Mae Cynrychiolwr Senedd y Brifysgol yn llais annibynnol ar gyfer myfyrwyr yn Senedd Prifysgol Aberystwyth, un o ddau brif gorff llywodraethu’r Brifysgol sydd yn gwneud penderfyniadau ar sut y mae’r Brifysgol yn cael ei rhedeg. Maent yn cael eu hethol bob mis Mawrth ac yn eistedd gyda’r Llywydd a’r Swyddog Addysg yn y Senedd. Y Cynrychiolwr Senedd ar hyn o bryd yw Ainsley Gilbert.

Mae’r Senedd yn cwrdd pum gwaith y flwyddyn. Fe wnawn ni’n gorau i’ch hysbysu am yr agenda cyn gynted â phosib cyn bob cyfarfod, ond fel arfer fe ddaw’r papurau o fewn ychydig ddyddiau o rybudd!

  • Gallwch gysylltu â Chynrychiolwr Senedd y Brifysgol trwy anfon e-bost at  aig1@aber.ac.uk