Iechyd Meddwl

Bydd pobl yn sôn am fod yn fyfyriwr yn aml fel petai’n brofiad syml a rennir sydd bron yn union yr un fath i bawb, er bod pethau’n llawer mwy cymhleth mewn gwirionedd. Gall profiad prifysgol fod yn brofiad llethol sy’n peri straen i lawer, gyda heriau newydd yn codi’n gyson, sy’n golygu ei bod yn bwysicach fyth ceisio cymorth pan fydd problemau’n codi.

Mae cydnabyddiaeth eang i’r ffaith y bydd un o bob pedwar ohonom yn cael trafferth gyda’n iechyd meddwl rywbryd yn ystod ein bywydau. Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn dioddef gyda phroblem iechyd meddwl, dydych chi ddim ar eich pen eich hun, ac mae yna gamau y gallwch eu cymryd i helpu, hyd yn oed os mai dim ond siarad â rhywun y gallwch ymddiried ynddo fyddwch chi i ddechrau.


Cymorth Mewn Argyfwng

Digwyddiadau lle mae angen cymorth ar frys ydy rhai lle gall fod perygl uniongyrchol i’ch diogelwch chi neu bobl eraill. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, mae’n bwysig cael cymorth proffesiynol yn gyflym.

Os oes angen cymorth ar frys arnoch chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod, gallwch:

  • Ffonio 999 i siarad â’r Gwasanaeth Argyfwng priodol ac yna rhoi gwybod i wasanaeth Diogelwch y Safle trwy ffonio 01970 622649.

Dyma rai enghreifftiau o sefyllfaoedd o’r fath: bwriad i gyflawni hunanladdiad, rhywun ar goll, rhywun ag arf yn ei feddiant, bygwth niweidio, anaf, marwolaeth myfyriwr neu derfysgaeth.

Neu gallwch:

  • Fynd i’r Adran Damweiniau ac Argyfwng (A&E) agosaf yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
  • Cysylltu â gwasanaeth Y Tu Allan i Oriau eich meddygfa neu eu meddygfa nhw. Os ydych yn ansicr, ffoniwch eich meddygfa a chewch eich cyfeirio i’r man iawn.
  • Ffoniwch 111 i siarad â GIG 111 Cymru neu ewch i’w gwefan yn www.111.gig.cymru.
  • Ffoniwch y Samariaid ar 0300 123 3011. Neu gallwch anfon e-bost atynt yn jo@samaritans.org neu fynd i’w gwefan yn www.samaritans.org.
  • Ffoniwch Papyrus Hopeline yn ddi-dâl ar 0800 068 41 41. Neu gallwch anfon e-bost atynt yn pat@papyrus-uk.org neu fynd i’w gwefan yn www.papyrus-uk.org.
  • Tecstiwch SHOUT I 85258. Neu gallwch fynd i’w gwefan yn www.giveusashout.org.

Cael Cymorth

Mae’n bwysig deall nad yw holl drafferthion Iechyd Meddwl yn amlygu’u hunain o anghenraid fel argyfwng neu’n arwain at argyfwng. Gall problemau iechyd meddwl ddatblygu mewn sawl ffordd ac iselder a gorbryder sydd fwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig.

Er bod pawb yn teimlo’n drist neu’n bryderus o dro i dro, os bydd eich teimladau yn cryfhau i’r fath raddau eu bod nhw’n effeithio ar eich bywyd beunyddiol yna gorau po gyntaf i chi ofyn am help. Yn ffodus, mae mwy nag erioed o wasanaethau ac elusennau sy’n cynnig cymorth i chi.

 

Gwasanaeth Lles Myfyrwyr

Bydd ymarferwyr proffesiynol y Gwasanaeth Lles yn rhoi arweiniad i helpu myfyrwyr i ganfod ffordd o ddatrys materion lles, boed hynny trwy ddatblygu gwytnwch a sgiliau neu drwy’ch cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill. Gall unrhyw un sydd â phryderon am ei hunan neu am fyfyriwr arall gysylltu â’r gwasanaeth.

Bydd y gwasanaeth yn gofyn i fyfyrwyr lenwi ffurflen gofrestru ddiogel ar-lein er mwyn iddynt gael rhagor o wybodaeth am y pryderon ac wedi hynny, bydd ymarferydd yn gwahodd y myfyriwr i wneud apwyntiad neu’n e-bostio opsiynau cymorth.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, ewch i www.aber.ac.uk/cy/studentservices/wellbeing/, e-bostiwch studentwellbeing@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621761/622087.

 

Eich Meddyg Teulu

Gallwch gysylltu â’ch meddyg teulu i drafod unrhyw bryderon sydd gennych ynglyn â’ch iechyd meddwl a sut rydych chi’n teimlo. Gall eich meddyg teulu gynnig gwybodaeth ynglyn â hunangymorth, rhoi presgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth, eich cyfeirio i gael cwnsela neu gymorth iechyd meddwl arbenigol os bydd angen.

Mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd egluro sut maen nhw’n teimlo mewn apwyntiad byr sydd â therfynau amser, meddyliwch am wneud nodiadau o’r hyn rydych am ei drafod ymlaen llaw.

 

Togetherall

Mae Togetherall yn wasanaeth am ddim trwy wefan 24/7 sy’n cynnig sgyrsiau dienw gyda chyfoedion ar nifer o faterion iechyd meddwl a lles wedi’u cymedroli gan ymarferwyr proffesiynol.

Ynghyd â’r gallu i sgwrsio â chyfoedion, mae modd cwblhau asesiadau ar gyfer nifer o faterion (e.e. gorbryder ac iselder) yn ogystal â dysgu gwybodaeth a sgiliau newydd ar sawl pwnc trwy nifer o gyrsiau hunangymorth ar-lein.

I gael cymorth, ewch i www.togetherall.com/en-gb ac ar eich ymweliad cyntaf, cliciwch ar ‘Register’ ar y dde tua’r brig a dewis “I’m from a university or college”, yna gallwch roi eich cyfeiriad e-bost Aberystwyth a chreu cyfrif.

 

Student Space

Mae Student Space yn wasanaeth sy’n cael ei gynnal gan Student Minds drwy negeseuon testun, dros y ffôn neu drwy e-bost i helpu myfyrwyr trwy’r pandemig. Mae ar gael rhwng 4pm-11pm bob dydd. Maent yn darparu amrywiaeth o wybodaeth, gwasanaethau ac offer i helpu gyda heriau bywyd myfyrwyr.

Mae’r cymorth a ddarperir yn ddiogel, yn gyfrinachol ac wedi’i ddatblygu gan fyfyrwyr ac arbenigwyr mewn lles myfyrwyr ac iechyd meddwl.

I gael cymorth, ewch i www.studentspace.org.uk/cy, tecstiwch STUDENT i 85258, e-bostiwch students@themix.org.uk neu ffoniwch 0808 189 5260.

 

Nightline

Gwasanaeth gwrando a gwybodaeth a gynhelir gan fyfyrwyr ydy Nightline gyda gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n cynnal y gwasanaeth ar ran holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Mae’r gwasanaeth yn gweithredu ar sail pum egwyddor: cyfrinachedd, bod yn ddienw, peidio barnu, peidio cyfeirio a pheidio cynghori.

I gael cymorth, ewch i www.nightline.aber.ac.uk/en/ neu e-bostiwch listening@aberystwyth.nightline.ac.uk.

 

Noddfa

Mae’r Noddfa yn wasanaeth sydd ar gael y tu hwnt i oriau swyddfa arferol ac yn cynnig cymorth ymarferol a therapiwtig, holistaidd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a hynny er mwyn cefnogi pobl sydd mewn risg o brofi argyfwng iechyd meddwl.

Mae’r gwasanaeth ar agor bob dydd Iau i ddydd Sul, rhwng 17:00-02:00, ac ar agor i bobl sy'n hunan gyfeirio at y gwasanaeth ar 01970 629897.


Adnoddau Hunangymorth / Cyflwyniadau Ymarferwyr

Mae hunangymorth yn dod yn ffordd gynyddol gyffredin o reoli pryderon lles, a hynny’n aml drwy ddefnyddio adnoddau a ddatblygwyd ar sail tystiolaeth er mwyn rheoli a goresgyn anawsterau heb gymorth proffesiynol. Caiff adnoddau o’r fath eu hargymell yn aml fel cam cyntaf tuag at ddatrys pryderon am iechyd meddwl a lles.

Mae Gwasanaeth Lles y Brifysgol wedi datblygu cyfres o Gyflwyniadau Panopto sy’n cyflwyno sgiliau a strategaethau i reoli nifer o heriau cyffredin sy’n gysylltiedig â bod yn y brifysgol.

Adnoddau Gwasanaeth Lles Myfyrwyr

  • Cwrs Bywyd ACTif – Bwriad y cwrs di-dâl hwn ydy helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i weithredu’n ymarferol er mwyn deilo â meddyliau a theimladau all fod yn peri trallod.
  • Canllawiau Fideo – Mae’r cyflwyniadau hyn, a ddatblygwyd ac a gyflwynir gan ymarferwyr proffesiynol yn cynnig sgiliau a strategaethau ar gyfer ymdrin â nifer o heriau y bydd myfyrwyr yn eu hwynebu yn ystod eu hamser yn y brifysgol.
    • Testunau Canllawiau Fideo - Rheoli Newid, Oedi ac Osgoi, Rheoli Llwyth Gwaith Academaidd, Cysgu, Rheoli Pryder ynghylch Rhoi Cyflwyniad, Ffordd o Fyw a Deiet a Mynegai Màs y Corff.

Adnoddau Gwasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr

  • Hyfforddiant Llesiant – Mae’r Undeb yn cydweithio gydag elusennau a chyrff amrywiol er mwyn cynnal a darparu rhaglen o weithdai sydd wedi’u cynllunio ar gyfer cefnogi lles myfyrwyr ar y campws.
    • Testunau Hyfforddiant Llesiant - Sgiliau Gwydnwch Emosiynol, Sut i wella ac amddiffyn eich iechyd meddwl, Atal Hunanladdiad, Cymorth Cyfoedion - Gwrando Tosturiol (Samariaid), Hyfforddiant Cynorthwyydd Tywys Cymunedol (Cwn Tywys Cymru) a Hyfforddiant Cydsyniad (Brook).

Hyfforddiant mewn sut i wella ac amddiffyn eich iechyd meddwl

Rydym wedi trefnu i Elusen Two Roads ddarparu 3 sesiwn hyfforddi AM DDIM "Sut i wella ac amddiffyn eich iechyd meddwl" yn gynnar yn y semester hwn. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle hynod o brin i’w cael am ddim a byddant yn rhoi sgiliau hanfodol i chi i gefnogi eich iechyd meddwl nid yn unig yn y Brifysgol ond hefyd trwy gydol eich bywyd.

Mae’r sesiynau 3 awr hyn wedi’u rhannu’n 3 adran, Deall iechyd meddwl, Arferion Iach i’r Meddwl a’u cyflwyno i’ch bywyd, Gwydnwch emosiynol. Darganfyddwch fwy o wybodaeth am y sesiynau yma.

Hyfforddiant sgiliau gwydnwch emosiynol

Darperir y sesiynau hyn gan staff Undeb Aber ac maent hefyd am ddim. Mae’r hyfforddiant hwn yn archwilio beth yw gwydnwch, pam ei fod yn bwysig ac yn rhoi’r sgiliau i’r holl gyfranogwyr adeiladu a gwella eu gwydnwch emosiynol.

Byddem hefyd yn argymell bod pob myfyriwr yn cofrestru ar gyfer un o’r sesiynau hyn yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf gan y bydd yn eich helpu i wella eich gwytnwch emosiynol eich hun yn ogystal â rhoi offer a gwybodaeth i chi i helpu eraill o’ch cwmpas. Darganfyddwch fwy yma.

I weld y dyddiadau a chofrestru ar gyfer unrhyw un o’r sesiynau hyn neu edrych ar gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol ewch i’n tudalen digwyddiadau.


Siarad â rhywun am eu Hiechyd Meddwl

Yn aml, siarad â rhywun ydy’r cam cyntaf i’w gymryd pan fyddwch chi’n gwybod eu bod yn mynd trwy amser anodd, er bod llawer yn ansicr ynglyn â sut i fynd ati i gynnal y sgyrsiau hyn. Mae’n bwysig ceisio osgoi gorfeddwl am sgyrsiau a dim ond trwy siarad â rhywun am eu hiechyd meddwl y gallwch chi ddod i wybod beth sy’n eu poeni a beth allwch chi ei wneud i helpu.

Rhoddir wyth o gynghorion isod ar gyfer siarad am iechyd meddwl:

  • Neilltuwch amser heb unrhyw beth all fynd â’ch sylw – mae’n bwysig creu gofod agored lle na fydd barnu ac heb unrhyw beth all fynd â’ch sylw.
  • Gadewch iddynt rannu cymaint neu gyn lleied ag y maen nhw eisiau – gadewch iddyn nhw arwain y sgwrs yn ôl eu pwysau eu hunain a pheidiwch â phwyso arnynt i ddweud unrhyw beth wrthoch chi nad ydyn nhw’n barod i’w drafod.
  • Peidiwch â cheisio gwneud diagnosis neu ddyfalu beth yw eu teimladau – Cofiwch nad ydych yn gwnselydd fwy na thebyg, ceisiwch beidio â ffurfio tybiaethau ynglyn â’r hyn sydd o’i le na neidio i mewn yn rhy fuan.
  • Cadwch at gwestiynau agored – Meddyliwch am y ffordd rydych chi’n ffurfio cwestiynau a cheisiwch gadw’ch iaith yn niwtral a chofio rhoi amser i’r person ateb.
  • Siaradwch am les – Siaradwch am leihau straen neu am ymarfer hunanofal a gofynnwch a oes rhywbeth y maen nhw’n teimlo ei fod o gymorth. Bydd ymarfer corff, bwyta’n iach a chael noson dda o gwsg oll o gymorth i les rhywun.
  • Gwrandewch yn astud ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud wrthych – Ailadroddwch yr hyn y maen nhw wedi’i ddweud yn ôl wrthynt er mwyn bod yn sicr eich bod wedi deall, dangoswch eich bod yn deall, a pharchwch eu teimladau.
  • Cyfeiriwch nhw at gymorth a sut i gael gafael arno – Gallech chi gynnig mynd gyda nhw neu gael gafael ar gymorth. Ceisiwch osgoi rheoli pethau a gadewch iddyn nhw wneud y penderfyniadau.
  • Deallwch ble mae eich terfynau – Gofynnwch am help neu cyfeiriwch nhw at help os yw’r broblem yn un ddifrifol; os ydych yn credu eu bod mewn perygl uniongyrchol, edrychwch ar adran ‘Cymorth Mewn Argyfwng’ uchod.

Cefnogaeth Allanol

Yn ogystal â’r cymorth a grybwyllwyd uchod, mae nifer o elusennau a chyrff sy’n darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth i unigolion sy’n cael problemau iechyd meddwl.

  • Anxiety UK (www.anxietyuk.org.uk) – elusen genedlaethol sy’n cefnogi unigolion y mae gorbryder, straen, iselder ar sail gorbryder, neu ffobia yn effeithio arnynt.
  • Bipolar UK (www.bipolaruk.org) – elusen genedlaethol sy’n cefnogi unigolion y mae anhwylder deubegwn yn effeithio arnynt.
  • Mind Cymru (www.mind.org.uk/cy/mind-cymru/) – cangen Cymru yr elusen genedlaethol sy’n darparu cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sy’n profi problem iechyd meddwl.
  • No Panic (www.nopanic.org.uk) – elusen genedlaethol sy’n cefnogi unigolion sy’n dioddef o byliau o banig, ffobias, anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) ac anhwylderau eraill sy’n gysylltiedig â gorbryder.
  • Papyrus (www.papyrus-uk.org) – elusen genedlaethol sy’n gweithio’n benodol tuag at atal hunanladdiad pobl ifanc o dan 35 oed yn y Deyrnas Unedig.
  • Student Minds (www.studentminds.org.uk) –  elusen iechyd meddwl myfyrwyr.
  • Headspace (www.headspace.com) – ap a gwefan sy’n cefnogi unigolion gyda myfyrdodau ac ymwybyddiaeth ofalgar dan arweiniad trwy ddefnyddio animeiddiadau, erthyglau a fideos.
  • Noddfa (https://adferiad.org/cym/services/gwasanaeth-noddfa-plant-a-phobl-ifanc-ceredigion/) - Mae’r Noddfa yn wasanaeth sydd ar gael y tu hwnt i oriau swyddfa arferol ac yn cynnig cymorth ymarferol a therapiwtig, holistaidd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a hynny er mwyn cefnogi pobl sydd mewn risg o brofi argyfwng iechyd meddwl.


Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol ar y Brifysgol ac mae’n darparu gwasanaeth cyfrinachol, diduedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Gall y Gwasanaeth Cynghori eich cynorthwyo mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys:

  • Cyngor ar sut i roi adroddiad Amgylchiadau Arbennig i’r Brifysgol.
  • Cyngor ar sut i gyflwyno Apêl Academaidd os byddwch wedi methu’r terfyn amser ar gyfer Amgylchiadau Arbennig, neu os bydd eich amgylchiadau wedi cael eu gwrthod.
  • Rhoi cyngor i chi ar sut i ymadael â’r Brifysgol dros dro a’r pethau y mae angen i chi eu hystyried wrth benderfynu gwneud hynny.
  • Helpu i’ch cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill.

Cysylltu  Chynghorydd


Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd gyntaf: Tachwedd 2020

Adolygwyd: Ebrill 2024

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576