Myfyriwr Ymddiriedolwr

Israddedig

Fel Ymddiriedolwr Israddedig, byddwch yn gweithio gydag aelodau staff allweddol ac ymddiriedolwyr i sicrhau bod llais Israddedigion yn rhan o bob penderfyniad pwysig a wneir gan yr Undeb.  Ynghyd â'r ymddiriedolwyr eraill, byddwch yn gyfrifol am arolygu Cyllid a Llywodraethiant yr Undeb.

Bydd hefyd gofyn i chi gymryd rhan mewn gwahanol Is-Bwyllgorau ar faterion megis Penodiadau, Risg Ariannol, Cydraddoldeb ac Amrywioldeb. Mae gofyn i bob Ymddiriedolwr fynychu o leiaf 6 chyfarfod y flwyddyn i gefnogi amcanion yr Undeb.

Mae gweithredu fel Ymddiriedolwr yn gyfle gwych, ond mae yno rai manylion y dylech fod yn ymwybodol ohonynt:

  • Dim ond y rheiny sy'n fyfyrwyr Ôl-raddedig ar hyn o bryd gaiff ymgeisio a phleidleisio ar gyfer rôl yr Ymddiriedolwr Ôl-raddedig.
  • Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â'r swydd ar 1af Tachwedd a bydd yn parhau i fod yn Ymddiriedolwr am 2 flynedd oni fydd yn cwblhau ei astudiaethau cyn diwedd y 2 flynedd yma.
  • Ni allwch wasanaethu fel Myfyriwr Ymddiriedolwr am fwy na 2 gyfnod, a rhaid i chi fod yn fyfyriwr gydol yr amser rydych yn Fyfyriwr Ymddiriedolwr.

Mae'n swydd wirfoddol a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyflawni'r rôl ynghyd â'i astudiaethau. Rhoddir hyfforddiant, arweiniad a chefnogaeth i bob Ymddiriedolwr tra byddant yn ymgymryd â'r rôl. Os ydych am wybod mwy ynglyn â'r rôl, mae croeso i chi anfon e-bost atom: undeb.etholiadau@aber.ac.uk.

Ein Haddewid i Chi

Pwy bynnag gaiff ei ethol yn un o'n Hymddiriedolwyr, gallwn eich sicrhau na fyddwch ar eich pen eich hun. Rydym yn addo i bob un o'n Hymddiriedolwyr y byddant yn mwynhau eu hamser yn fawr, yn dysgu cryn lawer o sgiliau ac yn ymestyn eu gwybodaeth; ar y cyd, byddant yn gyfrifol am fudiad elusennol. Os ydych chi angen ychydig mwy o ddarbwyllo, dyma rai o'r sgiliau y byddwch yn eu meithrin drwy weithio gyda ni:

  • Arweinyddiaeth a Gwneud Penderfyniadau Strategol
  • Cyfathrebu
  • Sgiliau trefnu
  • Sgiliau gwrando a rhyngbersonol
  • Gweithio Mewn Tîm a Sgiliau Pwyllgor

Canllaw Yr Ymgeisydd: 
Lawrlwytho