Mae disgwyl i bob ymgeisydd ddweud wrthym pam maen nhw am i bobl bleidleisio drostynt drwy www.umaber.co.uk/etholiadau.

Mae 2 gam gwahanol i'r broses enwebu: yn gyntaf mae angen i chi ddweud wrthym pa rôl rydych yn ymgeisio amdani, ac yn ail rhaid i chi gyflwyno eich cynnwys. 

 

 

1. Mewngofnodi

I ymgeisio, yn gyntaf mewngofnodwch i'r wefan drwy fewngofnodi fel myfyriwr. Nesaf, ewch i'r adran ymgeisio o'r dudalen etholiadau: Mae gennych tan 4pm ar 14/10/16 i ddweud wrthym eich bod yn ymgeisio ar gyfer rôl.

2. Cadarnhau Gwybodaeth

Nesaf, bydd gofyn i chi arbed/cadarnhau'r wybodaeth gywir ynglyn â chi eich hun.

3. Dewis Swyddi i ymgeisio amdanynt

Unwaith y byddwch wedi clicio ar y botwm arbed, cewch eich tywys i dudalen sy'n dangos pob un o'r swyddi rydych yn gymwys i ymgeisio amdanynt (os nad ydych yn gymwys am ryw reswm, nodir hyn dan y swydd berthnasol). Os ydych yn credu y dylech fod yn gymwys ar gyfer swydd a bod y wefan yn dweud nad ydych chi, cysylltwch â Dan Meehan gynted â phosib ar undeb.etholiadau@aber.ac.uk.

4. Ymgeisio ar gyfer Swydd

Pan fyddwch wedi penderfynu ar y swydd/i rydych yn dymuno ymgeisio amdani/amdanynt, cliciwch fotwm 'Stand'. Bydd hwn yn cyflwyno eich manylion yn awtomatig i'r system.

 

Dyma eich cyfle i ddweud wrth y myfyrwyr pam eich bod chi eisiau eu cynrychioli nhw, a pham y dylen nhw bleidleisio drosoch chi – ni ddylai eich prif ddarn o destyn fod yn fwy na thua 200 gair. Rydyn ni hefyd yn gofyn i chi ddarparu 3 phwynt bwled i grynhoi eich blaenoriaethau allweddol.

1. Uwchlwytho'r testun terfynol

Pan fyddwch chi wedi ysgrifennu'r fersiwn derfynol o'ch testun (yn Gymraeg neu'n Saesneg), cyflwynwch hwn i adran ymgeisio'r wefan. Yr uchafswm geiriau ar gyfer swyddi rhan amser yw 200 (heb gynnwys cyfieithiad) gyda chyfle ychwanegol ar gyfer eich pwyntiau bwled blaenoriaethau. Peidiwch â fformadu'r testun mewn unrhyw ffordd pan fyddwch yn ei gyflwyno. 

2. Cyfieithu

Er mwyn sicrhau y gellir cyfieithu testun eich maniffesto cyn y bydd ymgyrchu'n dechrau, y dyddiad cau ar gyfer uwchlwytho testun i'r wefan yw 17/10/16. Wedyn byddwn yn anfon y testun i gael ei gyfieithu. Os ydym yn derbyn unrhyw gyflwyniadau ar ôl y dyddiad hwn, ni allwn sicrhau y byddwch yn ei dderbyn yn ôl mewn pryd.

Pan fyddwn yn ei dderbyn yn ôl wedi ei gyfieithu, byddwn yn e-bostio copi i chi i'w ddefnyddio mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd y byddwch yn ei gynhyrchu, ac mae croeso i chi e-bostio fersiwn wedi’i fformadu/poster atom i fynd ar y wefan.