Emily Magnus

Swyddog Chwaraeon

undeb.chwaraeon@aber.ac.uk

Emily yw’r Swyddog Chwaraeon ar gyfer eleni. Cyn hynny, bu Emily’n Swyddog BUCS ar y Pwyllgor Gwaith Chwaraeon, gan gynrychioli barn pob Clwb Chwaraeon sy’n perthyn i BUCS. Fel Swyddog Chwaraeon, mae Emily’n gyfrifol am gadeirio’r Pwyllgor Gwaith Chwaraeon, cynorthwyo gyda rhedeg Tîm Aber a gweithio i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer Clybiau Chwaraeon.

Eleni, bydd Emily’n gweithio ar y tri maes yma:

  • Prynhawniau Mercher: Ymgyrchu i sicrhau fod prynhawniau Mercher yn cael eu cadw’n rhydd ar gyfer pob Clwb Chwaraeon.
  • Hyfforddiant: Gweithio tuag at annog mwy o fyfyrwyr i fod yn hyfforddwyr cymwysedig.
  • Gwella Cyfleusterau: Ymgyrchu i wella a datblygu cyfleusterau chwaraeon.