Dewch yn Gynrychiolydd Athrofa...

Mae'r tîm o 300 o Cynrychiolwyr Academaidd a etholir bob blwyddyn i gynrychioli myfyrwyr yn gymwys i sefyll a phleidleisio yn yr Etholiadau Cynrychiolwyr Athrofa. Gan weithio'n agos gyda'u hadrannau, y Brifysgol ac ni yma yn Undeb y Myfyrwyr, mae Cynrychiolwyr Athrofa yn gweithio'n galed i gydweithio gyda Chynrychiolwyr Academaidd eraill ac yn dod â thrafodaethau at y bwrdd ar lefel athrofa.

Fel Cynrychiolydd Athrofa, byddwch yn cynrychioli’r myfyrwyr o fewn eich athrofa - pa bynnag adran y maent yn rhan ohoni. Bydd gennych rôl bwysig i’w chwarae wrth wneud penderfyniadau o fewn yr athrofa a gweithio’n uniongyrchol gyda’r Swyddog Addysg yma yn yr Undeb. Byddwch yn rhan annatod o lais y myfyrwyr yma yn y Brifysgol ac rydym yn edrych am yr ymgeiswyr gorau posib. 

 

Gallwch sefyll am swydd Cynrychiolydd Athrofa yn awr!

Os ydych yn dymuno sefyll llenwch y ffurflen isod.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Rach Morgan, ram29@aber.ac.uk (Ynglyn â bod yn Gynrychiolydd Athrofa)

Chris Parry, crp12@aber.ac.uk (Am wybodaeth am yr Etholiad)