Beth yw Cynrychiolwyr Academaidd?

Caiff pob myfyriwr sy'n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ei gynrychioli gan un o 300 o Gynrychiolwyr Academaidd. Bob blwyddyn, mae adrannau'n ethol tîm o fyfyrwyr i fod yn aelodau o'r Pwyllgor Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr (PYSM). Mae'r ffordd y caiff y cymunedau hyn eu trefnu'n amrywio, felly gallai Cynrychiolydd Academaidd fod yn gyfrifol am gwrs, blwyddyn neu grwp penodol o fyfyrwyr.

Mae Cynrychiolwyr Academaidd yn ymdrin ag adborth, materion a phryderon a godir gan gorff y myfyrwyr, yn ogystal â gweithio gyda'u hadran i ddatrys unrhyw broblemau. Maent yn hanfodol i ni yma yn Undeb y Myfyrwyr ac yn y Brifysgol, gan ffurfio sail i'n gwaith a sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i dderbyn yr addysg maent yn ei haeddu.

Beth yw PYSM?

Mae PYSM, sef Pwyllgorau Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr, yn gyfarfodydd a gynhelir yn rheolaidd gydol y flwyddyn rhwng Cynrychiolwyr Academaidd a staff allweddol yr adrannau. Mae pob adran yn cynnal ei PYSM ei hun, gydag uwch aelod staff yn gyfrifol am bob pwyllgor. Dim ond un pwyllgor sydd gan rai adrannau; mae gan eraill sawl un - gallai adran fod ag un ar gyfer israddedigion ac un ar gyfer ôl-raddedigion, er enghraifft.

Mae'r pwyllgorau hyn yn cwrdd yn aml i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau a godir gan gorff y myfyrwyr a hefyd i gasglu barn myfyrwyr ar ddatblygiadau o fewn yr adran.

Pa fath o faterion mae Cynrychiolwyr Academaidd yn ymdrin â nhw?

Mae Cynrychiolwyr Academaidd yn ymdrin â materion sy'n perthyn i'r profiad academaidd yma yn y Brifysgol. Mae'r addysgu ar fodiwl, adnoddau yn y llyfrgell neu'r ffordd y caiff yr amserlen ei threfnu, ymysg y testunau mae Cynrychiolwyr Academaidd yn ymdrin â nhw, ond caiff amrywiaeth o bynciau eu trafod, sy'n ddiddorol a chyffrous!

Mae'n bwysig cofio nad yw Cynrychiolwyr Academaidd yno i ddelio â phroblemau myfyrwyr unigol, megis cyflwyno apêl neu ail-sefyll arholiad. Mae gennym dîm proffesiynol o gynghorwyr yn yr Undeb, sy'n fwy na pharod i helpu - e-bostiwch undeb.cyngor@aber.ac.uk am apwyntiad.

Pwy yw fy Nghynrychiolydd Academaidd?

Mae pob un o'r Cynrychiolwyr Academaidd wedi cael eu hethol ar gyfer eleni, a gellir lawrlwytho rhestr lawn ohonynt yma *link* (Byddaf yn anfon y daenlen atoch yn fuan!)

Sut mae modd i mi fod yn Gynrychiolydd Cwrs?

Gallwch weld mwy o wybodaeth ynglyn â sut i fod yn Gynrychiolydd Academaidd yma.

Beth yw Cynrychiolwyr Athrofa?

Mae pob Adran yn y Brifysgol yn perthyn i Athrofa drawsfwaol. Mae i'r 6 Athrofa sawl swyddogaeth bwysig sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fyfyrwyr, felly mae'n hanfodol eich bod yn cael eich cynrychioli ar y lefel hon.

Ar ôl i'r Cynrychiolwyr Academaidd i gyd gael eu hethol ar draws y Brifysgol, bydd Undeb y Myfyrwyr yn chwilio am ddau Gynrychiolydd Academaidd o bob Athrofa - un israddedig ac un ôl-raddedig - i fod yn Gynrychiolwyr Athrofa. Bydd y Cynrychiolwyr Athrofa'n eistedd ar bwyllgorau allweddol yn eu Hathrofa a hefyd yn gweithio'n glòs gydag Undeb y Myfyrwyr ar ddatblygu polisi academaidd.

Beth yw'r Pwyllgor Gwaith Academaidd?

Y Pwyllgor Gwaith Academaidd yw'r cyfarfod o'r 12 Cynrychiolydd Athrofa, a gynhelir bob mis gan Undeb y Myfyrwyr. Mae'r Pwyllgor Gwaith Academaidd yn gwahodd gwesteion yn rheolaidd o bob rhan o'r Brifysgol, gan gynnwys uwch reolwyr a chyd-weithwyr o'r adrannau gwasanaethau, i drafod sut allwn ni wneud y Brifysgol yn well.

Sut mae modd i mi fod yn Gynrychiolydd Athrofa?

Gwnewch yn sicr eich bod yn ymgeisio i fod yn Gynrychiolydd Academaidd yn eich adran. Unwaith y byddwch chi wedi cael eich ethol a bod Undeb y Myfyrwyr yn derbyn manylion o'ch adran, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i'ch gwahodd i ymgeisio i fod yn Gynrychiolydd Athrofa.

Pwy sy'n rhedeg y strwythur Cynrychiolaeth Academaidd?

Caiff ei redeg fel partneriaeth rhwng Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol, dan oruchwyliaeth Swyddog Addysg Undeb y Myfyrwyr a'u tîm.  

Nid yw fy nghwestiwn wedi cael ei ateb a dwi am wybod mwy.

Dim problem. Anfonwch e-bost atom ar undeb.cynrychiolaeth@aber.ac.uk