Bwlio ac Aflonyddu

Dylai holl fyfyrwyr Aberystwyth deimlo bod ganddynt gyfle i ymgymryd â'u hastudiaethau heb ofnau ynghylch bwlio neu aflonyddu. Fodd bynnag, os ydych chi'n teimlo eich bod chi wedi cael eich trin yn wael, yna rydyn ni yma i helpu.

Mae gweithredoedd o fwlio neu aflonyddu a gyflawnir oherwydd hunaniaeth unigolyn yn aml yn dechrau gydag agweddau negyddol, credoau a stereoteipiau am eraill. Caiff y credoau hyn eu gwreiddio trwy’r hyn mae pobl yn ei weld a’i glywed, a’i atgyfnerthu dro ar ôl tro gan y rhai o'u cwmpas.

Yn aml gall y credoau hyn ffurfio gwahanol fathau o ragfarn ar sail:

  • hil, gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol.
  • Rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.
  • Statws priodasol neu bartneriaeth sifil.
  • Crefydd neu ffydd.
  • Bod yn feichiog neu ar gyfnod absenoldeb mamolaeth.
  • Hunaniaeth neu statws rhyweddol.
  • Oedran.
  • Anabledd.
  • Euogfarnau troseddol.

Os na chânt eu herio gall y credoau hyn arwain at ymddygiad rhagfarnllyd a gweithredoedd o gamwahaniaethu, casineb a thrais, a allai fod yn fwy difrifol.

Daw'r diffiniadau a ddefnyddir yn y canllaw hwn o God Myfyrwyr ar Urddas a Pharch y Brifysgol. Mae rhestr lawn o fathau o ymddygiad annerbyniol i'w gweld ar wefan y Brifysgol.

Mae ymgyrch Dim Esgusodion Undeb Aber yn bodoli i rymuso eraill i fod yn sylwedyddion gweithredol a gweithredu yn erbyn achosion o fwlio, aflonyddu, troseddau casineb, ymosodiadau rhywiol a mathau eraill o ymddygiad annerbyniol.


Beth yw bwlio?

Diffinnir bwlio fel:

“... ymddygiad sarhaus, bygythiol neu faleisus, camddefnydd o bwer trwy ddulliau a fwriadwyd i danseilio, sarhau neu i ddifrïo neu frifo'r unigolyn sy'n ei dderbyn”.  

Agwedd bwysig ar fwlio yw bwriad, heb unrhyw ofyniad i ddangos bwriad i fwlio, dim ond bod bwlio wedi digwydd.

Mae sawl math o fwlio, a gall yr ymddygiadau hyn ddigwydd rhwng staff a myfyrwyr neu rhwng y myfyrwyr eu hunain. Gall y sefyllfaoedd hyn godi lle bynnag y mae myfyrwyr yn ymgynnull, gan gynnwys, er enghraifft, lle maent yn byw, gweithio, astudio, chwarae neu wirfoddoli (fel chwaraeon a chymdeithasau).

  • Gweiddi ar, bod yn goeglyd tuag at, gwawdio neu ddiraddio eraill.
  • Bygythiadau corfforol neu seicolegol.
  • Lefelau goruchwylio gormesol a bygythiol.
  • Sylwadau amhriodol a / neu ddirmygus am berfformiad rhywun.
  • Manteisio’n anghyfiawn ar awdurdod neu bwer gan y rhai sydd mewn swyddi uwch.
  • Allgau rhywun yn fwriadol o gyfarfodydd neu gyfathrebu heb reswm da.

Yn achos myfyrwyr, mae'r mathau mwyaf cyffredin o fwlio y ceir adroddiadau yn eu cylch yn cynnwys:

  • Cam-drin geiriol uniongyrchol (galw enwau neu fygythiadau).
  • Bwlio cymdeithasol (e.e. lledaenu sibrydion, hel clecs, bychanu rhywun o flaen eraill neu wneud jôcs sarhaus amdanynt).
  • Seiber-fwlio (sef y mathau hyn o ymddygiadau, ond ar-lein mewn ystafelloedd sgwrsio, cyfryngau cymdeithasol, gemau a.y.b.).
  • Bwlio rhywiol (bod yn sarhaus am rywioldeb, llacrwydd moesau honedig, neu bwysau i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol neu gyfathrebu rhywiol, rhannu delweddau anweddus, cyffwrdd anweddus, neu ymosod).

Beth yw aflonyddu?

Diffinnir aflonyddu fel:

“... sylwadau neu ymddygiad digroeso sy'n cael eu hystyried yn ddiraddiol ac yn annerbyniol gan y derbynnydd neu gan unrhyw berson rhesymol. Gall fod yn fwriadol neu’n anfwriadol; yn barhaus neu’n ddigwydiad unigol”. 

Dyma rai enghreifftiau o ymddygiad aflonyddgar:

  • Cyffyrddiad corfforol digroeso neu ‘chwarae gwirion’ gan gynnwys cyffwrdd, pinsio, gwthio, cydio, cyffyrddiad wrth basio rhywun, ymyrryd â’u gofod personol a mathau mwy difrifol o ymosodiad corfforol neu rywiol (gweler Aflonyddu Rhywiol isod).
  • Sylwadau neu ystumiau sarhaus neu fygythiol; jôcs neu driciau ansensitif.
  • Gwawdio, dynwared, neu fychanu hunaniaeth neu anabledd unigolyn.
  • Jôcs hiliol, rhywiaethol, homoffobig neu’n rhagfarnllyd ar sail oedran, neu sylwadau difrïol neu ystrydebol am grwp ethnig neu grefyddol, neu rywedd.
  • Anwybyddu neu droi eich cefn ar rywun, er enghraifft trwy eu hallgau’n fwriadol o sgwrs neu weithgaredd cymdeithasol.
  • Cyswllt neu stelcio digroeso parhaus, fel gadael negeseuon niferus neu frawychus ar ffôn neu trwy e-bost / neges destun.

Mae aflonyddu rhywiol yn cyfeirio at sylwadau a gwahoddiadau rhywiol digroeso, ensyniadau, ac ystumiau tramgwyddus gan gynnwys galw enwau, byseddu, pinsio, neu smacio corff unigolyn. Mae hefyd yn cynnwys tynnu dillad heb gytundeb neu unigolyn / unigolion yn datgelu eu hunain heb gydsyniad; cyswllt corfforol amhriodol, arddangos deunydd rhywiol eglur (ar bapur neu'n electronig), jôcs amhriodol o natur rywiol, ceisiadau neu awgrymiadau anweddus.

Mae aflonyddu hiliol yn ymddygiad sy'n sarhaus i'r derbynnydd ac mae'n cynnwys galw enwau difrïol, jôcs amhriodol, sylwadau neu ymddygiad sy’n seiliedig ar y canfyddiad o hil, lliw croen, cenedligrwydd neu ethnigrwydd.

Mae aflonyddu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn cynnwys sylwadau neu jôcs homoffobig, bygythiadau i ddatgelu rhywioldeb, lledaenu sibrydion maleisus, a chwestiynau amhriodol ynghylch ymddygiad rhywiol.

Mae aflonyddu ar sail hunaniaeth ryweddol yn cynnwys dangos deunyddiau amhriodol sy'n diraddio rhywedd penodol, e.e. comic neu rywbeth arall gweledol; sylwadau sy'n diraddio rhywedd, fel jôcs neu straeon amhriodol (yn enwedig os ydynt wedi'u cyfeirio at berson penodol neu grwp o bobl). Hefyd sarhad neu weithredoedd difrïol wedi’u cyfeirio at berson ar sail eu rhywedd; sylwadau sy'n parhau ar ôl i'r person ofyn iddynt roi’r gorau iddi, neu wedi dweud eu bod yn sarhaus; cyswllt corfforol, ymosodiad, neu ymyrraeth â'r unigolyn oherwydd materion yn ymwneud â’u rhywedd.

Caiff myfyrwyr Aber, fel eraill, eu hamddiffyn rhag aflonyddu trwy ddeddfwriaeth allweddol. Yr egwyddorion allweddol sy'n berthnasol i'r holl ddarnau hyn o ddeddfwriaeth yw nad oes ots a yw aflonyddwr yn bwriadu aflonyddu ai peidio, ond mae'n bwysicach sut mae'r dioddefwr yn teimlo o fewn y cyd-destun, a sut y byddai rhywun rhesymol yn ystyried ymddygiad o’r fath.


Effeithiau bwlio neu aflonyddu

Mae'r effeithiau ar y sawl sy'n cael ei fwlio a’i aflonyddu yn amrywio o unigolyn i unigolyn.  Er nad yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr, mae'n rhoi syniad o'r symptomau a all ddigwydd:

  • meigryn / poen pen difrifol
  • problemau stumog
  • anhwylderau’r croen
  • colli archwaeth bwyd
  • diffyg cwsg
  • hunan-werth isel / diffyg hyder
  • gorbryder neu iselder
  • teimladau o ddicter a thristwch
  • ynysu cymdeithasol
  • hunan-niweidio a / neu gamddefnyddio sylweddau
  • diffyg canolbwyntio
  • effaith ar berfformiad academaidd
  • gadael y brifysgol am gyfnod
  • gadael y brifysgol yn gyfangwbl

Ymddygiadau annerbyniol eraill

Yn ogystal â bwlio ac aflonyddu mae sawl ymddygiad arall y mae’r Cod Urddas Myfyrwyr yn eu diffinio fel rhai annerbyniol.

 

Trosedd / Digwyddiad Casineb

Diffinnir trosedd casineb fel a ganlyn:

“unrhyw ddigwyddiad y mae’r dioddefwr, neu unrhyw un arall, yn credu ei fod yn seiliedig ar ragfarn rhywun tuag atynt oherwydd (ond heb fod yn gyfyngedig i) hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu oherwydd eu bod yn drawsryweddol.”

Trosedd casineb yw digwyddiad sy'n cyrraedd y trothwy ar gyfer trosedd dan y gyfraith.

Gall troseddau a digwyddiadau casineb fod ar sawl ffurf gan gynnwys:

  • Ymosodiad corfforol - ar y dioddefwr neu ei deulu neu ofalwr, difrod i eiddo neu anafiadau i anifeiliaid anwes, graffiti tramgwyddus, a llosgi bwriadol.
  • Bygythiad neu ymosodiad - gan gynnwys llythyrau sarhaus, galwadau ffôn ymosodol, grwpiau o bobl yn hongian o gwmpas i godi ofn, a chwynion maleisus di-sail.
  • Cam-drin geiriol neu sarhad - taflenni a phosteri tramgwyddus, ystumiau ymosodol, dympio sbwriel y tu allan i gartrefi pobl neu drwy flychau llythyrau a bwlio.
  • Cam-drin ar-lein - mae'r un deddfau ar gyfer troseddau casineb yn berthnasol i unrhyw beth a gyhoeddir ar-lein, naill ai ar wefan neu trwy gyfryngau cymdeithasol.

 

Trais Domestig

Diffinnir trais domestig fel:

“[unrhyw] gamdriniaeth o fewn pob math o berthnasoedd agos neu deuluol.”

Gall cam-drin o'r fath fod yn gorfforol, rhywiol, seicolegol neu emosiynol, a gall bygythiadau o’r rhain fod yr un mor niweidiol. Gall y cam-drin ddechrau ar unrhyw adeg, mewn perthnasoedd newydd, neu ar ôl i bobl fod gyda’i gilydd am flynyddoedd lawer.

Gall hefyd gynnwys ymddygiadau Rheoli Gorfodol sy'n codi ofn, diraddio, ynysu a rheoli, gan ddefnyddio neu fygwth trais corfforol neu rywiol.

 

Cam-drin Rhywiol

Diffinnir cam-drin rhywiol fel:

“Unrhyw gyswllt rhywiol anghydsyniol.”

Gall cam-drin rhywiol ddigwydd i unrhyw un a gall gynnwys galw enwau difrïol, gwrthod defnyddio dulliau atal cenhedlu, achosi poen corfforol diangen yn fwriadol yn ystod rhyw, trosglwyddo afiechydon neu heintiau rhywiol yn fwriadol a defnyddio gwrthrychau, teganau neu eitemau eraill heb gydsyniad i achosi poen neu godi cywilydd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am drais a cham-drin rhywiol, gan gynnwys dolenni i amryw o wasanaethau cymorth yn ein canllaw Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd.


Beth i'w wneud os ydych chi wedi cael eich effeithio?

Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi eich cam-drin, ymosod arnoch chi, gwahaniaethu yn eich erbyn, neu aflonyddu arnoch chi, peidiwch â beio'ch hun. Yn aml gall canfyddiadau o fwlio neu aflonyddu ddeillio o gamddealltwriaeth, neu o ddiffyg ymwybyddiaeth bod ymddygiad unigolyn wedi bod yn sarhaus neu wedi peri gofid; mewn gwirionedd, yn aml gall y naill a’r llall deimlo eu bod yn cael eu herlid gan broses ymchwilio ffurfiol.

Dylai'r person sy'n codi'r gwyn bob amser gael ei annog a'i gefnogi lle mae'n teimlo'n gyfforddus i fynd at y person y maent yn honni ei fod wedi eu bwlio neu eu haflonyddu, gan roi enghreifftiau o ymddygiad o'r fath, i drafod y sefyllfa a chytuno ar ffordd ymlaen, weithiau gan ddefnyddio mecanweithiau fel cyfryngu anffurfiol.

Fodd bynnag, nid yw dull anffurfiol o'r fath bob amser yn bosibl nac yn briodol, ac am y rheswm hwn mae gan y Brifysgol eu Cod Myfyrwyr ar Urddas a Pharch. Mae'r rheolau hyn yn bodoli i osod disgwyliadau ymddygiadol clir ynghylch ein cyfrifoldebau i sicrhau urddas a pharch pobl eraill, yn ogystal â'r canlyniadau o beidio â gwneud hynny.

Gall unrhyw fyfyriwr adrodd am bryder sydd ganddynt gan ddefnyddio ffurflen ar-lein y Brifysgol, naill ai’n bersonol, yn ddienw neu fel trydydd parti. Pan fyddwch chi'n cyflwyno’ch hun, bydd eich adroddiad yn cael ei basio ymlaen i Gynghorydd Myfyrwyr yn y Gwasanaeth Cyngor ac Arian sydd wedi'i leoli yn yr Adran Gwasanaethau Myfyrwyr. Byddant yn cysylltu â chi ac yn eich cynghori ynghylch eich opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen â'ch pryder, yn ogystal â thrafod pa gymorth sydd ar gael i chi.

Mae'n bwysig deall nad ydych chi'n cychwyn cwyn ffurfiol trwy gyflwyno adroddiad, sy'n aml yn un o'r opsiynau fydd gennych chi wrth riportio pryder. Ni fydd gwybodaeth bersonol neu y gellir ei phriodoli i chi’n cael ei datgelu i eraill heb eich caniatâd, oni bai bod y brifysgol yn credu bod risg i'ch diogelwch a'ch llesiant chi neu unigolyn arall.

Os ydych chi'n nerfus ynglyn â mynd at y Brifysgol gyda phryder, gall Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber siarad â chi am rai o'r opsiynau posib sy'n debygol o fod ar gael i chi, yn ogystal â gwybodaeth a allai fod o gymorth fel paratoi llinell amser o ddigwyddiadau a chofnodi tystiolaeth, bydded hynny ar ffurf ysgrifenedig neu ddelweddau lle bo hynny'n briodol.

Nid oes rhaid i chi roi manylion ynghylch unrhyw enwau pan ddewch i mewn i'n gweld, ond o leiaf bydd gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniad deallus ynghylch beth i'w wneud nesaf. Byddwn yn eich cynorthwyo pa bynnag benderfyniad fyddwch chi’n ei wneud, ac os oes angen gallwn fynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd lle byddech chi am gael cefnogaeth a chynrychiolaeth.

Gallwn hefyd siarad â chi ynghylch pa gymorth sydd ar gael i chi a sut y gallai pryderon o'r fath fod yn effeithio ar agweddau eraill o'ch bywyd, p'un a yw'n waith academaidd, trefniadau byw neu berthnasoedd ag eraill.


Cefnogaeth Allanol

Yn ogystal â'r gefnogaeth y cyfeiriwyd ati uchod mae yna ystod o elusennau a mudiadau sy'n darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth i unigolion sy'n dioddef bwlio ac aflonyddu.

  • Llinell-gymorth Byw Heb Ofn - llinell-gymorth genedlaethol sy'n cynnig cymorth i'r rhai y mae cam-drin domestig, trais rhywiol a/neu drais yn erbyn menywod yn effeithio arnynt. Mae am ddim ac yn gweithredu 24/7 ar 0808 80 10 800.
  • Llwybrau Newydd - elusen leol sy'n darparu ystod o wasanaethau arbenigol ac eiriolaeth ar gyfer goroeswyr trais rhywiol neu gam-drin rhywiol. Maent yn gweithredu Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol lle gall dioddefwyr trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol dderbyn cymorth a chefnogaeth ar unwaith.
  • Cyngor ar Bopeth - elusen genedlaethol sy'n darparu gwasanaethau cynghori ledled y DU. Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am y gwahanol fathau o aflonyddu a throseddau casineb y mae unigolion yn gallu eu hwynebu, gan gynnwys troseddau casineb anabledd, troseddau casineb hiliol a chrefyddol, aflonyddu rhywiol, a throseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol.
  • Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru - elusen leol sy'n darparu ystod o wasanaethau cymorth i'r rhai sy'n profi neu'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig.
  • True Vision - gwefan genedlaethol sy’n cynnwys gwybodaeth a chefnogaeth ar beth yw troseddau casineb a sut i adrodd am droseddau casineb.
  • Ymddiriedolaeth Diogelwch Cymunedol - elusen genedlaethol sy'n darparu cyngor a chefnogaeth ar ddiogelwch i ddioddefwyr casineb, aflonyddu neu ragfarn gwrth-Semitaidd.
  • Galop - elusen genedlaethol yn erbyn trais sy'n cynnig cefnogaeth i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwïar y mae trais rhywiol yn effeithio arnynt.
  • Cymorth i Fenywod Cymru - elusen genedlaethol yng Nghymru sy'n gweithio i roi diwedd ar gam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod.
  • The National Stalking Helpline - yn llinell gymorth genedlaethol sy'n darparu gwybodaeth, cyngor ac opsiynau cymorth i ddioddefwyr stelcio.
  • BAWSO - mudiad cenedlaethol gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau arbenigol yng Nghymru i fenywod a phlant croenddu a lleiafrifoedd ethnig sy'n ddigartref yn sgil cam-driniaeth ddomestig, gan gynnwys pynciau fel priodas dan orfodaeth, anffurfio organau cenhedlu merched (FGM) a cham-drin 'ar sail anrhydedd'.
  • Dyn Cymru - llinell gymorth gyfrinachol am ddim sy'n cynnig cymorth i ddynion sy'n profi cam-driniaeth domestig yng Nghymru.
  • Respect -  llinell gyngor genedlaethol ar gyfer dynion sy'n dioddef cam-drin domestig.
  • Stonewall - elusen genedlaethol sy'n ymgyrchu dros gydraddoldeb pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ledled Prydain, gan ddarparu cymorth a chyngor i gymunedau LHDT a'u cefnogwyr.
  • Scope - elusen genedlaethol sy'n darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i sicrhau bod pobl anabl yn mwynhau cydraddoldeb a thegwch.
  • Cymorth i Ddioddefwyr - elusen genedlaethol sy'n cynnig cymorth i'r rhai y mae troseddau a digwyddiadau trawmatig wedi effeithio arnynt. Er y dylech fel rheol gael eich cyfeirio at fudiad fel Cymorth i Ddioddefwyr pan fyddwch yn adrodd am drosedd, gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol.

Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor UMAber yn annibynnol o'r Brifysgol, ac mae'n darparu gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Rhoi cyngor diduedd ar gyfer eich amgylchiadau.
  • Cyngor ar sut i ymateb i honiadau a pharatoi ar gyfer unrhyw gyfarfodydd.
  • Mynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd er mwyn darparu cymorth a chynrychiolaeth i chi, lle bo hynny’n briodol.
  • Helpu i’ch atgyfeirio at wasanaethau cymorth eraill;

Cysylltu  Chynghorydd

Dolenni defnyddiol

Adrodd + Chymorth

Gwasanaethau Myfyrwyr

Dim Esgusodion


Cynhyrchwyd am y tro cyntaf: Mai 2021

Adolygwyd: Ebrill 2024

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576