Alex Moore 

Swyddog Cymdeithasau

undeb.cymdeithasau@aber.ac.uk

Mae Alex yn Swyddog Cymdeithasau eleni, ar ôl gwasanaethu ar bwyllgorau sawl Cymdeithas. Fel Swyddog Cymdeithasau, mae Alex yn gyfrifol am gadeirio’r Pwyllgor Gwaith Cymdeithasau, cynorthwyo gyda rhedeg CymAber a gweithio tuag at ddatblygu cyfleoedd ar gyfer Cymdeithasau.

Bydd Alex yn ffocysu ar y meysydd canlynol yn ystod y flwyddyn sydd i ddod:

  • Datblygu CymAber: Parhau gyda datblygu, ymestyn ac integreiddio CymAber.
  • Gwella Cymdeithasau: Gweithio tuag at ddatblygu a gwella cymdeithasau, hen a newydd, fel y gallant dyfu ac ymestyn.
  • Cymdeithasau Rhyngwladol: Gweithio tuag at annog a chynorthwyo mwy o gymdeithasau rhyngwladol a diwylliannol i ymaelodi â CymAber.