Unwaith eto bydd tref hyfryd Aberystwyth ger y lli yn cynnal yr wyl rygbi 7 bob ochr FWYAF yn ystod penwythnos Gwyl Banc Mai, rhwng 4-5ed o Fai 2024.
Y dyddiad cau ar gyfer mynediad tîm yw 10am Dydd Llun 1af Ebrill 2024
Cysylltwch â Rheolwr Cyfleoedd Myfyrwyr UMAber, Lucie Gwilt am fwy o fanylion.
Llety
Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda'r Brifysgol eto eleni o ran darparu llety fforddiadwy i'n timau. Byddwch yn gallu archebu ystafelloedd yn ein fflatiau Penbryn a BunkHouse ar gyfradd o £30pppn / £37.50 pppn yn y drefn honno (yn seiliedig ar arhosiad o leiaf dwy noson).
Cod hyrwyddo Aber7 ar gyfer archebu yw "rygby7" er mwyn gallu archebu lle ar y gyfradd ostyngol hon, ond yn y cyfamser gallwch gael rhagor o wybodaeth am y llety sydd ar gael yma.
Cystadlaethau
Cynhelir yr holl gystadlaethau dros y penwythnos cyfan. Ar y diwrnod 1af a bore’r 2il ddiwrnod, bydd y timau yn chwarae mewn cynghrair, gyda chystadleuaeth ddileu yn cael ei chynnal ar brynhawn yr 2il ddiwrnod. Yn dibynnu ar lwyddiant pob wrth chwarae yn y gynghrair, byddant naill ai yn symud ymlaen i’r Cwpan, y Plât neu’r Fowlen a fydd yn gystadlaethau dileu sy’n cynnwys rowndiau cyn-derfynol a rownd terfynol.
Gwybodaeth Allweddol
Dyddiad: 4-5ed o Fai 2024
Mynediad: Pris mynediad gwylwyr Aber7s 2024 yw £8 y dydd neu £10 ar gyfer y ddau ddiwrnod. Archebwch eich tocynnau yma!
Parcio: Codir tâl i barcio unrhyw gerbyd - £3 y dydd neu £5 am ddau ddiwrnod. Archebwch eich tocynnau yma! Bydd angen i chi gael eich tocyn parcio yn y maes parcio gan aelod o staff UMAber (mewn siacedi llachar).
Bwyd a Diod: Mae ganddo ni ddigon o ddewis bwyd a diod ar safle #Aber7s eleni; Van byrgyrs a sglodion, Indian Cuisine, Hog Roast, Hufen Ia, van coffi a bar y brifysgol.
Does dim rhaid i chi adael y cae!
Canlyniadau: Mae modd dilyn y canlyniadau byw trwy gydol y penwythnos ar www.aber7s.co.uk
Polisi Blaendolau: Ni chaniateir cwn ar Gaeau Chwarae Blaenau.
Manylion ir Capteiniaid
Cystadlaethau | Gemau dydd Sadwrn | Gemau dydd Sul | Strwythur Knockouts dydd Sul
Map o'r lleoliad | Rheolau
Mynediad: Caiff pob chwaraewr cofrestredig fynediad am ddim felly sicrhewch eich bod chi'n cyrraedd mewn da bryd cyn y gêm gyntaf! Cofiwch, bydd y tîm diogelwch yn sicrhau nad oes gennych alcohol. Os byddant yn dod o hyd i alcohol, caiff ei gymryd oddi wrthych.
Cofrestru'ch Tîm: O 9:00am ymlaen fore Sadwrn ym Mhabell y Swyddogion ym Mlaendolau. (Capteiniaid yn unig os gwelwch yn dda).
Gemau: Bydd y gemau cyntaf yn dechrau'n BRYDLON am 9.40am ar y ddau ddiwrnod. Ni chaiff unrhyw dîm sy'n hwyr / sy'n methu â mynychu gêm chwarae rhan bellach yn gystadleuaeth.
Gorchuddion dannedd: Bydd stondin fechan ar wahân yn gwerthu gorchuddion dannedd hefyd.
Cyflwyniad: Bydd Cyflwyniad y Gwobrau'n digwydd ar y safle, yn dilyn rownd derfynol y Prif Gwpan am tua 5:30pm ddydd Sul.