RhagLas: Chwaraeon a Chymdeithasau


Archebwch nawr | Gwybodaeth Allweddol | Amserlen | Cysylltu

Archebwch erbyn hanner nos, Dydd Iau 7fed o Fedi 2017 

Methu aros tan wythnos y Glas? Am gyfranogi cynted â phosib? Oes gennych chi ddiddordeb yn y grwpiau y gallwch chi ymuno â nhw yn Aberystwyth? Yna mae Chwaraeon a Chymdeithasau RhagLas yr union beth i chi! Mae ein digwyddiad blynyddol yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar amrywiaeth enfawr o chwaraeon a chymdeithasau sydd ar gael yn Aberystwyth: 2 ddiwrnod a ½ o chwaraeon, cymdeithasau a chymdeithasu!

HEFYD: Cewch fynediad cynnar i'ch llety yn y Brifysgol!

Cynhelir RhagLas rhwng 20fed – 22ain Medi 2017, ac mae'n cynnnig amrywiaeth eang o weithgareddau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw, yn ogystal â digwyddiadau ar fin-nos i'ch helpu chi i ddod i adnabod y dref a fydd yn gartref i chi dros y 3 blynedd nesaf! Felly os ydych chi wedi gwirioni ar gampau, os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymdeithas arbennig, neu os ydych chi'n awyddus i roi cynnig ar bethau newydd a chwrdd â phobl newydd, mae RhagLas yn gwneud y trawsnewidiad i fywyd prifysgol ychydig yn haws.

RhagLas: Mae Chwaraeon a Chymdeithasau'n cael eu rhedeg gan Dîm Cyfleoedd Undeb y Myfyrwyr, ac mae'n agored i'n HOLL fyfyrwyr newydd.

Ewch ati i gymryd rhan; gallwn sicrhau y bydd yn brofiad anhygoel!


Oes gennych chi ddiddordeb? Dyma rywfaint o wybodaeth allweddol:

--> Mynediad cynnar i'ch llety ar y prynhawn Mercher
--> Os ydych yn fyfyriwr newydd neu yn dychwelyd...cyn belled a'ch bod yn astudio yn Aber mae croeso i chi ymuno a ni yn ystod RhagLas.
--> Bwyd – Cinio ar y nos Fercher, brecwast a chinio min-nos ddydd Iau a brecwast fore Gwener.
--> Rhestr ddyddiol gynhwysfawr o sesiynau chwaraeon a chymdeithasau i chi ddewis o'u plith
--> Cewch drefnu eich diwrnod fel y mynnwch
--> Gallwch newid o un gamp neu gymdeithas i'r llall, neu gadw at un sydd at eich dant
--> Mae'n gyfle i fyw bywyd Aber i'r eithaf gyda'n hadloniant min-nos
--> Rhowch ddechrau da i Wythnos y Glas yng nghwmni llwyth o ffrindiau
--> Bydd myfyrwyr sy'n hyfforddwyr profiadol ar gael i'ch helpu, ddydd a nos
--> Cyfleusterau gwych ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon a chymdeithasau
--> Trafnidiaeth i bob sesiwn

 

Cynhelir dros 40 o wahanol weithgareddau, gan gynnwys: Syrffio, Lacrós, Saethyddiaeth, Ail-greu Canoloesol, Pêl-rwyd, Cic-focsio, Theatr Cerdd a llawer, llawer mwy!


Nid yw'r cynnyrch hwn ar werth.


Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Cydlynydd Chwaraeon UMAber: Lucie Gwilt / leg13@aber.ac.uk / 01970 621754

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576