Presenoldeb a Chynnydd Academaidd

Beth yw'r rheoliadau?

Mae rheoliadau'r Brifysgol yn nodi bod rhaid i fyfyrwyr ddangos:

"...cynnydd derbyniol, ar sail tystiolaeth o bresenoldeb mewn dosbarthiadau, perfformiad boddhaol mewn asesiadau a chwblhau unrhyw waith arall a bennir i'r myfyriwr i'r safon angenrheidiol".

Felly diffiniad 'cynnydd derbyniol' (i fwyafrif y myfyrwyr) yw presenoldeb rheolaidd mewn gweithgareddau a drefnir a chyflwyno gwaith o fewn terfynau amser penodol. Os canfyddir bod presenoldeb neu waith yn anfoddhaol, yna rhaid dilyn proses benodol. Mae'r broses yn ddigon tebyg p’un ai ydych chi'n astudio ar gyfer gradd israddedig neu radd ymchwil; yr unig wahaniaeth yw, os ydych chi'n fyfyriwr ymchwil, cewch eich barnu ar 'gyflwyno gwaith' yn hytrach na 'phresenoldeb'.

Fel arfer, gellir osgoi gweithredu ffurfiol os ydych chi'n hysbysu eich Adran ynglyn ag unrhyw broblemau, ac yn cyflwyno tystiolaeth ategol gynted maen nhw'n amlygu eu hunain. Rydym yn cydnabod y gall rhannu amgylchiadau a allai fod yn effeithio ar eich astudiaethau fod yn brofiad brawychus. Serch hynny, mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yma i'ch helpu chi, felly buasem yn eich annog i ganfod cyngor os ydych chi'n ansicr a yw eich amgylchiadau'n berthnasol.

Os ydych chi wedi cael eich diarddel o'r Brifysgol, mae sawl ffordd o apelio yn erbyn y penderfyniad neu o wneud cwyn os ydych chi'n credu bod y penderfyniad yn annheg neu'n anghywir. Mae gan bob myfyriwr hawl i adolygiad mewnol yn ogystal ag adolygiad allanol. Bydd y materion a ystyrir a'r sail ar gyfer herio'r rhain ym mhob adolygiad yn wahanol.


Cwrdd â'ch adran

Os ystyrir eich bod wedi torri'r rheolau parthed presenoldeb, dylid eich hysbysu bod pryder ynglyn â hyn, a dylid eich gwahodd i gwrdd ag aelod o'ch adran (fel arfer Cyfarwyddwr yr Athrofa neu’r sawl a awdurdodir ar ei ran). Gellid eich diarddel yn awtomatig os ydych chi'n methu mynychu'r cyfarfod hwn heb reswm teilwng, felly mae'n bwysig eich bod wedi paratoi ar gyfer y cyfarfod drwy ofyn am gyngor gan y Gwasanaeth Cynghori cyn mynychu'r cyfarfod. 

Yn y cyfarfod hwn, cewch gyfle i esbonio eich absenoldebau, felly os oes gennych chi amgylchiadau a allai liniaru'r sefyllfa, dylech wneud y rhain yn eglur. Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw fath o salwch corfforol neu feddyliol, yna mae hwn yn gyfle da i wneud cais am gymorth gan yr adran. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, mae'n syniad i chi fod wedi cyflwyno ffurflenni amgylchiadau arbennig a thystiolaeth ymlaen llaw. Gweler ein canllawiau ar Amgylchiadau Arbennig ac Estyniadau am fwy o wybodaeth.

Os na allwch roi rheswm boddhaol am lefel wael eich presenoldeb, yna gellir rhoi rhybudd 'ffurfiol' terfynol i chi, sy'n golygu y gellir eich diarddel yn nes ymlaen heb drafodaeth bellach oni fydd eich presenoldeb a’r gwaith y byddwch yn ei gyflwyno’n gwella. Er bod gennych chi gyfle i apelio yn ystod y cam hwn, mae'n hanfodol eich bod yn darparu esboniad a thystiolaeth ategol mor fuan â phosib.


Beth os ydw i'n anfodlon â phenderfyniad gan y Brifysgol?

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglyn â phenderfyniad gan y Brifysgol, neu os ydych chi'n teimlo bod eich canlyniadau wedi cael eu heffeithio gan broblemau ar y cwrs oherwydd materion personol, yna mae'n bosib y byddwch yn gallu gwneud cais am Apêl Academaidd. Fel arfer, bydd disgwyl i chi fod eisoes wedi darparu manylion ynglyn â'r materion hyn os ydych chi'n bwriadu dibynnu arnynt fel sail ar gyfer apêl yn nes ymlaen, ond mewn achosion eithriadol, gellir derbyn tystiolaeth hwyr.

Os ydych chi'n dal yn anfodlon â chanlyniad apêl academaidd, gallwch hefyd wneud cais am Adolygiad Terfynol, sydd fel arfer yn dwyn prosesau mewnol y Brifysgol i ben.  Gweler ein canllawiau ar Apeliadau Academaidd am fwy o wybodaeth a cheisiwch gyngor gan Gynghorydd Undeb Aber.


Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol o'r Brifysgol, ac mae'n darparu gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Esbonio'r rheoliadau sy'n perthyn i gynnydd Academaidd a phresenoldeb i chi a'ch tywys drwy'r gwahanol gamau;
  • Adolygu unrhyw ddatganiadau drafft rydych yn eu paratoi a chynnig awgrymiadau;
  • Monitro cynnydd eich apêl;
  • Mynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd i'ch darparu â chymorth a chynrychiolaeth;
  • Eich helpu i gasglu tystiolaeth briodol ynghyd fel sail i'ch achos.

I drafod pob opsiwn sydd ar gael i chi, gan gynnwys pa gymorth y gallwch chi ei gael, mae croeso i chi gysylltu â ni isod:


Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd am y tro cyntaf: Mehefin 2017

Adolygwyd: Ebrill 2024

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576