Ryan Myles

Swyddog Cynaliadwyedd a Moeseg

undeb.amgylchedd@aber.ac.uk

Ryan yw’r Swyddog Cynaliadwyedd a Moeseg eleni. Cyn hynny, bu Ryan yn weithgar gyda sawl cymdeithas, a bu’n Gynrychiolydd Athrofa ar gyfer yr Athrofa Fathemateg, Ffiseg a Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol (IMPACS).

Mae Ryan yn gyfrifol am gadeirio’r Grwp Llywio Cynaliadwyedd a Moeseg, ynghyd â sicrhau fod UMAber yn gweithio er budd yr amgylchedd a chorff y myfyrwyr.

Eleni, bydd Ryan yn canolbwyntio ar dair prif ymgyrch:

  • Trafnidiaeth: Ymgyrchu i sicrhau fod gan fyfyrwyr gymaint o ddewisiadau â phosibl ar gyfer teithio i ac o’r Brifysgol, Aberystwyth a gweddill Cymru.
  • Ailgylchu: Gweithio i symleiddio ailgylchu o fewn i UMAber drwy fod ag un bin yn hytrach na phedwar.
  •  
  • Arbed Ynni: Helpu i redeg Prosiect Diffoddwch Bopeth UCM Cymru drwy ddiffodd pob cyfarpar trydanol diangen a helpu i leihau ein hôl-troed carbon.