Cynhelir y Rhyngolgampau eleni Ddydd Sadwrn 16 o Mawrth 2024 mewn amryw o leoliadau ar draws Aberystwyth.
Bydd cannoedd o fyfyrwyr o fwy na 30 o dimau chwaraeon cystadlu yn y twrnamaint am Dlws Rhyngolgampau Aber vs Bangor. Bydd clybiau Tîm Aber geisio ennill y Tlws Chwaraeon ar ôl colli 7 blynedd yn olynnol ers 2014… dim pwysedd felly!
Ddim yn dilyn chwaraeon? Mae cystadleuaeth Rhyngolgampau Aber vs Bangor yn ffordd wych o gyfranogi a bod yn rhan o Dîm Aber, hyd yn oed os nad ydych chi'n gwybod y gwahaniaeth rhwng camsefyll a chamdrafod. Mae'r awyrgylch ar y diwrnod yn rhywbeth allwch chi DDIM ei fethu, wrth i filoedd o fyfyrwyr floeddio eu cefnogaeth i'r naill ochr a'r llall.
#RhyddhauYDdraig
Gwybodaeth Allweddol
Pryd: Dydd Sadwrn 16 Mawrth 2024, 09:00 - 19:00
Ble: Sawl lleoliad yn Aberystwyth.
Gornestau: TBC
Lansio Arwerthiant Nwyddau Rhyngolgampau
#RHYDDHAUYDDRAIG
Os hoffech chi wybod mwy am y digwyddiad, cysylltwch â’r Tîm Cyfleoedd UMAber trwy suclubs@aber.ac.uk. Os hoffech chi wirfoddoli, cysylltwch â’n Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr.