Roy Billington

Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol

undeb.rhyngwladol@aber.ac.uk

Roy yw’r Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol ar gyfer eleni. Cyn hynny, bu’n cynrychioli ei gyd-fyfyrwyr yn yr adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Yn ei rôl fel Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol, mae Roy’n gyfrifol am ymgyrchu ar faterion sy’n effeithio ar les ac addysg myfyrwyr rhyngwladol.

Eleni, bydd Roy’n canolbwyntio ar yr ymgyrchoedd allweddol canlynol:

  • Cynrychiolaeth Ryngwladol: Gweithio tuag at gynyddu cynrychiolaeth a chyfranogiad rhyngwladol drwy gynnal cyfarfodydd misol gyda myfyrwyr rhyngwladol.
  • Ffioedd Rhyngwladol: Ymgyrchu gyda rhanddeiliaid allweddol i wella a gwerthuso ffioedd myfyrwyr rhyngwladol.