Bleidlais Bapur

Mae’r enwebiadau ar agor ar gyfer menyw i gynrychioli yng nghynhadledd UCM Cymru. Mae cyfansoddiad UCM Cymru yn datgan fod rhaid i aelodau cyfansoddol anfon cynrychiolaeth gytbwys gydag o leiaf hanner ohonynt yn diffinio eu hunain fel menywod. Ar hyn o bryd mae dau ddyn ac un fenyw yn mynychu, felly er mwyn anfon cynrychiolydd ychwanegol mae’n rhaid i ni gydymffurfio â chyfansoddiad UCM Cymru. Rhaid bod ymgeiswyr yn diffinio eu hunain fel menyw er mwyn sefyll yn yr etholiad hwn. Mae’r enwebiadau ar agor o ddydd Mawrth y 18fed o Fawrth hyd at hanner dydd ar ddydd Gwener y 21st o Fawrth.

Er mwyn enwebu eich hun e-bostiwch Andrew Morwood y dirprwy swyddog adroddol o’ch cyfrif e-bost myfyriwr at anm56@aber.ac.uk gyda’r manylion canlynol –

Yr enw yr hoffwch ymddangos ar y dudalen bleidlais

Rhif myfyriwr

Rhif ffôn

 

Bydd rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus anfon maniffesto 250 gair cyn hanner dydd ar y 24ain o Fawrth.

Cynhelir yr etholiadau trwy bleidlais bapur gudd rhwng 10yb a 4yh ar ddydd Mawrth y 25ain o Fawrth o flaen adeilad undeb y myfyrwyr.

Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn rhydd i fynychu cynhadledd UCM Cymru ar y 26ain a’r 27ain o Fawrth yn y Pierhead, Caerdydd. Darperir trafnidiaeth a llety.