Diwrnodau o Weithredu

Diwrnodau o Weithredu

Cyfleoedd gwirfoddoli untro yw diwrnodau o weithredu, sy’n berffaith i'r rheiny sydd am roi rhywbeth yn ôl, datblygu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd heb wneud ymrwymiad parhaus.Boed hynny’n glanhau traeth, digwyddiad codi arian neu barti i’r henoed, cyn belled â’ch bod chi’n fodlon ymroi ychydig oriau o'ch amser, byddwn ni'n eich helpu chi i wirfoddoli!

Cynhelir diwrnodau o weithredu gan Undeb y Myfyrwyr neu sefydliadau lleol a bydd angen gwirfoddolwyr arnynt ar gyfer digwyddiadau untro. Mae amryw gyfleoedd untro i wirfoddoli gydol y flwyddyn a chewch gyfranogi mewn cymaint o’r rhain ag y mynnwch!

Sylwch fod y diwrnodau o weithredu’n cael eu llenwi ar sail y cyntaf i'r felin. Rhaid cofrestru fel gwirfoddolwr cyn gwneud cais i gymryd rhan mewn diwrnod o weithredu ac ebostiwch...

  Cydlynydd Gwirfoddoli
Tom - suvolunteering@aber.ac.uk

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576