Cwestiynau Cyffredin

Meddwl am enwebu eich hun ar gyfer swydd rhan-amser? Mae pob un o'ch cwestiynau heb eu hateb yma ...

Er fy mod i'n swyddog rhan-amser, bydd dal rhaid i mi fynd i ddarlithoedd?

Byddaf. Mae Swyddogion rhan-amser yn dal i fod yn fyfyrwyr yn y Brifysgol. Mae'n union fel cael unrhyw swydd arall rhan-amser ochr yn ochr â'ch astudiaethau, aond eithriad yn y swydd hon yw gallwch wneud gwahaniaeth i'ch Prifysgol.

Faint o oriau fydd yn rhaid i mi ei neilltuo i swydd swyddog rhan-amser?

Mae swyddog rhan-amser yn gweithio unrhyw beth o 3-10 awr yr wythnos yn dechrau ym mis Hydref. Mae ymrwymiad amser y rôl yn amrywio yn ôl faint yr rydych yn fodlon ei wneud ag ymrwymo.

Ble fydd y gwaith yn seiliedig?

Byddwch yn cael eich lleoli yn swyddfeydd Undeb y Myfyrwyr ym Mhenglais, a bydd yn rhaid rhannu gofod swyddfa gyda swyddogion etholedig eraill. Byddwch hefyd yn treulio amser allan o'r swyddfa yn siarad ac yn cynrychioli myfyrwyr ar draws y gwahanol gampysau. Felly, byddwch chi byth mewn un lle am rhy hir!

A allaf redeg am fwy nag un swydd?

Na.  Mae pob rôl unigol gyda cymaint o gyfrifoldeb y byddai'n amhosibl i chi wneud swyddi lluosog hyd yn oed os ydych yn digwydd ennill nhw.

A allaf enwebu ffrind?

Ie! Os ydych yn gwybod am ffrind y byddai, yn eich barn chi, yn dda mewn rôl benodol ac maent yn fyfyriwr Aber.  Anfonwch eu henw a'u cyfeiriad e-bost i dam65@aber.ac.uk a byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth iddynt am sefyll mewn etholiadau.

A fyddaf yn cael unrhyw gefnogaeth gan Undeb y Myfyrwyr yn fy ymgyrch etholiadol?

Bydd! Unwaith y byddwch wedi enwebu eich hun bydd y tîm etholiadau yma i gynnig cyngor a hyfforddiant i chi at yr etholiad.

Dal gyda cwestiwn heb ei ateb? E-bostiwch ni ar dam65@aber.ac.uk neu dewch i swyddfa UM i siarad gyda Dan.