Claire Herbert

Swyddog y Menywod

undeb.menywod@aber.ac.uk

Claire yw Swyddog y Menywod eleni, a bu’n aelod o dîm codi-hwyl Taranau. Prif gyfrifoldeb Claire yw ymgyrchu ar faterion sy’n effeithio ar les, addysg a chydraddoldeb ein haelodau sy’n fenywod.

Gan weithio gyda swyddogion a rhanddeiliaid eraill, bydd Claire yn ceisio sicrhau fod barn ac anghenion menywod i’w clywed a’u bod yn cael sylw teilwng.

Eleni, bydd Claire yn ffocysu ar yr ymgyrchoedd canlynol:

  • Cynrychioli Menywod: Cynrychioli menywod yn effeithiol drwy fod yn gallu ymgysylltu â’n haelodau sy’n fenywod.
  • Iechyd Menywod: Cydweithredu gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys cymdeithasau, codi ymwybyddiaeth a gwella’r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol menywod.
  •  
  • Campws Diogelach: Gweithio tuag at greu amgylchedd cymdeithasol diogelach ar gyfer menywod drwy gynnal boreau coffi a digwyddiadau cymdeithasol eraill ar gyfer menywod.