Cyrsiau Togetherall

Togetherall

Beth yw’r Togetherall?

Gwasanaeth iechyd meddwl digidol arobryn yw’r Togetherall, ac mae ar gael yn togetherall.com. Mae'n cynnig cymorth 24/7, gyda chlinigwyr hyfforddedig ar-lein bob amser, yn ogystal ag amrywiaeth o adnoddau defnyddiol. Mae’r Togetherall yn cael ei chomisiynu'n eang yn y GIG, yn ogystal â gan awdurdodau lleol, cyflogwyr, prifysgolion, a'r Lluoedd Arfog. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig cymorth anhysbys gan gyfoedion ac yn y gymuned, wedi'i gymedroli a'i gynnal gan glinigwyr hyfforddedig.

 

Beth yw cyrsiau?

Cyrsiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yw rhaglenni ar-lein y Togetherall.  Mae'r cyrsiau hyn wedi'u cynllunio i helpu pobl i reoli amrywiaeth o anawsterau iechyd meddwl a gwella eu hiechyd a'u llesiant ar gyflymder sy'n addas iddyn nhw. Mae cyrsiau ar gael hefyd sy'n cynorthwyo aelodau gyda'u hunan-ddatblygiad, megis hyfforddiant pendantrwydd a mynd i’r afael ag oedi a gohirio di-ben-draw.

 

Sut mae pobl yn defnyddio Cyrsiau?

Mae cyrsiau ar gael i holl aelodau’r Togetherall yn togetherall.com. Gall aelodau ymuno â chwrs unrhyw bryd, a gallant gymryd cymaint ag y dymunant (er yr argymhellir gwneud un ar y tro). O fewn pob cwrs, mae yna amrywiaeth o offer ar gael sy'n helpu aelodau i gael y gorau o bob cwrs.

  • Siarad am y Cwrs - Man cymunedol o fewn pob cwrs lle gall aelodau'r grwp gynnig cymorth i’w gilydd, cyfnewid awgrymiadau a hintiau handi, yn ogystal â thrafod pynciau sy'n berthnasol i'r cwrs
  • Taflenni gwaith y gellir eu hargraffu - Detholiad o dempledi y gall aelodau eu defnyddio i hunan-fonitro a chwblhau tasgau gwaith cartref
  • Gosod Amcanion - Teclyn y gall aelodau ei ddefnyddio i greu, arbed ac adolygu nodau
  • Dyddlyfr - Man preifat sy'n caniatáu amser i fyfyrio

 

Pa gyrsiau sydd ar gael?

 

Cyrsiau Iechyd Meddwl a Llesiant

Rheoli Iselder

Mae'r cwrs hwn yn dangos ffyrdd o reoli'r meddyliau, y teimladau a'r ymddygiadau negyddol sy'n bwydo iselder. Mae'n cynnwys llunio amserlen ar gyfer gweithgareddau, herio meddyliau, awgrymiadau dull o fyw a sgiliau eraill sy'n seiliedig ar dystiolaeth i helpu aelodau i reoli eu hwyliau. Mae Dyddiadur Ymddygiad Gweithredol ar gael fel y gall aelodau reoli eu hwyliau drwy fwy o weithgareddau.

 

Rheoli Pryder ynghylch Iechyd 

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi cymorth i’r rhai sy'n dioddef o bryderon parhaus ynglyn â’u hiechyd. Yn y cwrs hwn, bydd aelodau'n dysgu herio meddyliau negyddol ac yn defnyddio strategaethau ymddygiadol fel atal ymateb i’ch pryderon er mwyn gwneud pryderon am iechyd yn fwy rhesymol a hydrin.

 

Rheoli Panig 

Boed yn deimlo'n bryderus yn gwbl ddirybuddd neu'n delio â sefyllfaoedd sy'n sbarduno pyliau o banig, mae'r cwrs hwn yn rhoi cipolwg ar sut i dorri'r cylch panig a rheoli tonnau cryf o bryder. Mae'r cwrs yn cyfuno strategaethau meddwl â wynebu’r pryderon yn raddol i leddfu'r trallod emosiynol a achosir gan byliau o banig. Mae'r cwrs yn tynnu ar dechnegau sy'n seiliedig ar Ofalgarwch a Therapi Ymddygiad Gwybyddol.

 

Rheoli Pryder Cymdeithasol

Mae’n bosib eich bod chi am reoli Pryder Cymdeithasol neu deimlo'n llai swil mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddod yn fwy pendant a herio'r meddyliau anghymdeithasol a negyddol a allai fod yn dal unigolion yn ôl rhag cysylltu ag eraill a mwynhau digwyddiadau cymdeithasol. Mae aelodau'n cynllunio ac yn cynnal arbrofion ymddygiadol i herio eu hymddygiad a chamu y tu allan i'w hardal gysur.

 

Rheoli Straen a Phryder 

Wedi'i rannu'n ddwy adran, mae'r cwrs hwn yn helpu aelodau i ddefnyddio ystod o dechnegau a strategaethau ar sail tystiolaeth i reoli lefelau uchel o straen a phryder dybryd. Mae hyn yn cynnwys technegau Gofalgarwch ac ymlacio, sgiliau rheoli amser, hylendid cysgu, datrys problemau a'r dechneg Amser Gofidio.

 

Rheoli Ffobiâu 

Yn y cwrs hwn, bydd aelodau'n dysgu sut i wynebu eu hofnau fel y gallant fyw bywydau llawnach. Mae'r aelodau'n dysgu'r seico-addysg y tu ôl i'r hyn sy'n cadw ffobia i fynd, ac mae amrywiaeth o dechnegau ar gael fel y gall aelodau weithio tuag at reoli ofnau a ffobiâu. Yn ogystal â dysgu sut i reoli meddyliau wedi’u gwyrdroi, bydd aelodau'n defnyddio rhaglen Triniaeth Datguddio Graddol fel y gallant wynebu eu hofnau un cam ar y tro.

 

Rheoli Panig 

Gall OCD deimlo'n ailadroddus iawn ac mae’n cymryd llawer o amser; mae hefyd yn bwnc anodd ei drafod ag eraill. Yn ogystal â chynnwys theori OCD, mae'r cwrs hwn yn darparu ystod o dechnegau a strategaethau sy'n helpu aelodau i reoli meddyliau obsesiynol ac ymwthiol. Ymdrinnir ag amrywiaeth o dechnegau yn y cwrs, sy'n helpu aelodau i leihau ymddygiad ailadroddus a gwirio er mwyn ceisio sicrwydd.

 

Rheoli Hunan-niweidio 

Mae'r cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth i aelodau am y camdybiaethau ynghylch hunan-niweidio ac yn rhoi cyngor ar sut i drin hunan-anafiadau. Mae'r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o dechnegau rheoleiddio emosiynol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn atal hunan-niweidio ac ymddygiadau hunanddinistriol eraill. Mae dyddiadur hunan-niweidio ar gael fel y gall aelodau hunan-fonitro, a chofnodi eu cynnydd wrth ymdopi â’r awydd i hunan-anafu neu droi at ymddygiad hunanddinistriol.

 

Gwella Eich Cwsg

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd am wella ansawdd eu cwsg neu'r rheini sydd ag Insomnia ac sydd ond yn cael ychydig iawn o gwsg. Dangosir amrywiaeth o awgrymiadau o ran dull o fyw ac arferion hylendid cysgu i'r aelodau, sy'n hyrwyddo cwsg dyfnach a mwy adferol. Anogir aelodau i hunan-fonitro a rhoi technegau a strategaethau hylendid cwsg ar waith drwy ddefnyddio'r Dyddiadur Hylendid Cwsg.

 

Rheoli Dicter

Mae dicter nid yn unig yn brofiad trallodus, ond mae hefyd yn peri gofid i'r sawl sydd ar ben arall triniaeth o’r fath. Mae'r cwrs hwn yn helpu aelodau i ddod yn fwy ymwybodol o'r arwyddion a’r pethau sy’n sbarduno dicter, yn ogystal â deilliannau dicter. Bydd aelodau'n dysgu cymryd cam yn ôl a rheoli dicter yn well drwy ddysgu sut i reoli meddyliau blin ac atal dicter y byddant yn difaru maes o law. Anogir aelodau i gymryd rhan mewn ymarferion hunan-fyfyriol gan ddefnyddio'r Dyddlyfr a mynd ati i Sgwrsio am y Cwrs er mwyn helpu ei gilydd.

 

Cyrsiau Dull o Fyw Iach

Rhoi'r Gorau i Ysmygu

Os yw rhywun eisiau rhoi'r gorau i ysmygu ond nad yw wedi gallu gwneud hynny ar ei ben ei hun, mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'w helpu i roi'r gorau iddi. Bydd yn darparu cyfranogwyr â gwybodaeth a sgiliau newydd i'w helpu i roi’r gorau i’r arfer a chael gwell rheolaeth ar eu hiechyd. Mae'n defnyddio technegau sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn i gyfranogwyr ganolbwyntio ar eu rhesymau dros roi'r gorau iddi. Gall aelodau hunan-fonitro drwy ddefnyddio'r Dyddiadur Ysmygu a ffurfio cynllun ar gyfer y dyfodol fel eu bod yn gallu cynnal eu cynnydd ac ymdopi ag ambell i gam gwag.

 

Yfed Llai

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i helpu cyfranogwyr i dorri'n ôl ar faint maen nhw'n ei yfed neu i ymatal yn gyfangwbl rhag alcohol. Mae cynnwys y cwrs hwn yn seiliedig ar y dystiolaeth fwyaf cyfredol sydd â’r nod o gynorthwyo rhaglen yfed llai o alcohol gartref, ac mae'n adlewyrchu cydrannau addysg a gofal cefnogol a geir yng Nghanllaw CG115 NICE, ynghylch rheoli yfed niweidiol.

 

Cyrsiau Hunan-ddatblygiad

Datrys Problemau

Gall fod yn anodd ymdopi â phroblemau, yn enwedig pan fyddwch chi’n teimlo'n bryderus neu’n isel eich ysbryd. Ond os yw pobl eisiau datrys neu newid rhywbeth yn eu bywyd, neu gynyddu eu sgiliau ymdopi, mae bod â ffordd strwythuredig o weithio drwy broblemau yn gallu helpu. Mae'r cwrs hwn yn darparu dull strwythuredig o ddatrys problemau. Mae hyn yn cynnwys dynodi problemau a meddwl yn glir am ffyrdd o ddatrys y broblem neu ymdopi â hi. Mae Cynllun Gweithredu ar gael i roi'r cyfle gorau posibl i helpu â sicrhau bod datrysiadau aelodau’n llwyddo.

 

Hyfforddiant Pendantrwydd 

Mae cyfathrebu effeithiol yn allweddol o ran perthnasoedd, bywyd yn y gweithle, rheoli gwrthdaro, a pharchu ein hawliau ein hunain a hawliau pobl eraill. Mae'r cwrs yn cynnwys hyfforddiant sgiliau ar sut i roi a derbyn beirniadaeth a gwella cyfathrebu sy'n rhy oddefol neu ymosodol, fel y gall cyfranogwyr gysylltu ag eraill yn fwy effeithiol.

 

Cydbwyso'ch Meddwl

Pan fydd pobl yn teimlo'n bryderus neu isel eu hysbryd, neu os oes ganddyn nhw lefel isel o hunan-werth, mae'n hawdd mynd i'r arfer o feddwl yn negyddol. Mae meddyliau negyddol yn llethu pobl ac yn eu dal yn ôl, gan eu hatal rhag gwneud y gorau o'u bywydau. Yn y cwrs hwn, bydd cyfranogwyr yn dysgu ffyrdd i reoli meddyliau negyddol a'u hatal rhag cymryd drosodd, ac i sefyll yn ôl oddi wrth feddyliau negyddol a'u hail-lunio. Byddant hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio ailstrwythuro gwybyddol i ddod yn fwy chwilfrydig am eu meddyliau negyddol a chael golwg fwy cytbwys ar fywyd.

 

Rhoi’r Gorau i Ohirio Di-ben-draw 

Pan fyddwn yn teimlo'n isel, dan bwysau neu'n bryderus ynghylch cyflawni tasgau, rydym yn aml yn troi at ohirio pethau fel ffordd tymor byr o reoli ein problemau, gan achosi mwy o drallod emosiynol yn y tymor hir wrth i bethau bentyrru neu beidio â chael eu gwneud. Anogir cyfranogwyr i gymryd rhan mewn ymarferion hunan-fyfyriol i ddarganfod y rheswm sylfaenol pam eu bod yn gohirio gwneud pethau. Anogir aelodau hefyd i ddefnyddio awgrymiadau ar gyfer dull o fyw, sgiliau rheoli amser / trefnu, a thechnegau eraill yn seiliedig ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol i leihau gohirio di-ben-draw a dod yn fwy cynhyrchiol.

Adolygwyd: Hydref 2022

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576