Cadw Rolau Cynadeddau I Lywydd yr Undeb

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 29/04/2024

Yn darfod ar: 29/04/2027

Statws: Cyflawnwyd


Swyddog sy'n gyfrifol: Llywydd yr Undeb


Crynodeb:  

Dylid cadw rolau i lywyddion undebau fel cynrychiolwyr i gynadleddau Cymru a’r DU.

Manylion:

Cynadleddau UCM yw'r cynadleddau mwyaf ar y calendr myfyrwyr a dyma le gall Undebau Myfyrwyr hyrwyddo eu hunain ar lefel genedlaethol. Mae’r rhan fwyaf o undebau myfyrwyr yn cadw swydd cynrychiolydd i’r Llywydd gan mai nhw yw “llais cyhoeddus Undeb y Myfyrwyr a myfyrwyr.” Ar hyn o bryd nid oes gennym y polisi hwn yn Undeb Aberystwyth ac rwy'n meddwl os mai dyna sut y mae'r undeb yn gweld ei Lywydd y dylid cadw swyddi gwarantedig ar gyfer Cynadleddau Cenedlaethol a Chynadleddau UCM Cymru.

Cyflwynwyd gan: Bayanda Vundamina


Rhestr Weithredu

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
Mae’r Undeb bellach wedi penodi lle i’r Llywydd fynd i Gynhadledd yr UCM a’r Gynhadledd Genedlaethol. Bydd y Llywydd yn cael dewis i fynd ai pheidio. Caiff rolau eraill eu hysbysebu a’u llenwi yn ôl trefn Etholiadau’r Hydref. Yn ôl y rheol mae UCM yn nodi bod angen i 50% o'r cynrychiolwyr sy'n mynychu'r gynhadledd hunaniaethu fel menyw. Bydd hyn yn cael ei ystyried pan fydd enwebiadau'n agor. Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth Mehefin 2024
     

 


Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

 Llywydd Undeb

Bayanda Vundamina

prdstaff@aber.ac.uk

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576