Mae'n rhy hawdd anwybyddu'r etholiadau a pheidio ag ymddiddori yn yr unigolion hynod ddawnus a dewr sydd wedi cynnig eu hunain i arwain eich Undeb Myfyrwyr eleni. Ond gobeithio bydd yr erthygl hon yn dweud wrthych chi pam ddylech chi ddim anwybyddu'r etholiadau hyn fel bag plastig diarhebol drwy'r gwynt.

Mae dau ateb hollbwysig i'r cwestiwn pam ddylech chi bleidleisio yn yr etholiadau hyn. Mae'r cyntaf yn weddol hirwyntog ynghylch pwysigrwydd arfer eich hawl i bleidleisio, oherwydd yn y wlad hon, rydyn ni'n ymfalchïo yn nemocratiaeth ac ni ddylen ni gymryd y pethau hyn yn ganiataol. Serch hynny, heb i mi ailadrodd droeon a throeon, byddwn ni'n hepgor yr ateb hwn.

Yn bwysicach, dylech chi bleidleisio am fod eich Tîm Swyddogion Llawn-amser, sy'n cynnwys Swyddog Datblygu'r Undeb, Swyddog Materion Academaidd, Swyddog Llesiant, Swyddog Diwylliant Cymreig a Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr, YN CYFLAWNI PETHAU! Maen nhw'n gweithio rhwng 9 a 5 bob dydd gyda myfyrwyr ac er myfyrwyr ac maen nhw wedi creu newidiadau anhygoel. Gweler ein 5 uchaf isod!

  1. Lobïo i agor Llyfrgell Hugh Owen am 24 awr ac estyn oriau agor Llyfrgell Thomas Parry ar gampws Llanbadarn
  2. Ymgyrch leddfu straen yr arholiadau gan gynnwys ystafell gwn, danfoniad o de a choffi a neges mewn oferbeth
  3. Arolwg o'r Bwrdd Iechyd sydd wedi agor y drws i gynnal fforymau cyson i fyfyrwyr ac i glywed llais myfyrwyr yn lleol ar faterion iechyd 
  4. Ymgyrchu a sicrhau ymrwymiad i ailagor Neuadd Pantycelyn
  5. Lleihad yn nirwyon y llyfrgell a chyflwyno polisi asesu ac adborth newydd 

O, a bu bron i ni anghofio dweud bydd pawb sy'n pleidleisio'n cael credyd argraffu a, gan ddibynnu ar ba ddiwrnod byddwch chi'n pleidleisio, gallech chi ennill pâr o docynnau ar gyfer Dawns yr Haf neu daleb Amazon werth £25. Os nad yw'r rheiny'n rhesymau ddigon teilwng i bleidleisio, 'sdim byd arall gallwn ni ei wneud!

Felly y tro nesaf gwelwch chi rywun yn ceisio siarad â chi neu ofyn i chi am eich barn ar un o'u polisïau, treuliwch ddwy funud yn siarad â nhw, neu ewch ar-lein a phleidleisiwch.