeithasol trawsnewid. Yn y canllaw hanfodol hwn, mae pobl y mae eu partneriaid ar draws y sbectrwm trawsryweddol yn siarad am eu profiadau eu hunain gyda chyngor personol a chefnogaeth i eraill.

ISBN 13 – 9781785922275

 

Pobl drawsrywiol a thrawsryweddol - Canllaw

Gan ddechrau gyda thrafodaeth o'r problemau sy'n wynebu'r rhai sy'n teimlo’n groes i'w rôl rhyweddol, mae'r llyfr yn mynd ymlaen i drafod rhai damcaniaethau meddygol. Dilynir ystyriaeth fer o faterion cyfreithiol â'r broses weinyddol, gan ddelio â chofnodion personol, newid enw, trwydded yrru, pasbort, treth incwm, yswiriant gwladol a chofnodion banc. Mae'r llyfr yn trafod y problemau o fewn priodas, gyda phlant a pherthnasoedd yn gyffredinol, a hawliau cyflogaeth. Mae’n mynd ymlaen i drafod y Safonau Gofal, Clinigau Hunaniaeth Rhywedd a'r 'profiad bywyd go iawn'. Gyda disgrifiadau manwl o feddyginiaeth a llawfeddygaeth ar gyfer pobl gwryw-i-fenyw a benyw-i-wryw, mae hwn yn lawlyfr hanfodol i bawb yn y sefyllfa hon.

ISBN 10 - 0952510774
ISBN 13 - 9780952510772

 

Cynnig Cymorth i Ddynion Ifanc Trawsryweddol: Canllaw i Weithwyr Proffesiynol

Ar hyn o bryd mae diffyg gwybodaeth ar gael ynghylch anghenion penodol dynion ifanc trawsryweddol, a'r rhwystrau sy'n eu hwynebu. Gall hyn arwain at broffesiynwyr yn gorfod cynnig cyngor generig, nad yw'n briodol o bosibl ar gyfer y sefyllfa. Mae’r llyfr hwn wedi'i ysgrifennu i fynd i'r afael â'r diffyg hwn, ac mae’n rhoi'r arweiniad sydd ei angen ar broffesiynwyr i weithio gyda dynion ifanc trawsryweddol yn effeithiol ac mewn ffordd gefnogol. Mae'n edrych ar rai o'r rhwystrau y mae dynion traws yn eu hwynebu o ran gwasanaethau iechyd a gofal. Gan fynd i'r afael â phynciau fel effaith gymdeithasol trawsnewid, yr effaith bosibl ar iechyd meddwl a llesiant emosiynol, yn ogystal â mythau a chamsyniadau cyffredin ynghylch trawsnewid, mae'r canllaw hwn yn hanfodol i unrhyw un sy'n gweithio gyda dynion ifanc trawsryweddol.

ISBN 13 – 9781785922947

 

Transgender 101: Canllaw Syml i Bwnc Cymhleth

Mae’r adnodd hwn wedi'i ysgrifennu gan weithiwr cymdeithasol, addysgwr poblogaidd, ac aelod o'r gymuned drawsryweddol; mae’n cyfuno portread hygyrch o drawsryweddiaeth â hanes cyfoethog o fywyd trawsryweddol a'i brofiadau unigryw o gamwahaniaethu. Mae penodau'n cyflwyno trawsryweddiaeth a'i brosesau seicolegol, corfforol a chymdeithasol. Maent yn disgrifio'r broses o ddod allan ac effaith hynny ar deulu a ffrindiau, y berthynas rhwng cyfeiriadedd rhywiol a rhywedd, a'r gwahaniaethau rhwng trawsrywioldeb a mathau llai adnabyddus o drawsryweddiaeth. Mae'r gyfrol yn ymdrin â nodweddion Anhwylder Hunaniaeth Rhywedd / Dysfforia Rhywedd a datblygiad y mudiad trawsryweddol. Mae pob pennod yn esbonio sut mae unigolion trawsryweddol yn ymdrin â’u hunaniaeth ryweddol, sut mae eraill yn gweld hyn yng nghyd-destun cymdeithas nad yw'n drawsryweddol, a sut mae trawsnewid rhywedd yn bosibl. Gan gynnwys dynion sy'n dod yn fenywod, menywod sy'n dod yn ddynion, a'r rhai sy'n byw rhwng categorïau traddodiadol a thu hwnt iddynt, mae'r llyfr hwn wedi'i ysgrifennu ar gyfer myfyrwyr, gweithwyr proffesiynol, ffrindiau, ac aelodau o'r teulu.

ISBN 10 – 0231157134

ISBN 13 – 9780231157131

 

Yr Arweinlyfr Trawsryweddol: Allwedd i Drawsnewid Llwyddiannus

Mae’r Transgender Guidebook: Keys to a Successful Transition yn llyfr hunangymorth ar gyfer pobl drawsrywiol. Mae'n ganllaw deallus ac ymarferol i unrhyw berson trawsryweddol sy'n ystyried neu'n cychwyn ar broses drawsnewid rhywedd. Mae'n cynnwys popeth o gamau cychwynnol archwilio a chynllunio, trwy'r broses drawsnewid i fywyd ar ôl trawsnewid. Dyma’r llyfr cyntaf o'i fath. Ysgrifennwyd llawer o lyfrau gan broffesiynwyr ar gyfer gweithwyr proffesiynol am weithio gyda phobl drawsryweddol, ac mae sawl un wedi'u hysgrifennu gan bobl drawsrywiol ar gyfer pobl drawsrywiol am eu profiad. Dyma'r un cyntaf a ysgrifennwyd gan broffesiynnwr profiadol yn benodol ar gyfer cleientiaid trawsryweddol. Bydd hefyd o ddiddordeb i deulu, ffrindiau, cefnogwyr, clerigwyr, athrawon, gweithwyr proffesiynol sy'n helpu ac unrhyw un sy'n malio am yr heriau sy'n wynebu'r rhai sy'n ceisio cael eu hymddangosiad corfforol i gyd-fynd â'u hunaniaeth ryweddol.

ISBN 10 – 1461006201

ISBN 13 – 9781461006206

 

 

Is Gender Fluid? A primer for the 21st century (The Big Idea)

Mae'r llyfr deallus, ysgogol hwn yn rhan o gyfres newydd arloesol ‘Big Idea’ Thames & Hudson, ac mae’n asesu'r cysylltiadau rhwng rhywedd, seicoleg, diwylliant a rhywioldeb, ac yn datgelu sut mae agweddau unigolion a chymdeithas wedi esblygu dros y canrifoedd. Pam fod rhai pobl yn teimlo’r fath anghysondeb rhwng eu rhyw biolegol a'u hunaniaeth fewnol? Ydy rhywedd yn rhywbeth sy’n rhan ohonom, neu'n rhywbeth rydyn ni'n ei wneud? A yw'r rolau deuaidd traddodiadol rhywedd gwryw a benyw yn berthnasol mewn byd cynyddol hyblyg? Mae'r llyfr deallus ac ysgogol hwn yn asesu'r cysylltiadau rhwng rhywedd, seicoleg, diwylliant a rhywioldeb, ac yn datgelu sut mae agweddau unigolion a chymdeithas wedi esblygu dros y canrifoedd.

ISBN 10 – 0500293686

ISBN 13 – 9780500293683

 

Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol o'r Brifysgol, ac mae'n darparu gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Esbonio'r Weithdrefn ar gyfer Cwynion i chi a'ch arwain drwy'r gwahanol gamau;
  • Esbonio Polisi Urddas a Pharch Myfyrwyr i chi a'ch arwain drwy'r gwahanol gamau;
  • Eich cynghori ar sut i gael gafael ar arian o gronfa galedi myfyrwyr neu ymateb i anawsterau’n ymwneud â llety;
  • Eich helpu i gasglu tystiolaeth briodol ynghyd pan fo angen hynny;
  • Helpu i’ch atgyfeirio at wasanaethau cymorth eraill;

Cysylltu  Chynghorydd

Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd am y tro cyntaf: Mai 2021

Adolygwyd: Ebrill 2024

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576