Mae Cynrychiolwyr y Gymuned yn bodoli er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr sy’n byw yn y dref i godi eu llais. Mae 13 o Gynrychiolwyr sydd yn gyfrifol am unrhyw un sydd yn byw tu allan i’r neuaddau. Gallwch gysylltu â hwy ynghylch unrhyw broblemau sydd gennych chi, o oleuadau stryd sy’n diffodd am 1am at ddiffyg casgliadau sbwriel.

Mae’ch Cynrychiolwyr yn mynychu cyfarfodydd Cynulliad y Myfyrwyr, ble mae cyfle iddynt hwy ddadlau a phleidleisio am faterion yn ymwneud â’r Undeb a’r Brifysgol. Os oes gennych chi deimladau cryfion dros fater penodol gallwch ddweud wrthynt ac fe wnânt wrando!

Yn 2013 rydym ni am gyflwyno nifer o ddulliau newydd i chi gysylltu â hwy a thrafod y pethau sy’n bwysig ichi. Ar hyn o bryd gallwch anfon e-bost at undeb.cadeirydd@aber.ac.uk ac fe wnawn ni sicrhau fod eich neges yn cael ei throsglwyddo. Cadwch lygad am ddatblygiadau yn y flwyddyn newydd!

Cynrychiolwyr y Gymuned

  • Robert Hardware
  • Aaron Evans
  • Ben Holihead
  • Richard P Griffiths
  • Vivian Chinasa Ezugha
  • Jamie O'Brien
  • Thomas Owen Jones
  • David Ingles
  • Harry Warne
  • Sophie Davies
  • Harry Taylor
  • Robert Stebbings
  • Thomas Keane