Pav Ruangvichatron

Swyddog Myfyrwyr Croenddu a Lleiafrifol Ethnig

undeb.clle@aber.ac.uk

Mae Pav eisoes wedi gwasanaethu am flwyddyn fel Swyddog Myfyrwyr CLlE a bydd yn parhau i weithio ar yr hyn a gyflawnwyd llynedd. Mae Pav yn aelod o sawl cymdeithas a chlwb chwaraeon, ac ef yw Swyddog Cyhoeddusrwydd y clwb Tenis-Bwrdd. Bydd Pav yn gyfrifol dros ymgyrchu ar faterion sy’n effeithio ar les, addysg a chydraddoldeb ein haelodau CLlE.

Eleni, bydd Pav yn canolbwyntio ar yr ymgyrchoedd canlynol:

  • Riportio Troseddau Casineb: Ymgyrch i wella, hysbysebu a sefydlu canolfannau riportio ar gyfer myfyrwyr er mwyn eu galluogi i riportio troseddau casineb o natur hiliol.
  • Ymgyrchu gydag Adloniant: Cysylltu’r ymgyrch wrth-hiliaeth / gwrth ffasgiaeth ag amrywiaeth o gerddoriaeth, siaradwyr gwadd a digwyddiadau sy’n ffocysu ar gydraddoldeb hiliol ac amrywioldeb.