Myfyrwyr Prosiectau

Os ydych chi’n chwilio am ymrwymiad gwirfoddol rheolaidd a arweinir gan fyfyrwyr, mae ein prosiectau yn gyfle gwych i weithio gyda phobl sydd o’r un meddylfryd trwy gydol y flwyddyn. Mae gennym brosiectau presennol y gallwch fod yn rhan ohonynt, neu gallwn ni eich cefnogi i greu eich prosiect eich hunan!

Mae’r prosiectau yn cael eu rhedeg gan o leiaf 2 arweinydd prosiect a rolau gwirfoddol cefnogol. Gyda’ch gilydd byddwch yn gallu helpu achos sydd o bwys i chi, a hyn i gyd wrth ennill cyfrifoldebau, sgiliau a rhwydweithiau gyda myfyrwyr ac elusennau.

Dechrau Prosiect Newydd

 

Cam 1
Llenwch y ffurflen “Prosiectau Gwirfoddol Newydd a Arweinir gan Fyfyrwyr”. Mae’r ffurflen yn gofyn i chi esbonio syniad eich prosiect a’r angen neu’r achos mae’n mynd i’w cefnogi, yn ogystal â chynnwys o leiaf enw 3 unigolyn a fydd yn cychwyn y prosiect. Bydd y cydlynydd gwirfoddolwyr yn adolygu eich cais a’ch gwahodd am gyfarfod. Byddwn yn gweithio gyda chi i ystyried addasrwydd eich prosiect a sicrhau y canlynol:

  • Nad yw’n ail-wneud cymdeithas neu brosiect sydd eisoes yn bodoli
  • Nad yw’n peryglu enw da’r Undeb a’r gymuned ehangach
  • Ei fod yn gallu cyflawni gweithredu neu gyfleoedd gwirioneddol sydd yn cefnogi angen neu achos da
  • Ei fod yn gallu croesawu gwirfoddolwyr eraill i ymuno â’r prosiect
  • Eich bod yn magu cysylltiadau da gydag unrhyw randdeiliaid (lle bo’n addas)
     

Cam 2
Ar ôl ei gymeradwyo, byddwn yn gweithio gyda chi i greu eich dogfennau craidd:

  • Disgwyliadau’r Gwirfoddolwyr
  • Asesiad Risg
  • Rhestr Offer
  • Rolau’r Prosiect

Ar yr un pryd, byddwn yn creu eich asedau Prosiect Gwirfoddol:

  • Gwefan
  • E-bost y Prosiect
  • Cyfrif Cyllid
  • Microsoft Teams

Os byddwch yn cydweithio gydag elusen allanol. Bydd rhaid i ni gofrestru’r elusen ar wasanaeth broceriaeth yr UM (Hwb y Darparwyr (umaber.co.uk)) a byddwn yn gweithio gyda chi i greu dogfen gyfrifoldebau.


Cam 3
Cofrestru fel gwirfoddolwr a chwblhau’r hyfforddiant perthnasol.

Cam 4
Unwaith i chi gwblhau’r hyfforddiant byddwch yn barod i fynd! Gallech chi ddechrau gan:

Ar gyfer unrhyw beth yn ymwneud â rhedeg grwp myfyrwyr, ewch i’r Hwb Adnoddau Tîm Aber neu gysylltwch â’ch cydlynydd perthnasol!

 

Arweinwyr Prosiect

Disgrifiad Rôl Arweinydd Prosiect

Mae arweinwyr prosiect yn fyfyrwyr sy’n sicrhau bod prosiectau yn rhedeg yn rhwydd. Mae’n rhaid cael dau arweinydd prosiect ym mhob prosiect er mwyn cefnogi ei gilydd gyda’u cyfrifoldebau, ac er bod pob prosiect yn wahanol, fel arweinydd prosiect, mae disgwyliadau a phrosesau craidd y bydd rhaid i chi gwblhau.

Bydd arweinwyr prosiect yn:

  • Cymryd rôl i ysgogi ac i gefnogi gwirfoddolwyr a chyflawni nodau’r prosiect.
  • Recriwtio a chadw gwirfoddolwyr newydd a phresennol.
  • Sicrhau iechyd a diogelwch y gwirfoddolwyr a’r prosiect yn gyffredinol.
  • Gyswllt allweddol rhwng UMAber, gwirfoddolwyr a lle bo’n addas, partneriaid elusennol neu randdeiliaid allanol.
  • Cadw golwg ar gyllid y prosiect.
  • Cadw golwg ar e-byst y prosiect a’r wefan.
  • Cefnogi diwylliant o gynwysoldeb, parch a deallusrwydd.

Os oes achos rydych chi’n angerddol drosto a bod eisiau arnoch gymryd yr awenau er mwyn gwneud gwahaniaeth, yna bod yn Arweinydd Prosiect yw’r rôl i chi! Gallwch chi fod yn arweinydd prosiect ar gyfer prosiect sydd eisoes yn bodoli neu greu ac arwain eich prosiect gwirfoddol eich hunan.

Bydd unrhyw fyfyriwr sydd am ddod yn arweinydd prosiect yn mynd trwy broses gyfweld ber dan arweiniad aelod staff a swyddog yr UM.

Byddwch yn cael eich cefnogi gan Undeb y Myfyrwyr er mwyn cyflawni eich rôl a byddwch yn cael eich hyfforddi a’ch cynghori i sicrhau eich bod yn gallu rhedeg prosiect llwyddiannus.

Oes unrhyw gwestiynau? E-bostiwch suvolunteering@aber.ac.uk

Hwb Adnoddau
CONTENT

 

Ymunwch â phrosiect Myfyriwr


Oes angen help?

  Cydlynydd Gwirfoddoli
Tom Morrissey
suvolunteering@aber.ac.uk
  Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr
Rachel Barwise
cyfleoeddum@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576