Rhun Dafydd 

Swyddog yr Iaith Gymraeg

undeb.gymraeg@aber.ac.uk

Rhun yw Swyddog yr Iaith Gymraeg ar gyfer 2014/2015. Cyn hynny, bu’n weithgar gydag UMCA ac mae’n gyfrifol am gynrychioli barn ac anghenion y gymuned Gymraeg ei hiaith.

Mae Rhun hefyd yn gadeirydd y Grwp Llywio Dwyieithwrwydd, ac mae’n gyfrifol am sicrhau fod UMAber yn gweithredu’n ddwyieithog.

Bydd Rhun yn rhoddi sylw penodol i’r meysydd canlynol:

  • Undeb Dwyieithog: Sicrhau fod UMAber yn gwbl ddwyieithog lle bo hynny’n bosibl a hyrwyddo’r Gymraeg drwy chwarae cerddoriaeth Gymraeg a sicrhau fod peiriannau twll-yn-y-wal yn ddwyieithog.
  • Datblygu Cyfleoedd: Gweithio tuag at ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith i wella’u sgiliau drwy ddatblygu cynllun cyfieithu gwirfoddol.
  •  
  • Ymgysylltu â’n holl siaradwyr Cymraeg: Cydweithredu â phartneriaid allweddol i ymgysylltu â’n siaradwyr Cymraeg i gyd a’u hannog i gyfranogi yng ngweithgareddau UMCA.