Etholir 5 swyddog llawn amser bob blwyddyn i wasanaethu fel arweinwyr gwleidyddol UMAber, a chânt eu talu am un flwyddyn. Mae gan bob un ohonynt ddyletswyddau unigol yn eu gwahanol rolau, ac maent yn gweithredu'r rhain ar sail yr addewidion a wnaed ganddynt yn eu maniffestos. Gyda'i gilydd, maen nhw'n cynrychioli holl fyfyrwyr Aberystwyth, ac ar y cyd maen nhw'n gyfrifol am hyrwyddo ac amddiffyn hawliau myfyrwyr, ymgyrchu ar faterion o bwys, hyrwyddo cyfranogiad yn yr Undeb a chydlynu parthau a grwpiau myfyrwyr.

Mae'r swyddogion hyn hefyd yn ymddiriedolwyr ac maent yn eistedd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Undeb yn ogystal ag eistedd ar wahanol bwyllgorau rheoli'r Brifysgol i siarad â'r grwpiau hynny ar ran myfyrwyr. Darperir hyfforddiant ar gyfer pob swyddog etholedig, ynghyd â chefnogaeth ac arweiniad i gyflawni eu rôl a throi eu hamcanion yn realiti.

Er mwyn sganio i lawr yn gyflym at y rôl sydd o'r diddordeb mwyaf i chi, mae croeso i chi glicio ar un o'r doleni canlynol…

 





 

Mae Swyddog Datblygu'r Undeb yn gweithio gyda'r tîm Swyddogion llawn-amser drwy adolygu materion allweddol myfyrwyr yn rheolaidd, yn ogystal â sicrhau bod ymgyrchoedd cynrychioli a gwleidyddol yn cydweddu ag anghenion myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Nhw yw prif gynrychiolydd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, gan eistedd ar wahanol uwch bwyllgorau a chwrdd ag unigolion allweddol yn rheolaidd, er mwyn sicrhau bod perthynas gref rhwng yr Undeb, y Brifysgol a'r gymuned yn ehangach. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod yr Undeb yn cael ei gynrychioli ar lefel genedlaethol, drwy weithredu fel prif bwynt cyswllt ar gyfer UCM ac UCM Cymru.

Fel Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, bydd yn gweithio'n glòs gyda Phrif Weithredwr yr Undeb i sicrhau bod amcanion strategol yr Undeb yn cael eu gweithredu, bod polisïau'n cael eu cynnal a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud sy'n adlewyrchu gwerthoedd yr aelodau. Swyddog Datblygu'r Undeb yw wyneb cyhoeddus Undeb y Myfyrwyr; mae'n gyfrifol am gyhoeddi datganiadau i'r wasg, cynnal cyfweliadau ac ymateb i unrhyw gwynion ac adborth gan aelodau. Mae'r rôl yn un heriol a buddiol i chi, ac mae pob diwrnod yn wahanol.

Mae'r Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA'n sicrhau bod cynrychiolaeth i ddiwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n cwrdd yn rheolaidd gydag unigolion allweddol a’r adrannau perthnasol i hyrwyddo anghenion siaradwyr Cymraeg a'r rheiny sy'n dysgu'r iaith.

Mae hyn yn cynnwys cydlynu ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd, er mwyn sicrhau bod buddiannau siaradwyr Cymraeg yn cael sylw ac yn cael eu hybu. Mae yna wastad ddigon i'w wneud yn y swydd hon, o drefnu gwersi Cymraeg, ymgyrchu a hyrwyddo'r iaith, i sicrhau bod polisïau dwyieithrwydd yn gyfoes.

Fel Llywydd UMCA, mae disgwyl i chi amddiffyn ac ymgyrchu dros hawliau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr yn y brifysgol, yn ogystal ag arwain ar lawer o ddigwyddiadau rheolaidd UMCA a gynhelir gydol y flwyddyn, o Wythnos y Glas i Wythnos Nefi Blw.

Mae'r Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr yn sicrhau cynrychiolaeth myfyrwyr ar faterion sy'n ymwneud â chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd o fewn Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol. Maent yn cynnal cyswllt rheolaidd â phwyllgorau'r clybiau a chymdeithasau, boed wyneb-yn-wyneb, drwy e-bost neu ar gyfryngau cymdeithasol, er mwyn deall barn myfyrwyr yn well.

Gan weithio gyda staff, maent yn helpu i gydlynu ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd a fwriadwyd i gynyddu cyfranogiad a sicrhau bod gweithgareddau ffyniannus dan arweiniad myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys cadeirio'r Parthau Chwaraeon a Chymdeithasu, cynorthwyo gyda'r Wythnos Weithgareddau, Mis RAG, Rhyngolgampau, Superteams a Rygbi 7-bob-ochr Aber.

Yn olaf, maent yn cwrdd yn rheolaidd ag unigolion allweddol ac adrannau perthnasol i hybu datblygiad clybiau, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'r Swyddog Materion Academaidd yn sicrhau cynrychiolaeth myfyrwyr ar faterion sy'n perthyn i astudiaethau academaidd, gan gynnwys buddiannau myfyrwyr rhyngwladol ac ôl-radd; hefyd meysydd megis ehangu cyfranogiad, asesu ac adborth neu ddysgu ac addysgu. Maent yn cynnal cyswllt rheolaidd â Chynrychiolwyr Academaidd ac Athrofa, boed wyneb-yn-wyneb, drwy e-bost neu ar gyfryngau cymdeithasol, er mwyn deall barn myfyrwyr yn well.

Gan weithio gyda staff, maent yn helpu i gydlynu ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd a fwriadwyd i ymgysylltu myfyrwyr yn eu profiad academaidd a'i wella. Mae rhai enghreifftiau o hyn yn cynnwys cadeirio'r Parth Academaidd, adolygu hyfforddiant Cynrychiolwyr Academaidd, trefnu Gwobrau Dysgu UMAber, chwilio am dîm University Challenge, ac yn bwysicaf oll, lobïo'r Brifysgol i newid pethau rydych chi'n meddwl sy'n bwysig i fyfyrwyr.

Yn olaf, mae ganddynt rôl allweddol yn strwythurau rheolaeth y brifysgol, gan eistedd ar amryw o bwyllgorau a chwrdd ag unigolion allweddol ac adrannau perthnasol i hyrwyddo'r profiad academaidd.

Mae'r Swyddog Llesiant yn sicrhau cynrychiolaeth ar faterion sy'n perthyn i lesiant myfyrwyr, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr, lles, cydraddoldeb ac amrywioldeb. Mae'r rôl yn ymdrin ag ystod eang o faterion, gan gynnwys llety a chymorth ariannol, yn ogystal ag iechyd meddwl a chorfforol. Byddant yn adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau rheolaidd, gan gynnwys Swyddogion rhan-amser, cymdeithasau a chysylltiadau allweddol yn y Brifysgol a'r gymuned leol.

Gan weithio gyda staff, maent yn helpu i gydlynu ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd a fwriadwyd i sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth yn ystod eu hastudiaethau, ynghyd â gwella eu llesiant. Mae rhai enghreifftiau o hyn yn cynnwys cadeirio'r Parth Llesiant, cynorthwyo gyda Ffair Dai a Llety'r Undeb, cynrychioli buddiannau myfyrwyr i wahanol grwpiau, o'r Bwrdd Iechyd lleol i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac yn bwysicach oll lobïo'r Brifysgol i newid pethau maent yn credu sy'n bwysig i fyfyrwyr.

Yn olaf, maent yn cwrdd yn rheolaidd ag unigolion allweddol, adrannau perthnasol a chymdeithasau cymunedol i hybu datblygiad llesiant myfyrwyr ymhellach.