Katy Abram

Swyddog Myfyrwyr Anabl

undeb.anableddau@aber.ac.uk

Katy yw’r Swyddog Myfyrwyr Anabl eleni, a chyn hynny, bu’n weithgar gydag Ambiwlans Sant Ioan. Bydd Katy’n gyfrifol am ymgyrchu ar faterion sy’n effeithio ar addysg a lles ein haelodau sy’n fyfyrwyr anabl.

Bydd Katy’n rhoddi sylw penodol i’r meysydd canlynol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod:

  • Marcio Traethodau: Gweithio tuag at sicrhau fod yno bolisi eglur a hygyrch ynglyn â sut y dylid marcio gwaith cwrs y myfyrwyr hynny sydd ag anawsterau dysgu.
  • Campysau Hygyrch: Ymgyrch i wella darpariaethau ar gyfer myfyrwyr anabl gan gynnwys mannau dysgu sy’n gydnaws â chadeiriau-olwyn a chyfarpar recordio ym mhob stafell addysgu.