Cronfa Caledi

Cronfa Caledi Prifysgol Aberystwyth

 

Ydw i’n gymwys ar gyfer y gronfa hon?

Mae’r Gronfa ar gael i fyfyrwyr o wledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd a myfyrwyr rhyngwladol sy’n symud ymlaen yn llwyddiannus ar leiafswm o 50% (60 credyd) o gwrs gradd llawn amser yn Aberystwyth. Os ydych chi’n astudio llai na hyn, byddai disgwyl fod gennych chi fwy o amser i chwilio am waith. Os ydych chi’n fyfyriwr Ôl-raddedig byddwch yn gymwys i wneud cais hyd at 12 mis ar ôl eich cyfnod cofrestru. Nid yw’r gronfa ar gael i chi os ydych chi’n astudio o bell neu ar y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith neu i fyfyrwyr sy’n astudio yn ein Campws Cangen Mawrisiws.

 

Pa fath o amgylchiadau y mae Cronfa Caledi’r Brifysgol yn cynnig cymorth?

Gallech chi gael cymorth yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Anawsterau sy’n ganlyniad i amgylchiadau anrhagweladwy neu annisgwyl go iawn na allech chi fod wedi cynllunio ar eu cyfer.
  • Anawsterau ariannol yn ganlyniad i ddiffyg incwm a gwariant hanfodol go iawn
  • Anawsterau ariannol tymor byr. Er enghraifft, oedi gyda Chyllid Myfyrwyr
  • Cymorth i dalu am gost eich adroddiad anghenion astudio.

 

Gwneud Cais ar gyfer Cronfa Caledi’r Brifysgol

  • Gallwch lenwi ffurflen gais ar-lein drwy MS Forms.
  • Efallai y bydd gofyn i chi gyfarfod ag Ymgynghorydd Myfyrwyr Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgoli i'ch drafod eich cais. Bydd y cyfarfod hwn yn anffurfiol a bydd yn rhoi cyfle i chi drafod eich amgylchiadau unigol yn fanwl.
  • Gwnewch yn siwr fod eich manylion banc yn gyfredol ar eich cofnod myfyriwr neu ni fydd modd i nhw drosglwyddo’r dyfarniad ariannol i chi.
  • Sicrhewch fod yr holl dystiolaeth ategol berthnasol wedi'i huwchlwytho gyda'ch cais. Bydd Ymgynghorydd Myfyrwyr mewn cysylltiad os oes unrhyw beth ar goll ond gall hyn oedi'r broses

 

Rwy wedi cyflwyno fy ffurflen gais. Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd eich cais yn cael ei asesu yn ôl canllawiau’r gronfa. Mae gwobrau’r gronfa yn dibynnu ar brofion modd. Bydd y Brifysgol yn bwrw cyfrif o’ch incwm a’i gymharu â’ch gwariant hanfodol i weld a oes diffyg. Ychwanegir swm penodol ar gyfer costau byw cyffredin er mwyn cyflenwi bwyd, nwy, trydan, biliau dwr, yswiriant cynnwys, trwydded deledu, dillad a ffôn. Gallai’r swm gynyddu os oes gennych blant. Byddant hefyd yn ystyried eich costau tai a theithio. 

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ar sut mae eich cais yn cael ei asesu, trefnwch apwyntiad i drafod hyn gyda Chynghorydd Myfyriwr o Wasanaeth Cyngor, 

Gwybodaeth ac Arian y Brifysgol o fewn Cymorth i Fyfyrwyr.

Cewch eich hysbysu ynghylch canlyniad eich cais trwy e-bost o fewn 10 niwrnod gwaith a bydd unrhyw wobr yn cael ei thalu o fewn 5 diwrnod gwaith pellach.

 

Sut bydd taliadau yn cael eu gwneud?

Anfonir mwyafrif y taliadau yn uniongyrchol at eich cyfrif banc DU. Gwnewch yn siwr bod eich manylion banc yn gywir a chyfoes ar eich Cofnod Myfyriwr. Ni fydd y Brifysgol yn gallu gwneud taliadau oni bai bod eich manylion banc yn gywir.

Bydd y Brifysgol yn ymdrechu i wneud taliadau cyn gynted â phosib unwaith bod penderfyniad yn cael ei wneud.  Ni ddylai gymryd mwy na 15 niwrnod gwaith i brosesu gwobrau. Mewn achosion arbennig y gellid ystyried gwneud taliadau brys. Gellir disgwyl oedi yn ystod cyfnodau pan fydd y Brifysgol ar gau neu pan fo galwad fawr.

Nodwch, efallai yr anfonir taliadau mewn rhandaliadau.

 

Cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau penodol neu fod arnoch angen cymorth pellach gyda’ch cais, rydym yn awgrymu i chi gysylltu â Gwasanaeth Cyngor ac Arian y Brifysgol sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor, cymorth ac atgyfeiriad ar ystod eang o faterion sy’n arbenigo mewn cyllid.

Gallwch anfon eich cwestiynau trwy e-bost, dyma gyfeiriad e-bost a rhif ffôn Gwasanaeth Cyngor ac Arian y Brifysgol : student-adviser@aber.ac.uk a 01970 621761/622087. Ar y llaw arall, gallwch drefnu apwyntiad gyda chynghorydd myfyrwyr. Ewch i weld eu gwefan ar-lein https://aims.aber.ac.uk/ a’i defnyddio i ddewis slot apwyntiad.

 

Cynhyrchwyd am y tro cyntaf: Ebrill 2022

Adolygwyd: Hydref 2023

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576