Biliau, Diogelwch a Gwaith Trwsio

Biliau

Os nad yw cost y biliau wedi’i gynnwys yn eich rhent, yna rydych chi'n gyfrifol am eu talu lle bo hynny'n berthnasol; nwy, trydan a dwr. Y diwrnod rydych chi'n symud i mewn, gwnewch gofnod o’r rhifau ar y mesuryddion nwy a thrydan a throsglwyddwch nhw i'r cyflenwyr; fel arall gallech gael eich gorfodi i dalu biliau’r tenantiaid blaenorol.

Os ydych chi'n ansicr ynglyn â phwy yw'ch cyflenwyr, defnyddiwch y cysylltiadau canlynol i ganfod pwy ydyn nhw:

 

Nwy

 

Trydan

 

Dwr

I gael manylion eich cyflenwr nwy, ffoniwch: 0870 608 1524.

I gael manylion eich cyflenwr trydan, ffoniwch: 0845 270 9101.

I gael manylion eich cyflenwr dwr ffoniwch 0800 052 0145.

 

Fel arfer mae'n bosib cael mwy nag un enw ar y biliau. Os mai dim ond un person sy'n llofnodi ar gyfer y cyflenwad, yna mae'r person hwnnw'n gyfrifol am dalu'r biliau. Gwnewch yn siwr nad chi yw'r unig berson sydd â’i enw ar y biliau, neu mewn achosion lle mae un person yn cymryd cyfrifoldeb bod gennych chi dystiolaeth fod taliad wedi cael ei wneud, oherwydd gall problemau godi yn sgil talu biliau.


Newid Cyflenwyr

Efallai y byddwch am ymchwilio i newid cyflenwr drwy ddefnyddio gwefan gymharu prisiau a achredir gan Ofgem. Cyn i chi wneud penderfyniad, edrychwch ar delerau eich cytundeb tenantiaeth a gwiriwch y cwmni cyfleustodau i sicrhau nad ydych wedi eich clymu am gyfnod penodol sy'n hirach na'r denantiaeth.

Cofiwch y gall costau ynni fod yn ddrud, felly mae’n bwysig cyllidebu’n ofalus a defnyddio ynni'n effeithlon. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i fod yn effeithlon o ran eich defnydd o ynni, ewch i www.energysavingtrust.org.uk 


Cyfryngau a Gwasanaeth Band Eang

Chwiliwch am y fargen orau a gwiriwch delerau ac amodau'r contract bob amser. Ar gyfer rhai gwasanaethau, mae’n bosib y bydd angen caniatâd eich landlord arnoch.


Treth y Cyngor

Mae myfyrwyr cofrestredig llawn-amser wedi'u heithrio rhag gorfod talu treth y cyngor. Gall myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ofyn am dystysgrif gofrestru fel prawf eu bod wedi cofrestru drwy eu Cofnod Myfyrwyr ar-lein. Gellir argraffu tystysgrifau y gwnaed cais amdanynt ar unwaith, mewn lliw. Efallai y bydd yn cymryd mwy na hynny os yw’n golygu bod yn rhaid i’r Swyddfa Academaidd geisio gwybodaeth benodol o rywle arall, neu yn ystod cyfnodau prysur yn y Swyddfa.

Os ydych chi'n rhannu gyda thenantiaid nad ydynt yn fyfyrwyr, bydd rhaid iddyn nhw dalu treth y cyngor. Gall gofynion talu treth y cyngor fod yn faes cymhleth; os oes gennych chi unrhyw amheuaeth, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.


Trwyddedau Teledu

Mae'n rhaid i chi gael Trwydded Deledu ddilys os ydych chi'n gwylio neu'n recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu dangos ar y teledu. Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth pa offer rydych chi'n ei ddefnyddio, p'un a yw'n liniadur, cyfrifiadur, consol gemau, ffôn symudol, blwch digidol, neu set deledu - mae angen trwydded arnoch o hyd. O 2016, mae'n rhaid bod gennych drwydded deledu i lawrlwytho neu wylio rhaglenni'r BBC ar iPlayer - yn fyw, drwy wasanaeth dal-i-fyny neu ar alw, ar unrhyw ddyfais.

Am fwy o wybodaeth am drwyddedau teledu, cysylltwch â ni neu ewch i www.tvlicensing.co.uk.


Yswiriant Eiddo

Eich landlord sy'n gyfrifol am yswirio'r eiddo ac unrhyw eitemau maen nhw’n berchen arnynt, ond rydych chi'n gyfrifol am yswirio'ch eiddo personol eich hun. Mae tai myfyrwyr yn dargedau poblogaidd gan ladron manteisgar ac os ydych chi'n berchen ar eitemau gwerthfawr fel teledu neu liniadur, gall trefnu yswiriant ar gyfer y rheiny gynnig amddiffyniad pe bai'r gwaethaf yn digwydd. Cofiwch nad yw yswiriant yn ddewis amgen i fod yn gydwybodol am ddiogelwch; os bydd lleidr yn mynd i mewn drwy ddrws neu ffenest sydd heb eu cloi, efallai na fydd eich cwmni yswiriant yn fodlon talu allan.


Tystysgrif Diogelwch Nwy

Mae'n ofyniad cyfreithiol i'r landlord gael yr holl offer nwy mewn eiddo rhent wedi'i wirio'n flynyddol a rhoi copi o'r dystysgrif diogelwch nwy i'w tenantiaid. Os ydych chi wedi gofyn am gopi o'r dystysgrif ar gyfer eich eiddo ac nad yw wedi'i ddarparu, gallwch chi reportio eich landlord i ddolen Cyngor Diogelwch Nwy yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch (HSE) ar 0800 300363 neu drwy fynd i www.hse.gov.uk/gas/domestic/.

Mae hyn yn bwysig oherwydd ni allwch weld, blasu nag arogli carbon monocsid, ond mae’n hynod beryglus a gall eich lladd. Fe'i cynhyrchir gan gyfarpar sy'n llosgi tanwydd fel nwy; gall hyd yn oed offer sy’n cael ei wasanaethu’n rheolaidd gynhyrchu carbon monocsid.


Diogelwch Trydanol

Mae gan landlord gyfrifoldeb i sicrhau bod y gwifrau ac unrhyw offer trydanol sy’n cael eu cynnwys fel rhan o’r cytundeb ar gyfer y llety yn ddiogel ac yn gweithio’n iawn. Mae hyn yn cynnwys pob gwresogydd, ffwrn, tegell ac unrhyw gyfarpar trydanol eraill.

Am ragor o wybodaeth am ddiogelwch trydanol, cysylltwch â ni neu ewch i www.electricalsafetyfirst.org.uk.

Os ydych chi'n pryderu nad yw offer trydanol yn ddiogel ac nad yw'ch landlord yn barod i'w wirio, gallwch gysylltu ag adran Safonau Masnach yr awdurdod lleol. Mae dyletswydd ar adrannau safonau masnach i orfodi deddfwriaeth sy'n ymwneud â diogelwch y cyfarpar trydanol sy’n cael eu cynnwys fel rhan o’r cytundeb ar gyfer yr eiddo.

I roi gwybod am unrhyw bryderon, neu am fwy o wybodaeth ewch i www.ceredigion.gov.uk/busnes/safonau-masnach.


Dodrefn a gyflenwir gan y Landlord

Mae gan eich landlord gyfrifoldeb i denantiaid ynghylch diogelwch y dodrefn sydd yn y ty neu fflat. Os oes dodrefn meddal (gan gynnwys gwelyau) yn yr eiddo, chwiliwch am label arnynt sy’n dangos cydymffurfiaeth â chyfreithiau diogelwch tân. Os nad oes label o’r fath, gofynnwch i'ch landlord am gael gafael ar ddodrefn yn ei le.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon, neu os ydych chi am gael mwy o wybodaeth ewch i www.ceredigion.gov.uk/busnes/safonau-masnach.


Diogelwch

Mae'n bwysig nodi bod lefel troseddu yn Aberystwyth yn arbennig o isel, ond ni ellir byth gael gwared ar y risg o ddioddef yn sgil trosedd. Mae yna fesurau y gallwch chi eu cymryd i leihau'r risg. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol

  • Gwnewch yn siwr fod ffenestri a drysau y gellir eu cloi yn eich ty neu fflat, a bod cloeon mortis wedi’u gosod, gyda chloeon i’w troi â bawd ar y tu mewn.
  • Gwnewch yn siwr bod eich eiddo yn ddiogel pan fyddwch chi'n gadael y ty, hyd yn oed os ydych chi ond yn mynd allan am bum munud.
  • Peidiwch â gadael pethau gwerthfawr megis gliniaduron neu offer electronig arall heb neb i gadw llygad arnynt, neu mewn mannau lle gall eraill eu gweld yn hawdd drwy’r ffenest; mae lladrad yn fwy tebygol o ddigwydd mewn eiddo lle mae mynediad yn hawdd.
  • Ewch â’ch pethau gwerthfawr adref gyda chi dros y gwyliau,
  • Ymunwch ag Immobilize - mae'n wasanaeth am ddim, mae’n syml ac mae’n eich galluogi i gofrestru'ch eitemau gwerthfawr ar-lein.
  • Os ydych chi'n byw mewn neuaddau neu fflatiau, peidiwch â gadael i ddieithriaid eich dilyn i mewn i'r eiddo; os oes rhywun yn byw yno, dylent fod â’u hallweddi eu hunain i gael mynediad i’r adeilad.

Diogelwch Tân

Pan fydd landlord yn gwneud cais am Drwydded Ychwanegol ar gyfer Ty Amlfeddiannaeth, bydd Cyngor Ceredigion yn gofyn am asesiad risg diogelwch tân a gall osod amodau ar gyfer diogelwch tân.

Am ragor o wybodaeth am asesiadau risg diogelwch tân, ewch i:

http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/tai/tai-amlfeddiannaeth/

Felly mae'n bwysig peidio ag ymyrryd â chyfarpar o'r fath oni bai bod ei angen; isod mae rhai awgrymiadau i sicrhau bod pob un o’r mesurau hyn yn cadw'ch eiddo'n ddiogel:

  • Peidiwch â thynnu i ffwrdd unrhyw fecanwaith sy’n cau drysau tân.
  • Peidiwch â gosod unrhyw beth yn erbyn drysau tân i’w cadw ar agor.
  • Peidiwch byth â gorchuddio neu dynnu batris allan o synhwyrydd mwg neu wres.
  • Rhowch brawf ar larymau mwg yn rheolaidd (lle bo'n bosibl).
  • Rhowch wybod i'r landlord neu asiant gosod ar unwaith os yw'r diffoddwr tân neu'r larwm dân wedi cael eu defnyddio.

Cofiwch y gallai fod yn rhaid i chi dalu o'ch blaendal os caiff offer ei ddefnyddio neu ei drin yn amhriodol.

Am ragor o wybodaeth am atal tân, ewch i: www.firekills.gov.uk.


Atal Llifogydd

Yng Nghymru, mae tua un o bob chwe eiddo mewn perygl o lifogydd, ac mae’n bosib nad yw’r bobl sy'n byw mewn ardaloedd risg llifogydd hyd yn oed yn sylweddoli mai dyna yw’r achos. O ganlyniad, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn awyddus i bob myfyriwr yn Aberystwyth fod yn ymwybodol o'r risg, waeth pa mor anaml neu anghyffredin fydd llifogydd.

I wirio a yw'r eiddo rydych chi'n ei rentu mewn perygl o lifogydd, neu sut i reoli risg llifogydd a chofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim, ewch i www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd.


Safonau Tai

Caiff safonau cartrefi ar rent eu rheoli gan hawliau tenant o dan y cytundeb tenantiaeth a'r cyfreithiau a orfodir gan yr awdurdod lleol. Mae'r awdurdod lleol, Cyngor Sir Ceredigion, yn gyfrifol am wirio safonau mewn eiddo rhent yn Aberystwyth. Mae rhai tai myfyrwyr a rennir yn dod o dan y rheoliadau ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth (HMO). Mae'r rhain yn cynnwys safonau gofynnol ar gyfer cyfleusterau ymolchi a chegin, maint ystafelloedd a diogelwch rhag tân.

Am fwy o wybodaeth ewch i:

http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/tai/tai-amlfeddiannaeth/

Mae'n rhaid i rai tai mewn ardaloedd penodol fod â thrwydded ychwanegol gan Gyngor Sir Ceredigion, hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu cynnwys gan drwyddedu gorfodol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth. Os ydych chi'n rhentu eiddo sydd â 3 neu fwy o denantiaid, gan ffurfio dau neu fwy o deuluoedd, yn Aberystwyth neu’r cyffiniau, bydd angen trwydded ychwanegol.

Os ydych chi eisiau gwirio a yw eich eiddo wedi'i drwyddedu neu os ydych chi'n credu nad yw'n cyrraedd y safonau gofynnol, gallwch gysylltu â Thîm Llesiant Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion ar 01545 572105 neu ewch i:

http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/tai/tai-amlfeddiannaeth/y-gorfrestr-tai-amlfeddiannaeth-trwyddedig/

Byddwch yn gallu trafod eich sefyllfa ac, os oes angen, trefnu i aelod staff y Cyngor ymweld â'ch eiddo a chynnal asesiad llawn. Os oes angen cymryd camau i wella’r eiddo fel ei fod yn ateb y gofynion, bydd y Cyngor yn cysylltu â'ch landlord. Nid oes angen caniatâd gan y landlord arnoch cyn cysylltu â'r Cyngor.


Gwaith Trwsio

Gall landlordiaid fod yn gyfrifol yn gyfreithiol o dan y cytundeb tenantiaeth am drwsio’r eiddo; serch hynny nid yw hyn fel arfer yn cynnwys gwneud gwelliannau penodol oni bai bod y rhain wedi'u cynnwys yn y cytundeb tenantiaeth. Mae'r gwaith atgyweirio y mae landlordiaid yn gyfrifol amdano dan y gyfraith yn cynnwys:

  • Adeiladwaith a thu allan yr adeilad e.e. y to, cafnau bargod, waliau, ffenestri a drysau.
  • Systemau gwresogi a dwr poeth.
  • Pibellau, draeniau, sinciau, baddonau, toiledau a’r ystafell ymolchi.
  • Gwifrau trydanol.
  • Offer nwy gan gynnwys pibellau, simneiau ac awyru.

Dylent drwsio unrhyw ddifrod i’r addurniad a achosir gan adfeiliad, cynnal unrhyw offer a ddarparwyd gyda'r llety a chadw'r eiddo yn rhydd o beryglon iechyd a diogelwch difrifol. Gall eich cytundeb tenantiaeth gynnwys cyfrifoldebau ychwanegol, ond ni allant ddileu'r oblygiadau sylfaenol hyn.


Llygod a Phlâu Eraill

Gall Cyngor Sir Ceredigion roi cyngor i chi ar ddelio â phroblemau plâu, gan gynnwys llygod, llygod mawr a llau gwely. Codir tâl am eu gwasanaethau. Efallai na fydd eich landlord yn fodlon talu am y gwasanaeth os ydynt yn teimlo bod diffyg glendid neu fethu â gwaredu sbwriel wedi achosi'r broblem. Os oedd y broblem yn bodoli pan wnaethoch chi symud i mewn, neu os oes problem â'r eiddo sy'n cyfrannu at y sefyllfa, gallwch ofyn i'ch landlord dalu’r gost (neu gyfrannu ati).

I gael rhagor o wybodaeth am ddelio â phlâu, cysylltwch â nhw neu ewch i:

http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/wardeniaid-cymunedol/difa-plau/


Ailaddurno

Os ydych chi eisiau ailaddurno neu wneud unrhyw newidiadau eraill i'r eiddo, rhaid i chi gael caniatâd y landlord cyn gwneud hynny; fe'ch cynghorir i gael hyn mewn ysgrifen.


Hysbysu’r landlord am atgyweirio

Os oes angen unrhyw waith trwsio, rhowch wybod i’r landlord am hynny ar unwaith a chadarnhewch hyn mewn ysgrifen; mae hyn yn eich darparu â thystiolaeth o bryd a sut yr ydych wedi dwyn sylw’r landlord i’r materion hyn os bydd angen i chi gymryd camau pellach. Os oes gan eich landlord neu asiant eu prosesau eu hunain, gwnewch yn siwr eich bod chi'n eu defnyddio, ond dylech bob amser ofyn am gopi o unrhyw ffurflenni rydych chi'n eu cwblhau.

Wrth reportio bod angen atgyweirio, cofiwch fod yn benodol, nodwch union natur y broblem, pa ystafell, beth yw effeithiau'r adfeiliad ac i'ch landlord neu asiant gadarnhau pryd y bydd y gwaith trwsio’n cael ei wneud. Dylid mynd ati i atgyweiriadau o fewn amser rhesymol, a fydd yn amrywio gan ddibynnu ar natur y gwaith trwsio. Isod mae rhai awgrymiadau:

 

  • Gwaith Trwsio Brys - o fewn 1-5 diwrnod. Gwaith atgyweirio sydd ei angen i osgoi perygl i iechyd, risg i ddiogelwch tenantiaid neu ddifrod difrifol i adeiladau neu eiddo tenantiaid; er enghraifft offer nwy, boeler wedi torri, toiled neu gloeon drysau allanol wedi torri.
  • Gwaith Trwsio nad oes brys mawr amdano - o fewn 28 diwrnod. Atgyweirio diffygion sy'n effeithio'n sylweddol ar gysur neu hwylustod y tenantiaid, er enghraifft toeau sy'n gollwng, plâu neu fân graciau mewn ffenestri. Ac unrhyw atgyweiriadau eraill nad ydynt wedi'u cynnwys yn y categori uchod, er enghraifft gosod cafnau bargod, fframiau ffenestri newydd neu waith cosmetig.

 

Fel rheol, dylai'r landlord neu'r asiant drefnu amser a dyddiad addas pan ellir gwneud y gwaith trwsio. Oni bai ei fod yn fater brys, fel rheol bydd angen rhybudd o 24 awr o leiaf (yn ddelfrydol yn ysgrifenedig) cyn iddyn nhw neu unrhyw weithwyr gyrraedd. Dylai gweithwyr bob amser ddiogelu'r eiddo wrth adael, a dylent gloi pob drws ar ôl iddynt orffen.


Pan nad yw’r landlord yn gweithredu

Os oes oedi afresymol, ysgrifennwch lythyr neu e-bost arall yn nodi bod gwaith trwsio’n dal i fod angen ei wneud, gan atgoffa'r landlord o'u cyfrifoldebau - lle bo modd, rhowch rhwng 24 a 36 awr i’r landlord neu asiant ymateb. Cadwch gopïau o'ch negeseuon e-bost ac anfonwch lythyrau drwy ddanfoniad cofnodedig, fel y bydd gennych brawf eu bod yn cael eu derbyn.

Os nad oes ymateb o hyd, dylech geisio cyngor pellach. Mae gan yr awdurdod lleol (Cyngor Ceredigion) bwerau a dyletswyddau helaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid wneud gwaith atgyweirio. Os na wneir yr atgyweiriadau yn brydlon ac i safon foddhaol ar ôl i chi ysgrifennu at y landlord, yna cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.


Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn cynnig cyngor a gwybodaeth sy’n gyfrinachol, yn ddiduedd ac yn ddi-dâl i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Esbonio hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid, asiantau gosod a thenantiaid.
  • Adolygu a chynghori ar gytundebau tenantiaeth, cyn ac ar ôl arwyddo.
  • Cynnig cefnogaeth os oes anghydfod, gan gysylltu â'r landlord neu asiant gosod.
  • Eich helpu i gasglu tystiolaeth briodol ynghyd, pan fod angen, fel sail i'ch achos.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar e-bost a thros y ffôn. Hefyd, rydyn ni’n cynnal gweithgareddau a digwyddiadau eraill i ddatblygu ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau myfyrwyr, er mwyn sicrhau eich bod chi mor hapus ac iach â phosib yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth.

Cysylltu  Chynghorydd


Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd gyntaf: Chwefror 2019

Adolygwyd: Ebrill 2024

Ymwrthodiad: Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir. Ni ellir dal Undeb Aber yn gyfrifol am ganlyniadau unrhyw beth a wneir o ganlyniad i ddarllen y canllaw hwn. Cyn cymryd unrhyw gamau, rydym yn awgrymu eich bod yn ymweld â'r Gwasanaeth Cynghori.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576