Cyngor Cynrychiolwyr Cwrs

Mae Cyngor Cynrychiolwyr Cwrs yn bwyllgor o gynrychiolwyr cwrs - fel arfer, 2 o bob adran - a phenodir neu a etholir i fod yn Gynrychiolwyr Hyn. Mae'r cyngor yn cwrdd bob mis yn ystod y tymor i drafod materion yn ymwneud â'r Brifysgol er mwyn sicrhau bod yr Undeb yn gallu ymateb yn effeithiol i'ch pryderon chi.

Rydym wedi creu'r tudalen hwn er mwyn esbonio mwy am y pwyllgor ac er mwyn dangos pwy yw eich cynrychiolwyr hyn. Hefyd, rydym wedi cyhoeddi cofnodion cyfarfodydd eleni a'r llynedd er mwyn i chi gael gweld yr hyn a drafodwyd.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynghylch y Cyngor, cysylltwch â Sam Reynolds trwy ddanfon e-bost at union.representation@aber.ac.uk os gwelwch yn dda.