Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo ei enw newydd – Undeb Aberystwyth

Ddydd Llun 4ydd Mawrth yn ‘y Cyfarfod Mawr’ (cyfarfod cyffredinol blynyddol y sefydliad), a welodd 150 o fyfyrwyr yn mynychu, fe bleidleisiwyd o blaid newid enw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth gan fyfyrwyr Aberystwyth.

welsh

Ddydd Llun 4ydd Mawrth yn ‘y Cyfarfod Mawr’ (cyfarfod cyffredinol blynyddol y sefydliad), a welodd 150 o fyfyrwyr yn mynychu, fe bleidleisiwyd o blaid newid enw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth gan fyfyrwyr Aberystwyth.

Elain Gwynedd, Swyddog Diwylliant Cymru a Llywydd UMCA a gyflwynodd syniad i’w drafod a chynnal pleidlais ynghylch; “a ddylai Undeb Myfyrwyr Aberystwyth newid ei enw a chael ei adnabod yn Undeb Aberystwyth?” bwriodd 81% o’r myfyrwyr a ddaeth bleidlais o blaid newid yr enw.

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth oedd Undeb Myfyrwyr cyntaf Cymru i gyflwyno polisi dwyieithog ac i weithredu’n gwbl ddwyieithog gan ryddhau popeth rydym yn ei rannu gyda myfyrwyr Aberystwyth yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae newid yr enw yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig a Chymraeg yr Undeb ac yn cydymffurfio ag un o’i werthoedd craidd sef “Caru’r Gymraeg – Rydym yn hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant”. Pa well ffordd o ddangos hyn na newid yr enw yn Undeb Aberystwyth.

Mae Elain Gwynedd, a gyflwynodd y cynnig, wrth ei bodd yn dod yn Undeb Aberystwyth:

“Mae’r newid hwn yn garreg filltir bwysig yn hanes yr Undeb ac yn dangos ein hymrwymiad tuag at y Gymraeg.

Yr oedd yn uchelgais gennyf i newid yr enw er mwyn adlewyrchu endid Cymraeg yr Undeb Myfyrwyr ac rwy’n hynod ddiolchgar bod y cynnig wedi’i basio yn y Cyfarfod Cyffredinol gyda mwyafrif sylweddol. Braf oedd gweld aelodau o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn dod i gefnogi’r cynnig. Mae eleni’n flwyddyn bwysig iawn yn hanes UMCA gan ein bod yn dathlu hanner can mlynedd, a felly mae llwyddo i newid enw’r Undeb ehangach i un uniaith Gymraeg yn goron ar ein dathliadau.”

Wrth drafod y datblygiad anhygoel i’r Undeb, mynegodd Prif Weithredwraig Undeb Aberystwyth, Trish McGrath, ei brwdfrydedd dros yr hunaniaeth newydd: “Rydym ni wrth ein boddau o fod â hunaniaeth Gymraeg gref wrth i ni lansio ein henw newydd yn Undeb Aberystwyth. Mae’r newid yn adlewyrchu ein gwerthoedd craidd ac rydym wirioneddol yn “Caru’r Gymraeg”.

Croesawyd y newid gan ein tîm staff sydd eisoes yn ymfalchïo mewn gweithio i’r undeb yn Aberystwyth, ond rydym yn fwy balch fyth o ddangos hunaniaeth Gymraeg glir.”

I gael rhagor o wybodaeth am Undeb Aberystwyth, ewch i www.umaber.co.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576