Bod yn Gynrychiolydd Academaidd

Beth mae Cynrychiolwyr Academaidd yn ei wneud?

Mae Cynrychiolwyr Academaidd yno i sicrhau bod yr addysg mae myfyrwyr yn ei derbyn yn y Brifysgol y gorau y gall fod. Ar ddechrau'r flwyddyn, fe'u hetholir i bwyllgor yn eu hadran, y cyfeirir ato fel Pwyllgor Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr, sef cyfarfod rhwng Cynrychiolwyr Academaidd a staff adrannol allweddol. Gydol y flwyddyn, mae disgwyl iddynt fod yn brif lais myfyrwyr, rhywbeth maent yn ei wneud mewn dwy ffordd.

Yn gyntaf, mae disgwyl iddynt ymateb i bryderon myfyrwyr a chodi materion â'u hadran. Er enghraifft, gall fod yno broblem â'r cyfleusterau, problem â'r amserlen neu adborth ar sut caiff modiwl ei addysgu.

Yn ail, mae Cynrychiolwyr Academaidd yno i weithio fel partneriaid â'u hadrannau i wella'r profiad mae myfyrwyr yn ei gael. Boed yn ail-gynllunio'r ystafelloedd rydych yn cael eich addysgu ynddynt neu'n gyflwyno achos dros adborth cyflymach, maent yn helpu i wneud gwahaniaeth i addysg 10,000 o fyfyrwyr.

Pwy fydda i'n eu cynrychioli?

Gan ddibynnu ar eich adran a'r cynllun gradd, byddwch yn gyfrifol am fyfyrwyr naill ai:

- Ar gwrs (e.e. F800 Daearyddiaeth neu LLB Cyfraith)

- Mewn grwp blwyddyn (e.e. Ail Flwyddyn)

- Yn astudio pwnc arbennig (e.e. Cyfrifo neu Fioleg)

- Mewn categorïau penodol (e.e. Anrhydedd ar y Cyd neu Fyfyrwyr Hyn)

Mae pob adran yn trefnu ei Bwyllgor Staff-Myfyrwyr mewn gwahanol ffyrdd. Pan fyddwch chi'n gwneud cais i fod yn Gynrychiolydd Academaidd, bydd yr aelod staff yn eich cynghori ynglyn â pha swyddi sydd ar gael.

Sut bynnag caiff y Pwyllgor ei drefnu, bydd wastad gennych nifer hydrin o fyfyrwyr i'w cynrychioli.

Pa brofiad sydd ei angen?

Nid oes angen unrhyw brofiad o gwbl arnoch i fod yn Gynrychiolydd Academaidd.  Serch hynny, dylai fod gennych agwedd bositif; dylech fod yn hawdd mynd ato ac yn gyfeillgar.

Pa hyfforddiant fyddaf i'n ei dderbyn?

Mae Undeb y Myfyrwyr yma i'ch cynorthwyo fel Cynrychiolydd Academaidd. Rydym yn cynnig sesiwn hyfforddi gychwynnol unwaith y byddwch chi wedi cael eich ethol, er mwyn eich cyflwyno i'r rôl ac esbonio popeth - bydd gennych chi gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr eraill a holi unrhyw gwestiynau a all fod gennych.

Cynhelir rhaglen o hyfforddiant dewisol pellach gydol y flwyddyn, yn ymdrin â meysydd megis siarad cyhoeddus, sgiliau cyfarfod a thechnegau cyd-drafod. Mae ennill y sgiliau gwerthfawr hyn yn gyfle ardderchog i ddatblygu fel person a chyfoethogi eich CV.

Pam bod yn Gynrychiolydd Academaidd?

Mae bod yn Gynrychiolydd Academaidd yn ffordd dda o gael effaith gadarnhaol yn ystod eich cyfnod yma yn y Brifysgol. Byddwch yn datblygu ystod eang o sgiliau a nodweddion y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt - megis profiad o gyfarfodydd, datrys problemau a chyd-drafod - fydd yn werthfawr iawn pan fyddwch yn gadael y Brifysgol. Y peth gorau yw'r ffaith fod gan Undeb y Myfyrwyr hefyd nifer o ddisgowntiau a phethau am ddim, ar gael yn arbennig i Gynrychiolwyr Academaidd gydol y flwyddyn, i ddweud diolch am yr holl waith caled rydych yn ei wneud.

Fydd y gwaith rwyf yn ei wneud yn cael ei gydnabod?

Bydd! Cyn belled â'ch bod yn Gynrychiolydd Academaidd gweithredol ac yn gweithio'n galed ar ran eich myfyrwyr, caiff hyn ei gydnabod gan y Brifysgol pan fyddwch yn derbyn eich gradd, ar ddogfen y cyfeirir ati fel Adroddiad Cyrhaeddiad mewn Addysg Uwch (ACAU). Cyflwynir yr ACAU i chi ynghyd â'ch tystysgrif gradd, fydd yn eich darparu â chofnod o'r hyn rydych wedi ei gyflawni yn ystod eich amser yn y Brifysgol. Yn ogystal â hyn, mae yno sawl cyfle i Gynrychiolwyr Academaidd gael eu gwobrwyo gydol y flwyddyn, ac mae yno wobr yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr (GDdAM) ar gyfer Cynrychiolwyr Academaidd hefyd!

Nid yw fy nghwestiwn wedi cael ei ateb a dwi am wybod mwy.

Dim problem. Anfonwch e-bost atom ar undeb.cynrychiolaeth@aber.ac.uk