Amser i Ffwrdd o'r Gwaith

Mae gennych hawl i gael rhywfaint o amser i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer gwyliau a seibiannau (gweler ein canllaw ar Oriau, Gwyliau a Seibiannau am fwy o wybodaeth). Efallai y bydd angen amser i ffwrdd o’r gwaith arnoch chi hefyd oherwydd salwch, cael plentyn, profedigaeth, neu faterion teuluol eraill.


Amser i ffwrdd oherwydd eich bod yn sâl

Os ydych chi'n rhy sâl i weithio, dylech ddweud wrth eich cyflogwr ar unwaith. Efallai y bydd eich contract neu lawlyfr staff yn cynnwys cyfarwyddiadau ynghylch sut y dylech chi wneud hyn; os nad yw, cysylltwch â'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf i ofyn beth sydd angen i chi ei wneud. Mae'n bwysig rhoi gwybod iddyn nhw beth yw'r broblem a pha mor hir ydych chi'n disgwyl bod i ffwrdd, a'u diweddaru os bydd unrhyw beth yn newid.

Gallwch hunan-ardystio am hyd at 7 diwrnod o salwch. Mae hyn yn golygu nad oes angen tystysgrif arnoch gan y meddyg, ond gallwch ddweud wrth eich cyflogwr eich hun. Mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi wneud hyn trwy ysgrifennu llythyr, neu trwy lenwi ffurflen pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith. Os ydych i ffwrdd am fwy na 7 diwrnod, dylech gael nodyn gan eich meddyg. Mae'r 7 diwrnod hyn yn cynnwys unrhyw ddiwrnodau na fyddech chi'n gweithio fel arfer.

Er mis Ebrill 2010 mae 'nodiadau ffitrwydd' wedi disodli 'nodiadau salwch'. Mae hyn yn golygu y bydd eich meddyg yn ystyried yr hyn y gallwch ei wneud pan fyddwch chi’n gofyn iddynt am ardystiad. Mae’n bosib y bydd y nodyn hwn yn dweud eich bod yn rhy sâl i weithio, ond gall hefyd ddweud na allwch wneud eich gwaith arferol, ac awgrymu ffyrdd y gallech newid eich swydd dros dro i'ch galluogi i weithio.

Os ydych yn debygol o fod i ffwrdd yn sâl am gyfnod hir, dylech drafod gyda'ch cyflogwr sut y bydd hyn yn effeithio arnoch chi. Dylai fod gan eich cyflogwr bolisi’n ymwneud â hyn. Mae’n bosib y gallant wneud newidiadau a fydd yn caniatáu i chi weithio, ond os ydych i ffwrdd am amser hir iawn, efallai na fydd yn rhaid iddynt gadw'ch swydd yn agored i chi.


Absenoldebau parhaus neu heb eu hawdurdodi

Os ydych i ffwrdd o'r gwaith yn aml, naill ai oherwydd salwch dro ar ôl tro neu heb eglurhad, mae gan eich cyflogwr yr hawl i weithredu ynglyn â hyn. Os ydych chi'n sâl yn aml, bydd polisi cyflogaeth da’n cynnwys gweithdrefn i drafod hyn gyda'ch meddyg ar ôl cael eich caniatâd.

Yn y pen draw, gall eich cyflogwr gymryd camau pellach, a all gynnwys defnyddio eu gweithdrefnau ddisgyblu. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar wefan ACAS.


Cael eich talu pan fyddwch chi'n sâl

Mae'r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i'ch cyflogwr dalu swm penodol i chi pan fyddwch i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch. Mae gennych hawl i Dâl Salwch Statudol os:

  • Rydych chi'n sâl am o leiaf bedwar diwrnod yn olynol (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc a diwrnodau nad ydych chi'n gweithio fel arfer).
  • Mae eich cyflog wythnosol ar gyfartaledd o leiaf £123 yr wythnos.

Cyfradd tâl salwch o Ebrill 2024 yw £116.75 yr wythnos; mae hyn wedi'i rannu â nifer y diwrnodau rydych chi fel arfer yn gweithio mewn wythnos i gael cyfradd ddyddiol, sydd wedyn yn cael ei luosi â phob diwrnod rydych chi'n sâl. Os ydych chi'n gweithio 5 diwrnod yr wythnos, y gyfradd ddyddiol yw £116.75 ÷ 5 = £23.35. Nid yw'r 3 diwrnod cyntaf o salwch yn cael eu cyfrif, felly os ydych chi'n sâl am bythefnos (10 diwrnod gwaith) byddech chi'n cael cyfanswm o £233.50.

Mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn rhoi mwy na'r tâl salwch statudol i chi, os yw hyn wedi'i nodi yn eich contract. Nid oes rhaid iddynt wneud hynny, ond os ydyn nhw, rhaid iddynt roi'r un telerau i bawb. Mae’n bosib y bydd gennych gyfnod y telir eich cyflog yn llawn, a chyfnod y byddwch yn derbyn hanner eich cyflog, oni bai bod y tâl salwch statudol yn fwy na hanner eich cyflog.

Mae Tâl Salwch Statudol yn daladwy am hyd at 28 wythnos. Os bydd eich tâl salwch statudol yn dod i ben, mae’n bosib y bydd gennych hawl i rai budd-daliadau; gallwch fwrw golwg ar wefan Llywodraeth y DU am fwy o wybodaeth.


Amser i ffwrdd oherwydd eich bod yn cael plentyn

Os ydych chi'n feichiog mae gennych hawl i hyd at 52 wythnos i ffwrdd o'r gwaith, cyn belled â’ch bod yn gymwys fel gweithiwr. Gelwir hyn yn absenoldeb mamolaeth.

Rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod chi'n feichiog, y dyddiad genedigaeth arfaethedig, a phryd rydych chi'n bwriadu cymryd amser i ffwrdd. Rhaid gwneud hyn erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn bod disgwyl i'r babi gyrraedd, ac fel rheol ni all absenoldeb mamolaeth ddechrau tan yr 11eg wythnos cyn yr wythnos mae disgwyl i’r babi gael ei eni. Nid yw pa mor hir rydych chi wedi gweithio, faint o oriau rydych chi'n gweithio, na'ch cyfradd tâl yn effeithio ar eich hawl i hyn.

Gellir dod o hyd i fanylion am absenoldeb mamolaeth ac a ydych chi'n gymwys fel gweithiwr ar wefan Llywodraeth y DU.

Mae gennych hawl i gael cyfran o'ch cyflog am rywfaint o'r cyfnod hwn, cyn belled â’ch bod chi’n diwallu rhai amodau sy'n gysylltiedig â chyflog a hyd cyfnod cyflogaeth. Os na fyddwch yn diwallu'r amodau hyn, mae’n bosib y bydd gennych hawl i rai budd-daliadau.

Mae’n bosib bod gan eich cyflogwyr eu cynlluniau eu hunain ar gyfer amser i ffwrdd a thâl, ond rhaid iddynt o leiaf gyrraedd y lefel isaf sy’n dderbyniol. Rhaid i'ch cyflogwr gadw'ch swydd yn agored i chi tra'ch bod chi'n feichiog, oni bai bod cynlluniau diswyddo yn effeithio ar hyn. Os nad ydynt yn cadw'ch swydd yn agored i chi, gallai hyn fod yn ddiswyddiad annheg. Tra'ch bod chi'n feichiog mae gennych hawl hefyd i gael amser rhesymol i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau a dosbarthiadau cynenedigol.

Os ydych chi’n cymryd absenoldeb mamolaeth cyffredin (26 wythnos) mae gennych hawl i ddychwelyd i'r un swydd ag yr oeddech yn ei gwneud cyn eich absenoldeb mamolaeth, ac os ydych chi’n penderfynu cymryd y 26 wythnos ychwanegol o absenoldeb mamolaeth, bydd gennych yr hawl i ddychwelyd i'r swydd hon os yw hynny’n rhesymol ymarferol.


Amser i ffwrdd oherwydd bod cymar yn cael plentyn

Os ydych chi’n dad biolegol neu fabwysiadol i blentyn, neu’n gymar (gan gynnwys pobl o’r un rhywedd) i rywun sy'n rhoi genedigaeth neu'n mabwysiadu plentyn, fel rheol bydd gennych hawl i hyd at bythefnos i ffwrdd o'r gwaith, cyn belled â’ch bod chi wedi gweithio i'r un cyflogwr yn barhaus am 26 wythnos erbyn diwedd yr wythnos sydd 15 wythnos cyn bod disgwyl i'r plentyn gyrraedd. Rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr o fewn 15 wythnos o'r dyddiad y mae'r disgwyl i’r plentyn gyrraedd.

Mae’n bosib y bydd gennych hawl i gael rhywfaint o daliad ar gyfer y cyfnod hwn i ffwrdd o’r gwaith; i gael mwy o wybodaeth am dâl ac absenoldeb tadolaeth, ewch i wefan Llywodraeth y DU

Dylech ddychwelyd i'r gwaith gan gadw at eich telerau ac amodau gwreiddiol i sicrhau nad ydych yn destun diswyddiad annheg.


Amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer cyfrifoldebau teuluol

Mae gan rieni sy'n gweithio, oni bai eu bod wedi'u gwahardd yn benodol rhag bod â hawl i absenoldeb rhiant, hawl i absenoldeb di-dâl os oes rhaid iddynt ofalu am blentyn cymwys. Plentyn cymwys yw plentyn o dan 18 oed.

I fod yn gymwys i gael absenoldeb rhiant mae'n rhaid bod rhiant wedi cael ei gyflogi am flwyddyn gan yr un cyflogwr cyn dechrau’r cyfnod o absenoldeb, ei fod â chyfrifoldeb am blentyn o dan 18 oed ac yn cymryd absenoldeb at ddibenion gofalu am y plentyn.

Os ydych chi'n rhiant sydd wedi'i enwi ar y dystysgrif geni, neu sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am blentyn, mae gennych hawl i hyd at 13 wythnos o absenoldeb di-dâl cyn pen-blwydd y plentyn yn bump oed, neu cyn ei ben-blwydd yn 18 os yw’n anabl. Mae hefyd yn bosib y bydd eich cyflogwr yn caniatáu gweithio'n hyblyg i bobl sydd â theuluoedd.


Amser i ffwrdd ar gyfer argyfwng

Mae gennych hawl i absenoldeb di-dâl rhesymol i ddelio ag argyfwng sy'n effeithio ar ddibynnydd. Gallai hyn fod yn blentyn, aelod arall o'r teulu, neu'n rhywun sy'n dibynnu'n arnoch chi, o fewn rheswm. Gallai hyn fod oherwydd salwch neu anaf, neu fod bwlch yn y trefniadau gofal arferol. Nid oes diffiniad penodol ar gyfer yr hyn sy’n rhesymol, felly dylech drafod eich anghenion gyda'ch cyflogwr.

Mae mwy o wybodaeth, ynghyd ag enghreifftiau o'r hyn a ganiateir, ar gael ar wefan Llywodraeth y DU ynghylch amser i ffwrdd ar gyfer gofalu am deulu a dibynyddion. Mae’n bosib y bydd gan rai cyflogwyr hawliau penodol neu rai gwell na hyn, fel amser i ffwrdd â thâl mewn rhai sefyllfaoedd. Os ydych chi’n credu nad yw'r amodau cyfreithiol mwyaf sylfaenol ar gael i chi, siaradwch â Gwasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr am gyngor.


Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol o'r Brifysgol, ac mae'n darparu gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Esbonio’ch hawliau o ran deddfwriaeth cyflogaeth a'ch cyfeirio at wasanaethau cynghori allanol, lle bo hynny’n briodol.
  • Adolygu unrhyw ddatganiadau drafft rydych chi’n eu paratoi a chynnig awgrymiadau;
  • Mynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd er mwyn darparu cymorth a chynrychiolaeth i chi, lle bo hynny’n briodol.
  • Eich helpu i gasglu tystiolaeth briodol ynghyd fel sail i'ch achos.

Cysylltu  Chynghorydd


Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd am y tro cyntaf: Medi 2020

Adolygwyd: Ebrill 2024

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576