Wythnos UMAber yn Dathlu 2024

bannerwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Beth yw UMAber yn Dathlu?

Mae UMAber eisiau i fyfyrwyr garu bywyd myfyrwyr...

Mae Wythnos UMAber yn Dathlu (29ain Ebrill – 3ydd Mai) yn gyfle i ni ddathlu a dweud diolch yn fawr i’r holl staff rhagorol a myfyrwyr anhygoel sy’n gwneud UMAber yn lle gwych.

 

Beth sydd ymlaen yr wythnos hon?

Rydyn ni’n addo, trwy gydol yr wythnos hon, y byddwn ni’n rhannu pob stori, llwyddiant ac effaith gennych chi, ein myfyrwyr Aber, yn sgil popeth y buoch chi’n rhan ohono yn ystod y flwyddyn academaidd 2023-2024; rydyn ni am ddathlu’r rhain fesul addewid UMAber

Cynhelir Gwobrau Chwaraeon a Chymdeithasau UMAber yn Undeb y Myfyrwyr o 18:30 ar ddydd Mercher 1af Mai.

Y noson wedyn (2il Fai), byddwn yn cynnal y Gwobrau Addysgu, Dysgu a’r Profiad Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr o 18:30.

Yn olaf, down ni ag UMAber yn Dathlu i ben gydag Aber7s ym Mlaendolau... os ydych chi heb gofrestru tîm i chwarae eto peidiwch â phoeni, mae modd i chi alw heibio i fanteisio ar ddiwrnod o gymdeithasu a rygbi.

*diolch i bawb sydd wedi enwebu eraill am y gwobrau uchod ac os na allwch chi ymuno â ni ar gyfer y gwobrau, cadwch olwg am ein cyfryngau cymdeithasol i weld cyhoeddiadau gwobrau yn ystod y digwyddiadau.

 

Ymunwch â ni

Rhannwch straeon eich llwyddiannau dros y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #UMAberYnDathlu #AberSUCelebrates

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576