Canllaw Yr Ymgeisydd: 
Lawrlwytho

Etholir 5 swyddog llawn amser bob blwyddyn i wasanaethu fel arweinwyr gwleidyddol UMAber. Mae gan bob un o’r rhain gyfrifoldeb penodol, ac maent yn cynrychioli holl fyfyrwyr  Aberystwyth, gan weithredu eu dyletswyddau ar sail yr addewidion a wnaed ganddynt yn eu maniffestos a gwaith cyfredol UMAber yn gyffredinol.
 
Mae’r swyddogion hyn hefyd yn ymddiriedolwyr ac maent yn eistedd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Undeb yn ogystal â chymryd seddi ar wahanol bwyllgorau rheoli’r Brifysgol i siarad â’r grwpiau hynny ar ran myfyrwyr.
 
Os ydych chi eisiau canfod mwy o fanylion am fod yn Swyddog Llawn-Amser, cysylltwch â ni drwy undeb.etholiadau@aber.ac.uk.

Mae Llywydd UMAber yn gyfrifol am sicrhau bod amcanion strategol ac arwyddion perfformiad allweddol yn cael eu cyflawni, fel yr amlinellir yng nghynllun strategol yr Undeb. Fel cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, bydd y Llywydd yn sicrhau bod polisïau'r Undeb yn cael eu cynnal a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn unol â gwerthoedd yr aelodaeth. Y Llywydd yw wyneb cyhoeddus Undeb y Myfyrwyr; mae'n gyfrifol am gyhoeddi datganiadau i'r wasg, cynnal cyfweliadau ac ymateb i unrhyw gwynion ac adborth gan aelodau.

Mae'r Llywydd hefyd yn eistedd ar wahanol Bwyllgorau'r Brifysgol gan sicrhau perthynas gref rhwng aelodaeth Prifysgol Aberystwyth a strwythurau llywodraethiant. Mae trafnidiaeth a pherthynas â'r gymuned ymhlith y themâu a ddaw i ran y Llywydd.

Fel Llywydd, byddwch hefyd yn Gyfarwyddwr y Cwmni Masnachu (sydd ynghlwm i Undeb y Myfyrwyr) a byddwch yn cynorthwyo'r Prif Weithredwr mewn monitro gweithgareddau masnachol - gan sicrhau bod incwm yn cael ei greu a bod cynhaliaeth ariannol ar gyfer ymgyrchoedd a chynrychiolaeth.

Mae'r Llywydd yn cynorthwyo'r Swyddogion Ymddiriedolwyr ac yn eu harwain mewn adolygu materion allweddol i fyfyrwyr, yn ogystal ag ymgyrchoedd cynrychiolaeth a gwleidyddol yn unol gofynion yr aelodaeth gyfredol.   Mae gan y Llywydd berthynas feirniadol â'r Prif Weithredwr, sy'n arwain tîm y staff mewn gweithredu dibenion y mudiad a chynnig cefnogaeth i'r swyddogion.

Fel Llywydd, byddwch yn derbyn hyfforddiant penodol gan sawl mudiad, yn fewnol ac yn allanol, ar sut i fod yn fyfyriwr lywodraethwr (fel aelod o Gyngor y Brifysgol) ymddiriedolwr ac fel swyddog myfyrwyr.  Bydd UMAber yn sicrhau eich bod yn derbyn cefnogaeth a hyfforddiant.

Mae'r rôl yn un heriol a buddiol i chi, ac mae pob diwrnod yn wahanol.

Rôl y Swyddog Addysg yw cynrychioli myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar bopeth sy'n ymwneud â'u haddysg. Mae'n swydd amrywiol iawn; un diwrnod gallech fod yn paratoi ar gyfer cyfarfod pwysig â'r Brifysgol, a'r nesaf gallech fod yn rhedeg sesiwn hyfforddi ar gyfer Cynrychiolwyr Academaidd. Bydd gennych y cyfle i redeg ymgyrchoedd a digwyddiadau ar unrhyw beth sy'n ymwneud ag addysg. Byddwch yn lobïo'r Brifysgol ac unigolion i newid pethau sy'n bwysig yn eich barn chi, a byddwch yn gweithio gyda Chynrychiolwyr Academaidd i ganfod beth sy'n effeithio ar fyfyrwyr a'u haddysg; gallai hyn fod unrhyw beth o oriau agor y llyfrgell i'r ffordd y caiff cyrsiau cyfan eu rhedeg. 

Byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o staff yn yr Undeb - cynllunio ymgyrchoedd, 'sgrifennu sesiynau hyfforddi a gweithio gyda chynghorwyr, a byddwch yn dod i adnabod llawer o bobl yn y Brifysgol hefyd. Chi fydd cynrychiolydd myfyrwyr ar amryw o bwyllgorau'r Brifysgol, a chi fydd cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Academaidd, pwyllgor Cynrychiolwyr Athrofeydd.

Byddwch hefyd yn hyfforddi Cynrychiolwyr Academaidd er mwyn sicrhau y gallant berfformio'n effeithiol yn eu rôl, yn ogystal â recriwtio a hyfforddi Cynrychiolwyr Athrofeydd (uwch Gynrychiolwyr Academaidd) i fod yn llais myfyrwyr yn eu hadrannau a'u hathrofeydd. Bydd disgwyl i chi drefnu'r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, popeth o gasglu enwebiadau i ddewis y lliwiau ar gyfer yr achlysur, a byddwch yng ngofal cael hyd i dîm y Brifysgol ar gyfer University Challenge!

Y bobl y bydd gennych y mwyaf o gyswllt â nhw yw pwyllgorau'r clybiau a chymdeithasau.

Chi yw'r person y byddant yn mynd ato/ati, yr wyneb cyfarwydd, ac o'r herwydd rhaid i bobl fod yn gallu cysylltu â chi bob amser - drwy e-bost, yn y swyddfa, yn y dderbynfa, ar gampws Llanbadarn, ar eich ffôn gwaith a thrwy gyfryngau cymdeithasol.

Byddwch yn rhoi trefn ar faterion trefnu lleoliadau / amserlenni yn y Ganolfan Chwaraeon neu'r Undeb, ynghyd â chyd-drefnu mis RAG gyda'r Tîm RAG. Byddwch yn helpu'r SRhA i gyflawni eu haddewidion maniffesto a rhedeg ymgyrchoedd (yn ogystal â phennu cyllido grant).

Mae dydd Mercher BUCS yn llawn hwyl ond yn flinedig dros ben - mae'r diwrnod yn aml yn dechrau am 6 y bore er mwyn sicrhau bod y timoedd i gyd yno, gwirio bod y gyrwyr i gyd yn gwybod ble maen nhw'n mynd a phwy sydd angen mynd i ffwrdd gyntaf. Wedyn yn y pnawn, byddwch yno i gefnogi'r timoedd, yn y cnawd ac ar gyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chofnodi a mewnbynnu'r sgôr.

Bydd gennych gyfarfodydd rheolaidd â'ch cyd-swyddogion sabothol, a byddwch yn gweithio'n glòs â'r Cydlynydd Chwaraeon, Gavin Allen, ynghyd â chyfarfodydd misol â thîm y Ganolfan Chwaraeon a Phwyllgor Gwaith y Brifysgol er mwyn sicrhau bod popeth yn rhedeg yn hwylus. Byddwch yn 'sgrifennu'r Strategaethau ar gyfer cyfeiriad Chwaraeon, Cymdeithasu a Gwirfoddoli yn yr UM, ynghyd â chynnal Archwiliad Gweithgareddau ar sail yr adborth cyfredol a gesglir drwy Barthau Chwaraeon, Parthau Cymdeithasau, y system goleuadau traffig a'r Cyngor.

Yn bwysicaf oll, byddwch yn cael amser anhygoel, ac os nad ydych yn ofni tipyn o waith caled, yna gallaf addo i chi mai dyma un o'r swyddi gorau y bydd gennych chi'r cyfle i'w chyflawni.

Mae rôl y Swyddog Lles wedi newid yn sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.  Mae gennym erbyn hyn ganolfan les â staff llawn yn yr Undeb, felly nid oes bellach angen i chi ddarparu cyngor i fyfyrwyr unigol.

Byddwch yn mynychu cyfarfodydd ar y lefel uchaf o fewn y Brifysgol, gan drafod y ddarpariaeth ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol, cymorth ariannol, llety a diogelwch myfyrwyr, ymhlith pethau eraill. Byddwch hefyd yn gweithio'n glòs gydag UCM Cymru, y Cyngor Lleol a Llywodraeth y Cynulliad i ddylanwadu ar bolisïau a deddfau er mwyn gwella bywydau myfyrwyr. 

Mae yno fwy o amser i redeg ymgyrchoedd nag mewn rôl unrhyw swyddog arall, felly os ydych yn teimlo'n gryf ynglyn â thai neu fwyta'n iach, gallwch wneud gwahaniaeth ar raddfa leol neu ranbarthol.  Byddwch hefyd yn rhedeg digwyddiadau megis Wythnos Dai a Llety ac Wythnos SHAG (iechyd rhywiol).

Mae llawer mwy i'r swydd na bod yn ymgyrchydd ac yn ysgwydd i lefain arni. Byddwch yn gadael â CV fydd yn eich gosod uwchlaw eich cyfoedion.

Mae rôl Llywydd UMCA a Swyddog Materion Cymreig yn un brysur a chyffrous. Mae'r Llywydd yn gweithio o Swyddfa UMCA ym Mhantycelyn, sydd wrth galon y gymuned myfyrwyr Cymraeg.

Mae'r Llywydd yn trefnu holl ddigwyddiadau rheolaidd UMCA gydol y flwyddyn, o Wythnos y Glas i Wythnos Nefi Blw - Mae'n llwyth o waith ond mae'n cynnig cryn lawer o foddhad hefyd.  Mae disgwyl i'r Llywydd amddiffyn ac ymgyrchu dros hawliau Myfyrwyr Cymraeg a dysgwyr yr iaith yn y Brifysgol. Mae yno wastad ddigonedd i'w wneud yn y swydd hon, o drefnu gwersi Cymraeg, ymgyrchu a hyrwyddo'r iaith, i sicrhau bod polisïau dwyieithrwydd yn cael eu cynnal, a phopeth arall yn ogystal. 

Er mwyn cael dealltwriaeth lawn o'r rôl hon, mae weithiau'n haws meddwl amdani fel rhedeg eich undeb bach eich hun, ond ar raddfa lai. Mae boddhad aruthrol i'w gael o wneud y rôl yma, ac mae'n brofiad y buaswn yn ei argymell i unrhyw un!