Mae Cynrychiolwyr y Neuaddau yn bodoli er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr sy’n byw yn y neuaddau i godi eu llais. Ar hyn o bryd mae 5 o Gynrychiolwyr ar gyfer y neuaddau isod. Gallwch gysylltu â hwy ynghylch unrhyw broblemau sydd gennych chi, o gloch ddrws sydd ddim yn gweithio at unrhyw welliannau yr hoffech eu gweld yn eich neuadd.

Mae’ch Cynrychiolwyr yn mynychu cyfarfodydd Cynulliad y Myfyrwyr, ble mae cyfle iddynt hwy ddadlau a phleidleisio am faterion yn ymwneud â’r Undeb a’r Brifysgol. Os oes gennych chi deimladau cryfion dros fater penodol gallwch ddweud wrthynt ac fe wnânt wrando!

Yn 2013 rydym ni am gyflwyno nifer o ddulliau newydd i chi gysylltu â hwy a thrafod y pethau sy’n bwysig ichi. Ar hyn o bryd gallwch anfon e-bost at undeb.cadeirydd@aber.ac.uk ac fe wnawn ni sicrhau fod eich neges yn cael ei throsglwyddo. Cadwch lygad am ddatblygiadau yn y flwyddyn newydd!

Cynrychiolwyr Neuaddau

  • Cwrt Mawr: Zoe Clark
  • Rosser: Scott Upward
  • Trefloyne: William Thomas
  • Glan y Môr: Cameron Smyth  
  • Pantycelyn: Gwenno Puw

Mae swyddi gwag ar gyfer Cynrychiolwyr yn neuaddau Brynderw, Alex a Clarendon a Phenbryn.