Ailgyflwyno Undeb Aberystwyth...

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

UMAber yn Dathlu yw’r cyfle GORAU un i ddathlu pob dim sy’n ymwneud â myfyrwyr Aber.

Rydyn ni’n addo, trwy gydol yr wythnos hon, y byddwn ni’n rhannu pob stori, llwyddiant ac effaith gennych chi, ein myfyrwyr Aber, yn sgil popeth y buoch chi’n rhan ohono yn ystod y flwyddyn academaidd 2023-2024; rydyn ni am ddathlu’r rhain fesul addewid UMAber

I lansio wythnos y dathlu eleni, rydyn ni am ddatgelu “Undeb Aberystwyth”; eich Undeb Myfyrwyr.

Rhag ofn i chi fethu’r newyddion ychydig o wythnosau ‘nôl, dyma ddolen i’r hanes o sut y daethom ni yn Undeb Aberystwyth...

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo ei enw newydd – Undeb Aberystwyth (umaber.co.uk)

Yn fras, pleidleisiodd myfyrwyr Aberystwyth o blaid newid Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth (neu UMAber) yn y “Cyfarfod Mawr” ar ddydd Llun 4ydd o Fawrth a heddiw mae’n bleser gennym gyflwyno “Undeb Aberystwyth” i chi.

Carreg filltir sylweddol yn hanes yr Undeb yw’r newid hyn ac yn un sy’n dangos ein hymrwymiad i’r Gymraeg. Dyma gychwyn ar y daith heddiw i newid dros ystod o sianeli, dogfennau, y logo a chofrestru’r sefydliad yn swyddogol i adlewyrchu y newidiad hanesyddol hyn i’n henw, ac rydyn ni’n gobeithio cael ein hadnabod yn llawn fel Undeb Aberystwyth cyn gynted a phosib.

 

Mae hyn yn golygu, wrth gwrs, y bydd angen tipyn o ‘wedd newydd’ ar UMAber yn Dathlu yn y dyfodol ond am y tro mwynhewch UMAber yn Dathlu 2024 a chofiwch rannu lluniau, straeon a llwyddiannau dros bob math o gyfryngau cymdeithasol ar-lein.

 

#UMAberynDathlu #AberSUCelebrates

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576