Etholiadau Cynrychiolwyr Academaidd

Dyma eich cyfle i siarad dros eich addysg. Fel Cynrychiolydd Academaidd byddwch yn chwarae rôl weithgar mewn casglu a lleisio adborth myfyrwyr i helpu gwneud eich addysg Brifysgol y gorau posibl!

Cynhelir yr etholiadau ar gyfer ein Cynrychiolwyr Academaidd  ym mis Mawrth a Hydref. Bydd eich adran yn rhoi gwybod i chi am y rolau cynrychioli.

Cynhelir Is-etholiadau ar gyfer rolau gwag trwy gydol y flwyddyn.

 

Sefyll yn Cau

 

 

Sut mae sefyll:

 

Bydd eich adran yn rhoi gwybod i chi am y rolau sydd ar gael, a’r rhai eich bod chi’n gymwys i sefyll drostynt. I sefyll am rôl, llenwch y ffurflen sefyll ar-lein.

Yn narlith y bleidlais, gallwch chi wneud datganiad ymgeisydd byr yn esbonio pam mai chi fydd orau i gynrychioli eich cwrs

 

Sut mae pleidleisio’n gweithio:

 

Pleidlais sengl drosglwyddadwy.

Mae UMAber yn defnyddio'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (PSD) i ethol ein cynrychiolwyr academaidd. Mae hyn yn y bôn yn golygu bod pob pleidleisiwr yn cael y cyfle i raddio ymgeiswyr yn y drefn y dymunant eu gweld yn cael eu hethol - byddant yn dewis rhifau yn hytrach na rhoi marc yn unig. Bydd rhaid i ymgeisydd buddugol gael nifer penodol o bleidleisiau (a elwir yn gwota) i gael ei ethol, a fydd yn newid yn dibynnu ar nifer y pleidleisiau a fwriwyd a'r swyddi sydd ar gael. Yn ein barn ni, dyma'r dull tecaf gan ei fod yn golygu bod yn rhaid i ymgeiswyr gael cefnogaeth eang i ennill.

 

 


Eisiau dysgu ynglyn â bod yn Cynrychiolydd Academaidd?

 

Beth yw Cynrychiolydd Academaidd?

Mae Cynrychiolwyr Academaidd yn fyfyrwyr sy’n gasglu adborth ac yn siarad ar ran myfyrwyr eraill i helpu gwneud eich addysg a’ch profiad Prifysgol y gorau posibl!

Mae Cynrychiolwyr Academaidd yn cael eu hethol i’w rôl gan fyfyrwyr ar eu cwrs, neu yn eu hadran. Golygir hyn eu bod wedi’u dewis fel y person gorau i arwain ar leisio adborth myfyrwyr i staff o fewn eu hadran, y Brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr. 

Y prif ffordd mae Cynrychiolwyr Academaidd yn lleisio adborth myfyrwyr yw gan fynychu Pwyllgorau Cyswllt Staff a Myfyrwyr (PCSMau) a gynhelir 3 gwaith y flwyddyn, ond maent hefyd yn gallu codi adborth gyda’u Swyddog Cyfadran a Swyddog Materion Academaidd yr UM.

Beth yw disgwyliadau Cynrychiolydd Academaidd?

Mae bod yn gynrychiolydd academaidd yn rôl syml ond yn un bwysig, sydd ond yn cymryd hyd at 1-2 awr o'ch amser bob wythnos.

Mae'r disgwyliadau'n cynnwys:

  1. Hyrwyddo'ch rôl ymhlith myfyrwyr a'i gwneud yn glir sut y gallant gysylltu â chi
  2. Siarad â myfyrwyr a chasglu adborth myfyrwyr
  3. Mynychu a chymryd rhan mewn tri Phwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr (un y tymor)
  4. Rhoi gwybod i’r UM am unrhyw gyflawniadau neu broblemau

Pam ddylwn i ddod yn Gynrychiolydd Academaidd?

Rydyn ni’n credu mai llais y myfyrwyr sydd bwysicaf! Rydyn ni eisiau gweithio gyda chi i sicrhau bod barnau, anghenion a phryderon myfyrwyr yn ffurfio eich Adran, y Brifysgol, a’r Undeb myfyrwyr. Trwy ddod yn Gynrychiolydd Academaidd, byddwch wedi cael eich ethol gan eich cyd-fyfyrwyr i fod y person gorau i arwain ar leisio barn fyfyrwyr.

5 prif reswm i ddod yn Gynrychiolydd Academaidd:

  1. Gwneud gwahaniaeth yn y Brifysgol, trwy gyflawni newid positif
  2. Magu ystod o sgiliau o arweinyddiaeth a chyfathrebu, i gasglu a dehongli data
  3. Cryfhau eich CV a dangos tystiolaeth go iawn o ennill profiad
  4. Ennill cydnabyddiaeth wirfoddoli trwy ein Gwobr Aber

Pa hyfforddiant a chymorth gaiff eu darparu?

Estynnir gwahoddiad i bob Cynrychiolydd Academaidd fynychu sesiwn hyfforddi gynted y byddant wedi cael eu hethol i'r rôl. Eleni, byddwn yn ail-enwi ein hyfforddiant yn hyfforddiant i ddechreuwyr a dychwelwyr, gan ddibynnu a ydych wedi bod yn Gynrychiolydd Academaidd o'r blaen.

Yn ogystal â hyfforddiant, byddwch yn derbyn cylchlythyr o leiaf unwaith y mis gyda'r wybodaeth ddiweddaraf a chyfleoedd sy'n berthnasol i'ch rôl – bydd hyn yn cynnwys y cyfle i fynychu cynadleddau rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn cwrdd â chynrychiolwyr o gyfadrannau eraill.

Mae'r Swyddog Materion Academaidd a'r Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd hefyd wrth law gydol y flwyddyn i drefnu cyfarfodydd rheolaidd, cyfleoedd ychwanegol am hyfforddiant ac i ddarparu cymorth parhaus os bydd ei angen.

  Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd
Tom - thm35@aber.ac.uk

  Swyddog Materion Academaidd
Elizabeth - academaiddum@aber.ac.uk

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576